Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni : Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Raglen Moderneiddion Ysgolion y Cyngor Sir mewn perthynas ag Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori papur cynnig ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni mewn perthynas ag Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i “gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd plant Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig”.

 

Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnig i foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, ac a oedd yn ymwneud yn benodol ag Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Fel y gwnaeth dan eitem 2, cyfeiriodd at gefndir y mater, pan benderfynodd y Cyngor, drwy’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor Gwaith, i ddiddymu’r penderfyniadau gwreiddiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, gan ofyn i Swyddogion edrych o’r newydd ar y gwahanol faterion mewn perthynas â hynny a gofynion Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r papur cynnig yn rhan o’r broses hon ac yn asesiad mewnol cychwynnol y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo fel sail i ymgynghoriad statudol. Cyfeiriodd at weledigaeth yr Awdurdod a ysgogodd ei raglen foderneiddio ysgolion, a’i phrif amcan wrth geisio creu’r amgylchedd addysgol orau posib i ganiatáu i athrawon a disgyblion lwyddo, a thrwy hynny hyrwyddo safonau uchel. Wrth wneud hynny, roedd yn derbyn y gall newid fod yn anodd a hyd yma mae gweithredu’r rhaglen moderneiddio ysgolion wedi bod yn heriol ar brydiau, a’i fod wedi golygu cau rhai ysgolion cynradd ar y naill law ond, ar y llaw arall, mae wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol o £22m mewn addysg ar yr Ynys drwy greu tair ysgol newydd ar gyfer cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Wrth amlinellu’r broses a’r amserlen i’w dilyn ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus pe cymeradwyid y papur cynnig, anogodd yr Aelod Portffolio yr holl randdeiliaid a phawb sydd â diddordeb i gymryd rhan ac i gyflwyno eu safbwyntiau er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad mor ystyrlon â phosib.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl ifanc bod y cyflwyniad cyffredinol a roddodd dan eitem 2 ynghylch y prif yrwyr ar gyfer newid a’r meini prawf ar gyfer darpariaeth addysg yng nghyd-destun ardal ehangach Llangefni yn berthnasol yn yr achos hwn hefyd a daeth dadansoddiad o’r holl opsiynau amgen rhesymol ar gyfer y ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni (adran 5 o’r papur cynnig) i’r casgliad nad oes datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan. O’r herwydd, ac oherwydd eu hagosatrwydd daearyddol, canolbwyntiwyd ar ganfod datrysiad posibl ar wahân ar gyfer dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn a datrysiad ar wahân a dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir (y rhoddir sylw iddo dan eitem 2). Amlinellodd y Swyddog yr heriau allweddol sy’n wynebu Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn (adran 6) a dywedodd bod deg opsiwn amgen rhesymol (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Talwrn a naw opsiwn amgen rhesymol ar gyfer Ysgol Y Graig wedi cael eu hystyried a’u dadansoddi yn erbyn gyrwyr allweddol moderneiddio ysgolion a’r meini prawf ar gyfer addysg yn ardal Llangefni (adrannau 7 a 8 o’r papur cynnig). Cyfeiriodd y Swyddog at yr opsiynau amgen rhesymol ar gyfer ardal Llangefni, fel yr amlinellir yn adran 5 y papur, a rhoddodd grynodeb ohonynt fel a ganlyn - 

 

           parhau â'r trefniadau presennol - Gadael Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn fel y maent;

           ffedereiddio Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn gydag Ysgol Gyfun Llangefni (Ysgol Uwchradd);

           ffedereiddio Ysgol Y Graig ac Ysgol Corn Hir (symud Ysgol Corn Hir i ysgol newydd a chynyddu capasiti Ysgol Corn Hir). Ehangu’r ffederasiwn ymhellach ymlaen i gynnwys Ysgol Bodffordd, Ysgol Talwrn ac Ysgol Gyfun Llangefni dan un corff llywodraethu;

           un ysgol gynradd newydd yn Ardal Llangefni ar gyfer disgyblion Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn;

           ysgol Pob Oed newydd yn Llangefni ar gyfer Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn;

           cynnal gwaith ôl-groniad cynnal a chadw ar yr holl ysgolion;

           ehangu’r holl ysgolion cynradd;

           clystyru, cydweithrediad rhwng ysgolion yn ardal Llangefni;

           defnyddio’r ysgolion fel hybiau cymunedol i letya/cefnogi gwasanaethau cymuned e.e. Iechyd, cyfleusterau gofal plant, dysgu i deuluoedd ac oedolion, addysg i’r gymuned, chwaraeon, hamdden, gweithgareddau cymdeithasol;

           cyd-leoli gwasanaethau lleol mewn ysgolion;

           sefydlu ysgolion aml-safle (CA1 – ar un safle) (CA2 – ar safle arall).

 

Mae’r dadansoddiad wedi dangos mai dim ond y cynnig dan ystyriaeth sy’n cael effaith gadarnhaol ar safonau, y gymuned a threfniadau teithio disgyblion yn eu cyfanrwydd. Hefyd, daeth yr asesiad i’r casgliad y bydd rhaid i’r Cyngor liniaru effaith y posibilrwydd o gau Ysgol Talwrn drwy ddarparu cludiant ar gyfer disgyblion cymwys o Ysgol Talwrn i’r ysgol newydd, fwy. Golyga’r asesiad mai’r cynnig a ffafrir gan yr Awdurdod er mwyn cynnal ymgynghoriad statudol arno yw “cynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn”. Byddai’r cynnig yn golygu ehangu Ysgol y Graig a’i chadw ar agor yn y dyfodol; byddai corff llywodraethu Ysgol y Graig yn llywodraethu’r ysgol fwy. Byddai’r Awdurdod yn ceisio sicrhau cynrychiolaeth o Ysgol Talwrn ar y corff llywodraethu a byddai Ysgol Talwrn yn cau.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor ar 14 Ionawr lle craffwyd ar y papur cynnig a lle cafwyd cyfraniadau gan gynrychiolwyr o Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Cynigiwyd opsiwn arall, sef cadw Ysgol Talwrn a’i ffedereiddio ag ysgol arall (Ysgol Llanbedrgoch o bosib, gan fod Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Talwrn wedi dweud wrth y Pwyllgor fod y ddwy ysgol yn cydweithio’n dda), ond ni dderbyniodd y cynnig ddigon o gefnogaeth gan aelodau’r Pwyllgor. Yn dilyn hynny, penderfynodd  y Pwyllgor, gyda chefnogaeth mwyafrif yr aelodau, i argymell y cynnig i “gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig” i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am graffu’n fanwl ar y ddau bapur cynnig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y papur cynnig, gan gymryd i ystyriaeth argymhelliad Sgriwtini ynghylch y cynnig a ffafrir a nododd mai pwrpas y papur cynnig oedd darparu sylfaen ar gyfer ymgynghoriad statudol a bod rhanddeiliaid yn cael eu hannog i ymateb iddo; pwysleisiwyd pa mor bwysig oedd hynny er mwyn i’r ymgynghoriad fod mor ystyrlon â phosibl.

 

Cynigiodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig “i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig”, ac awdurdodi Swyddogion i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig.

 

 

Dogfennau ategol: