Eitem Rhaglen

Monitro Cyllideb Refeniw – Chwarter 3, 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, ar sail y wybodaeth ar ddiwedd Chwarter 3, gan gynnwys cyllid corfforaethol a’r Dreth Gyngor, y rhagwelir gorwariant o £1.246m yn 2019/20, sydd yn cyfateb i 0.92% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2019/20. Mae hyn i’w briodoli i bwysau ariannol tebyg i’r rhai a brofwyd yn 2018/19, yr adroddwyd arnynt drwy gydol y flwyddyn ariannol bresennol wrth adrodd ar y gyllideb, a’r pwysau mwyaf sylweddol yw costau yn y Gwasanaeth Oedolion a Chludiant Ysgol. Mae angen i’r Gyllideb ar gyfer 2020/21 roi sylw i’r pwysau ar y meysydd hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y gorwariant o £1,246m a ragwelir yn destun pryder oherwydd y bydd rhaid cwrdd â’r costau o Gronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol y Cyngor a rhagwelir y bydd yr arian wrth gefn yn gostwng ymhellach i lai na £5m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae hyn yn sylweddol is na’r isafswm o £6.7m a bennwyd ar gyfer y gronfa wrth gefn gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 27 Chwefror, 2019. Yn ystod y flwyddyn mae cynnydd yn nifer y cleientiaid y mae angen darpariaeth gostus arnynt wedi rhoi pwysau ar gyllidebau Gofal Cymdeithasol Oedolion - mae cynlluniau i gydnabod y pwysau hwn yng Nghyllideb 2020/21.

 

Wrth nodi’r wybodaeth, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a yw’r gorwariant wedi digwydd oherwydd bod y gwasanaeth yn gwario mwy na’i gyllideb graidd neu a yw’r adnoddau a ddyrannir wrth bennu’r gyllideb graidd yn annigonol i gwrdd â’r galw. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a fyddai’n bosib bod yn fwy manwl gywir wrth ragweld y galw er mwyn tynnu pwysau oddi ar gynllunio’r gyllideb.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, er nad yw’n bosib rhagweld pob un achos costus, mae’r Gwasanaeth yn ceisio rhoi cynllun 3 blynedd mewn lle fydd yn rhoi sylw i bob maes, o Anableddau Dysgu i Iechyd Meddwl, ac a fydd yn nodi’r camau y gellir eu cymryd i ragamcanu’r nifer tebygol o atgyfeiriadau ac i reoli costau wrth i’r atgyfeiriadau hynny ddod i mewn. Bydd hyn yn caniatáu i’r Gwasanaeth ystyried yr heriau o ran ariannu, comisiynu a chydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o reoli’r galw, a’i leihau cyn belled â phosib, o fewn y gofyn cyffredinol i ddiwallu anghenion pobl. Ni fydd y Gwasanaeth fyth mewn sefyllfa i ragweld y galw yn fanwl gywir gan fod rhai unigolion yn dirywio’n gyflym gan olygu eu bod angen darpariaeth fwy dwys a bydd unigolion yn parhau i symud i fyw ar yr Ynys a rhai ohonynt angen cefnogaeth.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod £1.4m o arian ychwanegol wedi ei gynnwys yn y Gyllideb ar gyfer 2019/20 i gefnogi’r Gwasanaethau Plant, a oedd yn wynebu sefyllfa debyg y llynedd o ran gorwariant, a bod y camau hynny wedi arwain at welliant sylweddol yng nghyllideb y Gwasanaeth hwnnw yn 2019/20. Fodd bynnag, oherwydd bod rhagweld y galw yn anodd ei wneud, mae’r sefyllfa o ran Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant yn ansefydlog. Mae poblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd yn y galw yn golygu bod angen strategaeth genedlaethol mewn gwirionedd i ddatrys problemau ariannu ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion neu bydd cynghorau yn parhau i orfod delio gyda materion wrth iddynt godi yn hytrach na chynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol

 

           Y sefyllfa a amlinellir yn atodiadau A a B yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2019/20.

           Crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir arnynt yn Atodiad C.

           Y sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglen buddsoddi i wario yn Atodiad CH.

           Y sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2019/20 yn Atodiad D.

           Y modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2019/20 yn Atodiadau DD, E ac F.

Dogfennau ategol: