Eitem Rhaglen

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, i’r cyfarfod.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Mr Gwyn Jones ar swyddogaethau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â diogelwch tân, ymladd tân, mynychu damweiniau ffyrdd ac argyfyngau (achub o ddŵr/llifogydd) yn unol â Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Dywedodd bod yr ystadegau o ddeg mlynedd yn ôl yn dangos bod Gogledd Cymru â’r gyfradd uchaf o farwolaethau ymysg y boblogaeth o ganlyniad i danau damweiniol mewn cartrefi yng Nghymru a Lloegr ac ystyriwyd bod hynny’n annerbyniol. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl Prif Swyddogion Tân i archwilio strategaeth a pholisïau’r Gwasanaeth ar gyfer atal marwolaethau damweiniol o ganlyniad i danau yn y cartref ynghyd ag adolygu prosesau rheoli perfformiad a phroffilio dioddefwyr ac achosion o dân. Cyfeiriodd Mr Jones at y ffactorau sy’n cyfrannu at farwolaethau damweiniol oherwydd tanau sef, bod ar eich pen eich hun; oedran (roedd mwy na hanner dros 60 oed); bod ag anabledd; byw mewn eiddo rhent; ysmygu a gadael bwyd yn coginio heb neb yn edrych ar ei ôl; alcohol a chyffuriau a diffyg larymau tân sy’n gweithio. Dywedodd bod proffil y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cael ei adolygu a chydweithiwyd â gwasanaethau yn yr awdurdodau lleol, yr heddlu, yr ymddiriedolaeth iechyd ac asiantaethau eraill i rannu gwybodaeth ac adnabod pobl fregus er mwyn osgoi achosion posibl o danau a marwolaethau damweiniol. Cyfeiriodd hefyd at gynllun recriwtio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar Ynys Môn sydd wedi arwain at recriwtio 10 person.

 

Cyfeiriodd Mr Jones at yr Adroddiad Rheoli Perfformiad - Ebrill 2019 i Fedi 2019 a ddosbarthwyd i Aelodau’r Pwyllgor. Nododd bod y Gwasanaeth wedi delio gyda chyfanswm o 6,601 o alwadau brys ac wedi mynychu 2,653 o ddigwyddiadau yn ystod hanner cyntaf 2019/20. Roedd y Gwasanaeth wedi mynychu ychydig mwy o ddamweiniau ffyrdd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd. Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi darparu arian i liniaru pwysau ar Wasanaethau Brys eraill mewn perthynas â ‘Syrthio yn y Cartref’ yn 2018. Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi llwyddo i fynd at berson a oedd wedi syrthio yn y cartref o fewn un awr gan olygu, o bosib, nad oedd y person hwnnw wedi gorfod bod ar y llawr am amser hir ac nad oedd rhaid iddo fynd i’r ysbyty i dderbyn triniaeth. Fodd bynnag, mae’r arian ar gyfer y cynllun ‘Syrthio yn y Cartref’ wedi dod i ben erbyn hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) am ei gyflwyniad. Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau a ganlyn:-

 

·      Gofynnwyd a oedd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynorthwyo neu’n gyfrifol am y cynllun ‘Syrthio yn y Cartref’ ar ran Gwasanaeth Ambiwlans yr Ymddiriedolaeth Iechyd. Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) bod y cynllun ‘Syrthio yn y Cartref’ yn gynllun peilot hynod o lwyddiannus a bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn gallu ymateb yn gyflymach na’r Gwasanaeth Ambiwlans oherwydd y pwysau y maent yn ei wynebu. Dywedodd bod yr ystadegau yn dangos bod llai o gleifion wedi gorfod mynd i’r ysbyty ac mae hynny wedi lleihau pwysau ar yr ymddiriedolaeth iechyd. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi dod â’r cyllid ar gyfer y cynllun ‘Syrthio yn y Cartref’ i ben gan fod y dystiolaeth yn tystio i lwyddiant y cynllun. Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y dylid anfon llythyr at Lywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor yn mynegi siom bod y cynllun peilot ‘Syrthio yn y Cartref’ wedi dod i ben ac yn nodi bod angen i Lywodraeth Cymru ailystyried cynllun o’r fath;

·      Cyfeiriwyd at recriwtio Ymladdwyr Tân ac roedd yn amlwg bod y Gwasanaeth Tân yn Ynys Môn yn dibynnu ar wirfoddolwyr. Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) bod recriwtio o fewn cymunedau lleol yn bwysig a bod unrhyw berson sy’n gwirfoddoli i fod yn Ymladdwr Tân yn derbyn cyflog.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi siom bod y cyllid ar gyfer y cynllun ‘Syrthio yn y Cartref’ wedi dod i ben ac y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried darparu cyllid ar gyfer y cynllun hwn.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.