Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar gyfer 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr Adroddiad Blynyddol yn darparu trosolwg o waith Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru a Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019, a’r cynnydd a wnaed o ran cyflawni amcanion allweddol ar draws y rhanbarth er mwyn diogelu pobl. Dywedodd bod Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn Fwrdd Diogelu Rhanbarthol.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod y Cyngor, fel rhan o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, yn credu bod gan bob plentyn ac oedolyn hawl i fod yn rhydd rhag niwed. Un o gyfrifoldebau Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru yw sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn diogelu’r bobl sy’n byw yn y siroedd hynny. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015 yn ymwneud â sefydlu’r Byrddau Diogelu a’u swyddogaeth. Mae Rheoliadau 5 a 6 yn ymwneud â Byrddau Diogelu yn llunio Cynlluniau Blynyddol ac Adroddiadau Blynyddol. Nododd bod Canllawiau Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl yn nodi mai amcanion Bwrdd Diogelu Plant yw diogelu plant yn ei ardal sy’n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu’n dioddef mathau eraill o niwed, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed ac atal plant yn ei ardal rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed. Amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion yw amddiffyn oedolion yn ei ardal sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth (p’un a yw awdurdod lleol yn cwrdd ag unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio) ac sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, ac atal yr oedolion hynny yn ei ardal rhag dod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae’r amcanion hyn o fewn y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn berthnasol nid yn unig i awdurdodau lleol ond yr holl asiantaethau partner yng Ngogledd Cymru.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd at y blaenoriaethau a nodwyd yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018/19 a 2019/20. Cyfeiriodd at gyflawniadau allweddol y Byrddau Diogelu yn ystod 2018/19 a dywedodd bod digwyddiad cymuned ymarfer wedi’i sefydlu i ddod â gwasanaethau ynghyd ac i rannu arfer dda, heriau ac ymchwil gyda gweithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau. Lansiwyd fideo diogelu ‘Gweld Rhywbeth / Dweud Rhywbeth’, sydd ar gael ar wefan y Bwrdd Diogelu, a gall asiantaethau lleol ei defnyddio. Nododd bod nifer fawr o bobl yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Diogelu a bod yr holl asiantaethau sydd ynghlwm â diogelu yn wynebu gofynion, cymhlethdodau a disgwyliadau cynyddol a helaeth.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion canlynol:-

 

·      Nodwyd bod gan y Bwrdd Diogelu a’r Is-Grwpiau restr hir o gynrychiolwyr, a holwyd am bresenoldeb nifer o asiantaethau yn y cyfarfodydd hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd ac Is-grwpiau wedi gwella. Ychwanegodd bod cyflawniad yr Is-grwpiau yn helaeth a’i fod yn ystyried bod gan faterion diogelu broffil llawer uwch yng Ngogledd Cymru ers sefydlu’r Bwrdd Diogelu;

·      Gofynnwyd a yw’r Ymddiriedolaeth Iechyd yn cymryd cyfrifoldeb am y Bwrdd Diogelu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod enghreifftiau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf pan fu’n rhaid i’r Ymddiriedolaeth Iechyd ymateb i faterion anodd yn gysylltiedig â diogelu, megis achos yr Uned Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru. Roedd y Bwrdd Iechyd yn atebol i Fwrdd Gogledd Cymru am y cynllun gweithredu;

·      Cyfeiriwyd at lansiad ‘Gweld Rhywbeth/Dweud Rhywbeth’ gan y Bwrdd Diogelu. Gofynnwyd a yw’r cyhoedd yn gallu adrodd yn gyfrinachol am ddigwyddiadau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod polisi chwythu’r chwiban mewn lle ar gyfer Aelodau staff yr Awdurdod a bod unigolion eraill sy’n adrodd am ddigwyddiadau yn cael eu diogelu hefyd ac nad oes angen iddynt bryderu y byddant yn cael eu targedu.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth yn Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru 2018/19.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.

 

 

Dogfennau ategol: