Eitem Rhaglen

Cynllun Cydraddoldeb Strategol - 2020/2024

Cyflwyno adorddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywiaeth bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi dyhead yr Awdurdod am gydraddoldeb er mwyn creu cymdeithas decach i holl ddinasyddion Ynys Môn ac i helpu’r Cyngor gyflawni ei weledigaeth ar gyfer Ynys Môn fydd yn iach a llewyrchus lle bydd teuluoedd yn ffynnu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y swyddog Arweiniol mewn perthynas â Chydraddoldeb ar yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol a bod rhaid adolygu ei amcanion o leiaf bob pedair blynedd. Mae’n rhaid cyhoeddi Cynllun newydd ar gyfer y cyfnod 2020-2024 a phwrpas y Cynllun yw nodi’r camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i gyflawni ei ddyletswyddau penodol mewn perthynas â chydraddoldeb. Nodwyd y bydd y Cynllun ar gyfer 2020/2024 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn er mwyn ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth bod amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2020/20204 sydd ynghlwm i’r adroddiad yn seiliedig ar y prif heriau sy’n wynebu Cymru, y mae angen rhoi sylw iddynt, a nodwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’. Mae’r amcanion yn seiliedig hefyd ar flaenoriaethau rhanbarthol a nodwyd drwy waith ymgysylltu ar y cyd a gynhaliwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru (NWPSEN) a blaenoriaethau lleol a nodwyd drwy ymgysylltu â Rhwydwaith Llesiant Medrwn Môn.

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth bod y Cyngor yn cydnabod y gofynion statudol i gynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb a bod cynnal asesiadau cadarn yn ffordd effeithiol o wneud yn siŵr bod unrhyw feysydd lle gall anghydraddoldeb fodoli yn cael eu nodi a’u bod yn derbyn sylw prydlon, a bod sicrhau ymagwedd gyson ar draws yr awdurdod o ran cwblhau asesiadau effaith effeithiol wedi ei nodi fel blaenoriaeth yn 2011/2012. Trwy gydol y cyfnod hwn mae trefniadau’r Cyngor wedi cael eu datblygu’n barhaus gyda’r nod o brif-ffrydio’r broses hon i waith dydd i ddydd y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth at adran 5.1 yn y Cynllun – ‘Gwella diogelwch personol a mynediad i gyfiawnder’; bydd mwy nag un sefydliad yn cyfrannu at gyflawni’r flaenoriaeth hon, gyda’r Cyngor yn cyfrannu at yr agwedd diogelwch personol a’r heddlu at agweddau eraill.

 

Amlinellodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth y blaenoriaethau o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft ar gyfer 2020/2024 a nododd nad yw pob un o’r blaenoriaethau’n berthnasol i bob gwasanaeth o fewn yr Awdurdod a rhoddodd enghraifft, sef bod amcan 3 yn y Cynllun yn cyfeirio at wella mynediad ffisegol at wasanaethau, trafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig a mannau agored; mater i’r Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fyddai mynd i’r afael â’r flaenoriaeth hon. Dywedodd bod y blaenoriaethau wedi cael eu dosbarthu’n gyfartal ar draws Wasanaethau’r Cyngor. Fodd bynnag, dywedodd bod rhaid pwysleisio bod cyfrifoldeb ar Aelodau Etholedig a Staff i roi sylw i Gydraddoldeb fel rhan o waith dydd i ddydd y Cyngor.  Dywedodd hefyd nad yw’r gwaith wedi’i gyfyngu i gyflawni’r blaenoriaethau sydd yn y Cynllun oherwydd gall blaenoriaethau eraill ddod i’r amlwg y bydd angen rhoi sylw iddynt.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion canlynol:-

 

·           Gofynnwyd pwy oedd wedi nodi’r meysydd blaenoriaeth cydraddoldeb sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth bod y Cyngor wedi blaenoriaethu’r blaenoriaethau yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn unol â’r sail dystiolaeth a’r angen i fynd i’r afael â’r materion a godwyd;

·           Gofynnwyd sut mae’r Cyngor yn bwriadu cryfhau’r broses o ymgysylltu ag unigolion sy’n cael eu gwarchod dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth bod y Cyngor wedi ymgysylltu â Rhwydwaith Llesiant Medrwn Môn i ganfod beth oedd y blaenoriaethau a’r pryderon lleol. Ar ôl drafftio’r blaenoriaethau yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft ymgynghorwyd â Medrwn Môn ynghylch y blaenoriaethau drafft a nodwyd.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020/2024;

·           bod trefniadau’n cael eu rhoi mewn lle i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fonitro cynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb yn flynyddol, fel mater o drefn.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: