Eitem Rhaglen

Polisi Cymorth Dewisol Trethi Busnes

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ynghylch mabwysiadu Fframwaith Rhyddhad Dewisol Ardrethi Busnes ar gyfer elusennau a sefydliadau dielw ar gyfer y blynyddoedd ariannol hyd at 31 Mawrth, 2026 i'r Pwyllgor Gwaith eu hystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Gyllid fod y Fframwaith Rhyddhad Dewisol Ardrethi Busnes wedi'i gyflwyno i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith bob blwyddyn ac fel y dywed y ddogfen, rhaid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru roi rhyddhad ardrethi gorfodol i elusennau y darperir ar eu cyfer o fewn Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1998 (LGFA88) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. O dan y LGFA88, gall awdurdodau lleol hefyd roi rhyddhad dewisol neu ddileu ardrethi o hyd at 100% o'r ardrethi sy'n daladwy am eiddo a feddiennir gan elusennau (swm ychwanegol o 20% yn ogystal â rhyddhad gorfodol o 80%) a sefydliadau eraill nad ydynt yn gwneud elw. Ar 18 Chwefror, 2019 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ymestyn ei Fframwaith Rhyddhad Dewisol Ardrethi BusnesElusennau a Sefydliadau Nad ydynt yn Gwneud Elw ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20 ac i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith gyda'r bwriad o weithredu fframwaith diwygiedig (os yw'n berthnasol) ar 1 Ebrill, 2020. Cynhaliwyd ymgynghoriad 3 haen o dan Gynllun Ymgynghori ac Ymgysylltu'r Cyngor yn ystod Chwarter 1 a ddaeth i ben ar 31 Awst, 2019 a chysylltwyd â phob trethdalwr a oedd yn gymwys i gael rhyddhad dewisol o dan y polisi cyfredol. Er bod yr ymateb yn siomedig (dim ond 4 ymatebwr gyda 2 o'r rheini'n gwneud hynny'n ddienw) mae'r diffyg ymateb yn awgrymu bod y polisi presennol yn cael ei dderbyn yn gyffredinol ac nad oes unrhyw agweddau’n cael eu herio'n ddifrifol. Gan ystyried yr ymateb cyfyngedig a gafwyd, cynigir felly nad yw'r polisi presennol yn cael ei newid ond bod yr arfer o ymestyn y polisi'n flynyddol yn cael ei ddisodli gan gyfnod penodol sy’n cyd-fynd â'r cylch ailbrisio pum mlynedd. (Er y bydd ailbrisio ardrethi annomestig yng Nghymru yn digwydd nesaf yn 2021, y cynnig yw cadw at y polisi presennol tan yr ailbrisiad dilynol yn 2026). Gall Aelodau ddewis diwygio'r fframwaith yn ystod y cyfnod hwn ond mae'n rhaid rhoi rhybudd o o leiaf un flwyddyn ariannol lawn i drethdalwyr.

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai cost bresennol y cynllun i'r Cyngor yw £64,338 y telir amdano gan ddarpariaeth o £70k yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21.

 

Penderfynwyd 

 

           Mabwysiadu Fframwaith ar gyfer Rhyddhad Trethi Busnes DewisolElusennau a Sefydliadau Dielw fel y manylir arni yn Atodiad C yr adroddiad.

           Bydd y Fframwaith ar gyfer Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol mewn grym ar gyfer y blynyddoedd ariannol hyd at 31 Mawrth, 2026.

           Rhoi cyfarwyddiadau i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 sicrhau y rhoddir gwybod cyn 31 Mawrth, 2020 i elusennau perthnasol a sefydliadau dielw y bydd y polisi mewn grym o 1 Ebrill, 2020 ac y daw i ben ar 31 Mawrth, 2026.

Dogfennau ategol: