Eitem Rhaglen

Trawsnewid Cyfleon Dydd Anableddau Dysgu

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn bwysig nodi mai’r bobl sy’n defnyddio cyfleoedd dydd anableddau dysgu sy’n bwysig wrth ystyried yr adroddiad hwn a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Diolchodd i’r Swyddog am ei waith yn trafod gyda’r defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’r darparwyr gwasanaeth ynglŷn â’r cyfleusterau y maent yn awyddus i’w gweld yn y dyfodol.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn angenrheidiol ail-lunio a moderneiddio'r gwasanaethau cyfleoedd dydd er mwyn datblygu cyfleoedd cynaliadwy i unigolion gyflawni eu potensial a gwella ymhellach y modd y cyflenwir y gwasanaeth yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.  Nododd fod gan y Cyngor nifer o gyfleoedd dydd gwahanol ar hyn o bryd i bobl ag anableddau dysgu, gyda rhai ohonynt yn wasanaethau mewnol sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor ac eraill sy’n cael eu comisiynu'n allanol.  Mae'r ddarpariaeth fewnol bresennol ym Morswyn, Caergybi, Blaen y Coed, Llangoed, Gerddi Haulfre, Llangoed a'r Gors Felen, Llangefni.  Nid yw gweithdy Canolfan Byron wedi'i gynnwys yn y gwaith o drawsnewid y canolfannau dydd i bobl anabl ar hyn o bryd ond bydd yn cael ei adolygu o dan ffrwd waith ar wahân.   O dan gyfarwyddyd Bwrdd Trawsnewid Gwasanaeth Oedolion trefnwyd cyfres o ymweliadau â chanolfannau dydd amrywiol ar yr Ynys gyda chyfleoedd i bob Aelod Etholedig fynd iddynt. Cynhaliwyd gweithdai i gynnal arfarniad o'r opsiynau a gyflwynwyd ar gyfer dyfodol y canolfannau dydd.  Nododd fod y gwasanaeth yn ymgymryd â'r newidiadau hyn er mwyn adlewyrchu'r cynnydd yn y galw a sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol.  Mae’r heriau allweddol a wynebir gan y canolfannau dydd mewnol presennol wedi'u cynnwys ar dudalen 7 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ymhellach mai'r cynnig yw datblygu mwy o gyfleoedd yn y gymuned i bobl ag anableddau dysgu, ehangu’r ddarpariaeth yng Ngors Felen a chau'r gwasanaethau a ddarperir ym Morswyn, Blaen y Coed a Gerddi Haulfre.  Byddai'r gwasanaeth newydd yn cynnig cyfleoedd hyblyg i bobl ag anableddau dysgu a byddai'n bodloni’r galw yn y dyfodol gan gynnwys pobl ag anghenion mwy cymhleth.

 

Roedd yr Aelodau'n cytuno bod angen adolygu a gwella'r gwasanaethau dydd a gynigir i bobl ag anableddau dysgu. Fodd bynnag, mae angen cynnwys y drafodaeth gyda phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'u teuluoedd mewn trafodaeth onest ac addysgiadol o ran y cyfleusterau a gynigir yn y dyfodol ac mae angen i bobl ag anableddau dysgu fod yn ganolog i'r drafodaeth hon.  

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion canlynol:-

 

·      Gofynnwyd am eglurhad o'r amserlen y mae'r Gwasanaethau Oedolion yn ei hystyried, ar ôl ymgynghori a allai arwain at gau rhai o'r cyfleusterau dydd anableddau dysgu.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd angen ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth ac y byddai unrhyw benderfyniad i gau unrhyw gyfleuster anabledd dysgu yn cael ei wneud dros gyfnod o amser. Dywedodd Arweinydd y Cyngor a Deilydd Portffolio - Gwasanaethau Cymdeithasol na fydd rhai o'r cyfleusterau a gynigir gan y Cyngor mewn lleoliadau penodol yn cau ac y gallai darparwr trydydd sector gymryd y cyfleuster drosodd.  Mae angen ymgynghori â gwasanaethau darparwyr presennol sy'n rhoi cymorth o fewn y canolfannau dydd ar gyfer anableddau dysgu o ran y gwasanaethau a ddarperir yn y canolfannau hyn;

·      Cyfeiriwyd yn yr adroddiad at y ffaith bod rhai defnyddwyr gwasanaeth yn gorfod teithio yn ôl a blaen i'r gwasanaethau dydd am gyfnod sylweddol o amser ar gludiant sy’n cael ei ddarparu gan y Cyngor.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod hwn yn fater y tynnwyd sylw ato, gyda phobl yn gorfod cymudo am gyfnod sylweddol ar gludiant a drefnir; mae Gwasanaethau Oedolion yn cydnabod ei bod yn annerbyniol i bobl orfod bod ar fysiau am gyfnod sylweddol o amser.  Mae Gwasanaethau Oedolion o'r farn y byddai cael cyfleusterau yn y gymuned yn ddarpariaeth fwy effeithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth cyfleoedd dydd anableddau dysgu.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith:-

 

·           Gefnogi’r egwyddor o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i ddatblygu cyfleoedd yn y gymuned i bobl ag anableddau dysgu;

·           Awdurdodi swyddogion i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: