Eitem Rhaglen

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2020/21.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a’i argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith a dywedodd bod rhaid i’r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol bob blwyddyn i gyd-fynd â newidiadau a wneir gan Lywodraeth Ganolog i lefelau budd-daliadau a phensiynau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth bennu ffioedd ar gyfer cartrefi gofal yn y sector annibynnol rhaid dangos ei fod wedi rhoi ystyriaeth lawn i gostau’r ddarpariaeth wrth benderfynu ar ffioedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad ag Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd drwy ddefnyddio Methodoleg Ffioedd Rhanbarthol, fel y gwnaed yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr Awdurdod yn parhau i ddefnyddio’r model hwn ar gyfer 2020/21 sy’n adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol mewn perthynas â phensiynau, y cyflog byw cenedlaethol a chwyddiant. Fel rhan o’r broses pennu ffioedd ar gyfer 2020/21, mae ynys Môn wedi ymgynghori ar y fethodoleg ffioedd Gogledd Cymru ac ni dderbyniwyd unrhyw adborth. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Swyddog Adran 151, mae’r Awdurdod yn argymell defnyddio’r fethodoleg Ranbarthol ar gyfer Gofal Preswyl i Bobl Hŷn Bregus eu Meddwl (EMI) ac elfen Gofal Cymdeithasol Gofal Nyrsio Sylfaenol. Mae’r gwasanaeth yn argymell cynnydd o 12% yn yr elw ar fuddsoddiad (ROI) ar leoliadau Nyrsio EMI i gydnabod y pwysau yn y maes hwn ac yn unol â’r ffioedd a gynigir gan awdurdodau lleol cyfagos. Yn unol â’r cyfeiriad strategol y mae’r Cyngor yn ei gymryd o ran datblygu dewisiadau amgen ar ffurf Tai Gofal Ychwanegol a gofal cartref, ac wedi ystyried fforddiadwyedd y cynnydd a gynigir ar gyfer cartrefi gofal preswyl, cynigir pennu’r raddfa ar gyfer gofal preswyl (Oedolion) yn seiliedig ar gyfradd is o elw ar incwm, sef 9%. Nodir y ffioedd y mae Ynys Môn yn eu hargymell ar gyfer 2020/21 yn Nhabl 2 yr adroddiad.

 

Eglurodd y Swyddog efallai y bydd angen ystyried cyflwyniadau unigol gan ddarparwyr ynghylch y ffioedd hyn. Petai tystiolaeth glir i ddangos nad yw'r ffi a bennwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol, bydd angen i’r Cyngor ystyried eithriadau i’r ffioedd a bennwyd.

 

Penderfynwyd

 

           Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru fel sylfaen ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2020/21 (Atodiad 1).

           Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd fel y nodwyd yn Nhabl 2;

           Yr un modd ag Awdurdodau eraill, rhoi’r awdurdod i’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyllid ymateb i unrhyw geisiadau gan Gartrefi i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Adnoddau a’r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol o’r cyllidebau cyfredol. Oni fedrir dod i gytundeb, bydd y mater yn mynd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ategol: