Eitem Rhaglen

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ynglŷn â defnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau. Mae’r adroddiad yn nodi asesiad y Swyddog Adran 151 ar lefel balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn ar gyfer 2020/21 ac yn gwneud argymhellion mewn perthynas â dyrannu balansau cyffredinol i’w defnyddio yn ystod 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y balansau cyffredinol yn £5.192m ar 31 Mawrth 2019, gostyngiad o £987k o’r flwyddyn flaenorol. Er nad oes rheol bendant ynghylch lefel y balansau y dylai Cyngor eu cynnal, mae rheol y fawd yn bodoli sy’n awgrymu y dylai balansau gyfateb i 5% o’r gyllideb refeniw net. Mae hyn yn cyfateb i swm o £7.1m ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn yn 2020/21. Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd gorwariant o £1.24m yn y gyllideb refeniw yn 2019/20 fydd yn cael ei ariannu o’r balansau cyffredinol. Yn ogystal, bydd £425k yn cael ei symud i gronfeydd wrth gefn gwasanaeth os yw’r Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo hynny yn dilyn mabwysiadu dull newydd fydd yn caniatáu gwasanaethau i drosglwyddo tanwariant (os oes tanwariant ar gyllidebau y gellir eu rheoli ac nad ydynt yn cael eu harwain gan y galw) i gronfa wrth gefn gwasanaeth er mwyn cynorthwyo i reoli pwysau neu i ariannu prosiectau yn y dyfodol lle nad oes cyllideb ar eu cyfer. O ystyried yr holl faterion hyn, amcangyfrifir y bydd y balansau cyffredinol yn gostwng i tua £4.6m ar 31 Mawrth 2020. Yn ogystal, mae gan y Cyngor nifer o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd at ddibenion penodol, fel y rhestrir yn adran 4.1 yr adroddiaddywedodd yr Aelod Portffolio ei fod wedi gofyn i’r Swyddog Adran 151 adolygu’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i ganfod a fyddai modd eu rhyddhau neu eu trosglwyddo i’r balansau cyffredinol.

 

Ychwanegodd yr Aelod Portffolio nad yw’n realistig, yn yr hinsawdd ariannol bresennol, i gynllunio am warged er mwyn cynyddu’r balansau cyffredinol fel eu bod yn cyrraedd y lefel sylfaenol a bod rhaid cynyddu’r balansau cyffredinol yn raddol dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal astudiaeth o gadernid ariannol pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae’r adborth cychwynnol a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn, cyn cyhoeddi’r adroddiad ffurfiol, wedi amlygu bod y gostyngiad ym malansau’r Cyngor yn risg ariannol i’r Cyngor ac y bydd rhaid rhoi sylw i’r mater yn ystod y blynyddoedd nesaf. Cadarnhaodd y Swyddog bod adolygiad cychwynnol o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi nodi dwy gronfa wrth gefn y gellir eu trosglwyddo’n ôl i’r balansau cyffredinol. Er bod balansau ysgolion Ynys Môn wedi bod yn uchel yn hanesyddol o gymharu ag ysgolion mewn rhannau eraill o Gymru, maent wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac ar 31 Mawrth 2019 roedd balansau ysgolion yn £0.631m. Mae’n debygol iawn y bydd y gronfa wrth gefn hon yn gostwng ymhellach yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 er na fydd hyn yn cael ei gadarnhau nes bydd cyfrifon 2019/20 wedi cau ac yn dilyn hynny cyflwynir adroddiad pellach i’r Pwyllgor Gwaith tua mis Gorffennaf 2020.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r polisi cyffredinol ynglŷn â chronfeydd wrth gefn a balansau a fabwysiadwyd ar 1 Mawrth 2016, fel y nodir hynny yn Atodiad A.

           Cymeradwyo'r newid i'r polisi cyffredinol ar gronfeydd wrth gefn a balansau a fabwysiadwyd ar 1 Mawrth 2016, fel y nodir hynny yn Atodiad A.

           Pennu isafswm balansau cyffredinol o £7.11m ar gyfer 2020/21 yn unol ag asesiad y Swyddog Adran 151.

           Cynllunio am gynnydd yn y balansau cyffredinol dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd er mwyn sicrhau bod lefel gwirioneddol y cronfeydd wrth gefn yn cyrraedd y lefel sylfaenol. Cyflawnir y cynnydd yma drwy gyllidebu am wargedau blynyddol a gynllunnir.

           Cadarnhau parhad y cronfeydd wrth gefn presennol a glustnodwyd.

           Cymeradwyo trosglwyddo cronfeydd wrth gefn Morgeisi Gofalwyr Maeth a System Rheoli Polisïau o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i’r Cronfeydd wrth gefn Cyffredinol.

 

Dogfennau ategol: