Eitem Rhaglen

Rhenti’r CRT a Thaliadau’r Gwasanaeth Tai 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynyddu'r rhent a'r taliadau gwasanaeth ar gyfer 2020/21 i'w hystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod Llywodraeth Cymru ar 18 Rhagfyr, 2019 wedi cadarnhau ei bod wedi cytuno ar bolisi Llywodraeth Cymru ar Renti Tai Cymdeithasol ar gyfer 2020/21. Mae'r Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy wedi argymell y dylid gweithredu polisi rhenti 5 mlynedd er mwyn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i denantiaid ac argymhellir hefyd y dylai landlordiaid ystyried gwerth am arian yn ogystal â fforddiadwyedd. Bydd y fformiwla ar gyfer y cynnydd mewn rhent blynyddol yn cael ei osod ar y mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) o 1.7% fel oedd y gwerth ym mis Medi, 2019 ynghyd ag 1%. Oherwydd bod lefelau rhent cyfredol y Cyngor yn sylweddol is na'r rhenti targed yn y polisi, bydd angen cynnydd wythnosol o hyd at £2 uwchben y cynnydd chwyddiant canrannol (yn achos y rhenti sy’n is na’r rhent targed) er mwyn sicrhau eu bod yn gyson gyda rhent darparwyr tai cymdeithasol eraill.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau sylw at y ffaith ei bod yn ofynnol i bob awdurdod lleol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, weithredu'r Polisi Rhentbyddai gwrthod y polisi hwn yn y pen draw yn golygu y byddai’r Awdurdod yn colli incwm ac y byddai hynny’n anochel yn effeithio ar y gwasanethau a ddarperir. Byddai hyn hefyd yn tanseilio’r Cynllun Busnes CRT ac o bosib yn ein gadael yn agored i ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Gallai gwrthod y polisi hwn hefyd beryglu’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr blynyddol o dros £2.66 miliwn a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru oherwydd gellid ystyried nad ydym yn gwneud y mwyaf o’n cyfleoedd i greu incwm.

 

Mewn ymateb i gwestiynau am fforddiadwyedd ac effaith bosibl ar allu tenantiaid i dalu, dywedwyd wrth y Pwyllgor Gwaith fod y cynnydd arfaethedig yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol. Hefyd, mae gan y Gwasanaethau Tai dri o Swyddogion Cynhwysiant Ariannol sydd ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i denantiaid am faterion cynhwysiant ariannol sy’n canolbwyntio’n gryf ar gynyddu sgiliau gallu ariannol a chyllidebu er mwyn i bobl allu rheoli eu harian a chael mynediad i wasanaethau ariannol prif lif. Datblygwyd cysylltiadau hefyd i wella arferion gwaith ar lefel strategol a gweithredol gyda phartneriaid mewnol ac allanol fel sefydliadau cymorth a chyngor, elusennau a chyfleustodau.

 

Penderfynwyd 

 

           Cymeradwyo’r cynnydd mewn rhent yn unol â rhent targed Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gasgliad dros 51 wythnos.

           Cymeradwyo cynnydd o 2.7% yn yr holl renti sydd rhwng £0.41 - £4.47 yn is na’r targed yn ogystal â swm hyd at yr uchafswm o £2.00 yr wythnos i gyrraedd y rhent targed.

           Cymeradwyo cynnydd o 2.7% yn yr holl renti sydd rhwng £3.87 - £5.01 yn is nar targed a £2.00 ychwanegol yr wythnos.

           Bod y rhent ar gyfer y 3 eiddo sydd â rhent uwch na’r lefel targed yn aros fel y mae.

           Cymeradwyo cynnydd o 22c yr wythnos ar gyfer rhenti’r holl garejys.

           Cymeradwyo’r taliadau gwasanaeth a nodir yn adran 3.3 yr adroddiad ar gyfer yr holl denantiaid sy’n derbyn y gwasanaethau perthnasol.

Dogfennau ategol: