Eitem Rhaglen

Adroddiad Safonau Ysgolion (Haf 2019)

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar yr uchod.

 

Amlinellodd Deilydd Portffolio - Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant argymhellion yr adroddiad i’r Pwyllgor a nododd mai blaenoriaethau’r Cyngor yw parhau i godi safonau mewn addysg er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion gael y sgiliau gorau posibl yn ysgolion Môn.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc drosolwg manwl o’r adroddiad a dywedodd fod Llywodraeth Cymru ynghyd â nifer o bartneriaid ac arbenigwyr wedi cynnal adolygiad sylfaenol o’r system atebolrwydd ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Amlygodd y canfyddiadau fod llawer o ganlyniadau negyddol nas bwriadwyd i'r system bresennol a'i defnydd o fesurau perfformiad.  Cafodd datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, CLlLC ac Estyn i Gadeiryddion Sgriwtini, Aelodau Cabinet, Cyfarwyddwyr Addysg a Rheolwyr Gyfarwyddwyr y Consortia Addysg Rhanbarthol a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf, 2019 ei gynnwys yn yr adroddiad i’r pwyllgor. Dywedodd fod newidiadau cenedlaethol wedi cael eu cyflwyno i'r broses o adrodd ar asesiadau athrawon dros y ddwy flynedd diwethaf a bod hyn yn cefnogi prif amcanion dogfen Cymru: ‘Cenhadaeth ein Cenedl', wrth ddarparu trefniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn i gefnogi system sy'n gwella ei hun. Erbyn hyn, mae mwy o ffocws ar ddefnyddio data mewn hunanwerthuso ysgolion. Yn y system ddiwygiedig, gwerthusir ysgolion yn ôl y gwahaniaeth a wnânt i gynnydd pob plentyn. Hefyd dywedodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y prif feysydd gwella fel rhan o Gynllun Busnes Lefel 2 wedi’u cynnwys ar dudalen 33 o’r adroddiad.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Rhys Williams, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) ac i Mrs Sharon Vaughan, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) ddadansoddiad manwl o ddata perfformiad i’r Pwyllgor. 

 

Cyfnod Sylfaen

 

·           Fel y llynedd, dylid osgoi cymharu canlyniadau Cyfnod Sylfaen mewn iaith a mathemateg â blynyddoedd blaenorol ar lefel ysgol gan nad ydynt yn cael eu mesur ar sail gymaradwy. Mae Llywodraeth Cymru’n glir y bydd y ffocws ar gynnydd dysgwyr o’r asesiad gwaelodlin hyd at ddiwedd y Cyfnod Allweddol ac felly, am y tro cyntaf, caiff hyn ei gynnwys ar ddiwedd y flwyddyn adroddd;

·           Yn gyffredinol, mae safonau yn y Cyfnod Sylfaen yn Ynys Môn yn foddhaol.

Mae canran y disgyblion sy'n cyflawni'r Dangosydd Cyfnod Sylfaen (DCS) yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol ac mae wedi bod felly am y tair blynedd diwethaf. Fel y rhagwelwyd yn gyffredinol, yn sgil gweithredu'r Fframwaith Cyfnod Sylfaen newydd, bu gostyngiad yng nghanran y disgyblion a gyflawnodd y deilliannau disgwyliedig drwy Gymru yn 2018/19.  Roedd perfformiad yr awdurdod lleol yn adlewyrchu hyn yn y DCS ac ym mhob maes dysgu;

·           Mae effaith y gostyngiad yn y Gymraeg 05 + wedi cael effaith ar berfformiad yn y DCS.  Bu gostyngiad yn nifer y dysgwyr a gyflawnodd y deilliannau uwch hefyd yn genedlaethol ac eto adlewyrchwyd hyn yn neilliannau ysgolion ALl Ynys Môn;

·           Mae'r gwahaniaeth mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched yn Ynys Môn wedi aros yn debyg i'r llynedd, gyda merched yn perfformio'n well na bechgyn ym mhob maes dysgu o ryw 14%.  Mae’r anghysondeb yn y deiliannau uwch lle mae bechgyn yn perfformio ychydig yn well na merched mewn Datblygiad Mathemategol;

·           Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir y dylid canolbwyntio ar gynnydd Gwerth Ychwanegol rhwng y llinell sylfaen a diwedd y Cyfnod Sylfaen wrth werthuso cyflawniad disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen.  Mae cynnydd y disgyblion cyfatebol o garfan Derbyn 2017 Ynys Môn i ddiwedd Cyfnod Sylfaen 2019 yn dda.  Mae disgyblion yn gwneud o leiaf 3.28 o ganlyniadau cynnydd ym mhob maes.  Gwneir y cynnydd mwyaf yn yr Iaith Gymraeg gyda disgyblion yn gwneud cyfartaledd o 3.67 o ganlyniadau cynnydd. Mae’r data yn cadarnhau bod ysgolion yr awdurdod lleol yn dangos dull effeithiol a pharhaus o gynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd drwy gydol y Cyfnod Sylfaen.

 

Cyfnod Allweddol 2

 

·      Yn gyffredinol, mae'r safonau yng Nghyfnod Allweddol 2 yn Ynys Môn yn dda. Roedd perfformiad yn 2019 yn debyg i'r cyfartaledd cenedlaethol ac i ganlyniadau cyfartalog blynyddoedd blaenorol mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.  Fodd bynnag, mae canlyniadau Cymraeg gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol ac maent wedi gostwng eto o gymharu â chanlyniadau 2018.  Mae perfformiad ar y lefelau uwch hefyd yn debyg i'r cyfartaledd cenedlaethol mewn Saesneg a Mathemateg, ac ychydig yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth.  Mae safonau cyrhaeddiad yn y Gymraeg yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol am yr ail flwyddyn yn olynol;

·      Mae gostyngiad bach yng nghanran y disgyblion sydd a'r hawl i brydau ysgol (eFSM) a gyflawnodd y deilliant disgwyliedig yn 2019 yn y Dangosydd Pynciau Craidd (DPC).  Ar y lefelau uwch, gwelwyd gwelliant ym mherfformiad disgyblion Ynys Môn yn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth gyda mwy o ddisgyblion eFSM yn cyflawni'r deilliannau uwch nag unrhyw flwyddyn flaenorol;

·      Bu gostyngiad ym mherfformiad bechgyn yn ôl y disgwyl yn y DPC, tra cynyddodd y bwlch rhwng bechgyn a merched o’i gymharu â 2018.  Mae'r gwahaniaeth mwyaf mewn perfformiad yn y pynciau craidd i'w weld yn y canlyniadau Saesneg eleni.  Ar y lefelau uwch, mae'r bwlch rhwng bechgyn a merched wedi lleihau yn y Gymraeg, ond mae wedi cynyddu mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Mae'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer perfformiad bechgyn/merched ar y lefelau uwch eleni yn dangos cynnydd cyffredinol yn y gwahaniaeth ar draws y pynciau.

 

Rhoddodd Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) ddadansoddiad manwl o’r data perfformiad i’r Pwyllgor. 

 

 

 

Cyfnod Allweddol 3

 

·      Mae'r canlyniad eleni yn dechrau adlewyrchu'r newidiadau cenedlaethol, gyda phrif ffocws asesiadau athrawon wedi dechrau symud yn ôl i gynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr unigol ac i ffwrdd oddi wrth setiau data cyfanredol a ddefnyddir i ddwyn ysgolion i gyfrif;

·      Yn genedlaethol, roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn is na 2018 yn y DPC ac ym mhob un o'r pynciau craidd. Mae DPC Ynys Môn ychydig yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol gyda gostyngiad o 4.4% o gymharu â pherfformiad 2018. Roedd perfformiad y garfan o 2019 ar y lefel ddisgwyliedig yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ym mron pob un o'r pynciau craidd, ac eithrio Saesneg. Roedd perfformiad mewn Cymraeg Iaith Gyntaf yn is na 2018 , bu gostyngiad o -2.1%.

·      Gwelwyd gostyngiad ym mherfformiad bechgyn a merched yn y DPC ac ar draws y pynciau craidd yn 2019.  Mae perfformiad bechgyn yn y DPC, Cymraeg a Gwyddoniaeth yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae eu perfformiad yn gyfartal â'r cyfartaledd cenedlaethol mewn mathemateg.  Mae perfformiad merched ar Ynys Môn yn uwch na'r DPC cyfartalog a phob un o'r pynciau craidd ac mae perfformiad bechgyn ar y lefelau uwch mewn Mathemateg wedi gwella eleni ond wedi gostwng yn y pynciau craidd eraill;

·      Cynyddodd canran y disgyblion eFSM a gyflawnodd y deilliannau disgwyliedig ar draws yr Awdurdod yn 2019 yn y Gymraeg, ond gwelwyd gostyngiad yn y pynciau craidd eraill a'r DPC.  Ar y lefel uwch, bu gwelliant ym mherfformiad disgyblion eFSM Ynys Môn mewn Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ond bu gostyngiad yn Saesneg.

 

Cyfnod Allweddol 4

 

·      Cyflwynodd Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r Rhaglen Diwygio Addysg ar gyfer Cymru, fesurau perfformiad ar gyfer adrodd ar ddata canlyniadau Cyfnod Allweddol 4.  Y prif ddangosydd (sgôr pwyntiau ‘capio 9’) yw perfformiad ar gyfer y dyfarniadau gorau ar gyfer pob disgybl unigol yn y garfan, wedi'i gapio ar nifer penodol o gymwysterau TGAU neu gyfwerth.  Yn 2019, casglwyd data o fewn Cyfnod Allweddol 4 ar berfformiad yr arholiadau mynediad cyntaf a gymerwyd gan ddisgyblion ac felly mae'n amhosibl cymharu â mesurau perfformiad blaenorol gan mai’r mynediad cyntaf sy’n cyfrif yn hytrach na'r canlyniadau gorau;

·      Mae perfformiad yr awdurdod lleol yn y prif ddangosydd (capio 9) yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol gyda pherfformiad mewn dwy ysgol uwchradd uwchlaw'r cyfartaledd cenedlaethol a pherfformiad wedi'i fodelu.  Mae perfformiad yr Awdurdod yn is na'r perfformiad disgwyliedig mewn dwy ysgol uwchradd.

·      Mae’r cap ar berfformiad wedi lleihau rhwng bechgyn a merched eleni ac mae perfformiad disgyblion eFSM a phlant nad ydynt yn eFSM yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol, gyda chynnydd bach yn y bwlch mewn perfformiad o’i gymharu â 2018;

·      Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y gymhariaeth (gweler tudalennau 27 a 28 yr adroddiad) ynghylch perfformiad mewn Dangosyddion Tystysgrif Her Llythrennedd, Rhifedd, Gwyddoniaeth a Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar gyfer ysgolion uwchradd yr Ynys.

 

Cyfnod Allweddol 5

 

·      Dangoswyd gostyngiad bach yng nghyfanswm nifer y cofrestriadau ar gyfer lefel A yn Ynys Môn. Yn ystod cyfnod treigl o 3 blynedd gwelwyd gwelliant mewn deilliannau ar raddau A*/A a graddau A*-C;

·      Mae data gwerth ychwanegol ALPs sy'n seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan ysgolion yn awgrymu bod disgyblion ôl-16 yn Ynys Môn yn gwneud cynnydd cadarn. Mae'r data hwn yn awgrymu bod ysgolion Ynys Môn, ar y sgôr 'T', yn perfformio yn y 40% uchaf o ysgolion yn y gronfa ddata o ysgolion ar draws Cymru a Lloegr, sy’n well na pherfformiad y blynyddoedd blaenorol;

·      Mae pedair o'r pum ysgol uwchradd yn Ynys Môn wedi gwella eu perfformiad yn y Dangosydd Ansawdd gydag un ysgol yn gwneud cynnydd rhagorol eleni ac ymhlith y 25% ychaf o ysgolion yn y gronfa ddata o ysgolion yng Nghymru a Lloegr. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion canlynol:

 

·      Gofynnwyd am eglurhad a oedd digon o adnoddau CBAC bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg i alluogi disgyblion i lwyddo yn eu harholiadau.  Dywedodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) ei bod yn gyfrifoldeb ar CBAC i ddarparu adnoddau yn y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer Cyfnodau Allweddol 4 a 5.  Cytunodd fod achosion wedi bod lle nad yw'r adnoddau yn y ddwy iaith wedi bod ar gael ar gyfer rhai pynciau ond yn ddiweddar nid yw'r un ysgol wedi adrodd nad yw'r adnoddau gan CBAC yn ddigonol;

·      Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â'r rhesymau pam fod y data asesu yn ystod Cyfnod Allweddol 2 o ran y Gymraeg wedi gostwng o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.  Dywedodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) fod cynradd ysgolion yn asesu'r data Cymraeg cynradd fel iaith gyntaf.  Bydd angen aros am ddata perfformiad am bedair blynedd o ran y polisi Addysg newydd ar gyfer y plant hynny nad ydynt wedi cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.  Dywedodd fod ysgolion yn ymwybodol o'r mater hwn a'u bod yn parhau i fonitro'r sefyllfa;

·      Cyfeiriwyd at y newidiadau cenedlaethol i'r diwygiad addysgol a chodwyd cwestiynau ynghylch a yw'r newidiadau diweddar yn golygu bod modd nodi meysydd gwan o fewn y system addysg.   Dywedodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) ei bod yn hanfodol bod y prosesau asesu o fewn yr ysgolion yn ddigon cadarn i fesur gwelliant plant.  Roedd yn ystyried bod y newidiadau addysgol cenedlaethol newydd wedi mireinio prosesau ysgolion wrth gasglu data; mae GwE yn cefnogi ysgolion gyda’r prosesau monitro o fewn y system addysg.  Dywedodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) fod newid o fewn y sector uwchradd wedi digwydd yng Nghyfnod Allweddol 4 nad yw ysgolion uwchradd yn canolbwyntio'n benodol ar berfformiad A *-C ond bod pob gradd yn cael ei monitro fel system bwyntiau o fewn y broses arholi; mae hyn yn caniatáu i ysgolion ganolbwyntio'n ehangach ar ffin graddau C-D fel oedd yn digwydd o’r blaen;

·      Gofynnwyd am eglurhad pam fod perfformiad ysgolion yn Lloegr yn well nag ysgolion yng Nghymru.  Atebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cydweithio rhwng ysgolion o fewn strwythur penodol yn hollbwysig i wella perfformiad ysgolion.  Nododd fod GwE yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Datblygu Addysg sydd wedi gweithio'n llwyddiannus o fewn ysgolion yn Lloegr a gwledydd eraill mewn perthynas â strwythur gwaith penodol mwy effeithiol o fewn cydweithio mewn ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad ar Ddeilliannau Ynys Môn 2019;
  • Cymeradwyo prif feysydd gwella ALl Ynys Môn;
  • Cymeradwyo’r datblygiadau o safbwynt y gwaith ymgysylltu â phartneriaid yn Ynys Môn;
  • Cymeradwyo’r broses atebolrwydd rhwng Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn a GwE.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

Dogfennau ategol: