Eitem Rhaglen

Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

·           Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

 

·           Derbyn cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Jonathan Sweet, Rheolwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru GIG a Stephen Sheldon – Rheolwr Ardal, i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad ar berthynas Gwasanaeth Ambiwlans Cymru â’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gweithrediadau gyflwyniad i’r Pwyllgor a dywedodd fod y gwasanaeth ambiwlans wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd gan symud o fod yn wasanaeth cludiant yn bennaf, i un sy’n darparu gofal clinigol, a gwasanaethau cludiant sydd â phwyslais clinigol ar draws Cymru. Dywedodd fod 3 gorsaf ambiwlans yn Ynys Môn a 41 o staff. Rhoddodd wybodaeth ystadegol bellach i’r Pwyllgor am flaenoriaethau o ran categorïau coch, oren a gwyrdd digwyddiadau. Fodd bynnag, yn ystod 2019/2- mae patrwm y galw ar gyfer y gwasanaeth yn parhau i newid yn enwedig yn y maes galw ‘coch’ lle mae cynnydd sylweddol wedi’i weld; mae hyn ynghyd â nifer o ffactorau eraill wedi arwain at ostyngiad yn yr amseroedd ymateb. Nododd iddi fod yn flwyddyn heriol ar draws y sector iechyd yng Nghymru ac ers cyflwyniad y model ymateb clinigol ym mis Hydref 2015, bod ymateb y Gwasanaeth i’r galwadau categori coch wedi disgyn o dan y targed o 65% ond bod y gwasanaeth ambiwlans yn cydweithio â byrddau iechyd er mwyn datrys y mater. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth wedi cymryd camau gweithredu er mwyn gwell perfformiad a thrawsnewid y gwasanaeth ac yn enwedig mewn perthynas â:    

 

·        Cymryd rôl arwain system o ran gofal heb ei drefnu, gyda chefnogaeth gan

  • Lywodraeth Cymru.
  • Uwch Barafeddygon Ymarferol (APPs) yn gallu trin cleifion yn fwy effeithiol yn eu cartrefi, heb fod angen gofal yn yr ysbyty.
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau i gleifion sydd wedi syrthio, neu gleifion sydd â dementia neu iechyd meddwl.
  • Cyfraddau “hear and treat” wedi gwella.
  • Parhau i weithio gyda’r byrddau iechyd ar lwybrau cyfeirio ar gyfer nifer o gyflyrau, sy’n caniatáu i’r gwasanaeth gyfeirio at wasanaethau yn y gymuned gyda Meddyg Teulu SICAT yn gwneud penderfyniadau clinigol.
  • Cynyddu nifer y staff sy’n gweithio ar sift yn ystod cyfnod y gaeaf
  • Adolygiad galw a chapasiti wedi mynd i’r afael ag effeithlonrwydd roster.

 

Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth yn parhau i edrych ar ddatrysiadau cynaliadwy er mwyn gallu mynd i’r afael â materion cymhleth. 

Adroddodd y Rheolwr Gweithrediadau ymhellach fod Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth ambiwlans wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol a chyfeiriodd yn benodol at y cynllun Gwqasanaeth Night Owl a ymatebodd i 115 o gleifion a oedd wedi ‘disgyn yn y cartref’ gyda dim ond 11 o gleifion wedi gorfod mynd i’r ysbyty. Nododd fod cynllun, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd â’r Gwasanaeth Tân ac Achub a oedd yn cynorthwyo â phobl a oedd yn ‘Disgyn yn y Cartref’, cynllun oedd hwn i gefnogi’r Gwasanaeth Ambiwlans pan mae’r gwasanaeth â galw uchel. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi stopio’r cyllid ar gyfer y cynllun hwn ond mae trafodaethau’n parhau er mwyn ail fuddsoddi yn y cynllun.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gweithrediadau at y gwaith gyda’r trydydd sector ac yn benodol at y Gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan mewn perthynas â’r gwasanaethau ymateb i bobl oedd wedi ‘Disgyn’. Fodd bynnag, mae Gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan yn wasanaeth ag adnoddau cyfyngedig sydd ond yn gallu darparu adnoddau yn ystod y cyfnodau prysuraf ar benwythnosau ledled Gogledd Cymru oherwydd eu materion capasiti eu hunain; mae trafodaethau yn parhau gyda Gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan o ran sut y gallant gynyddu eu capasiti. Cafodd y prif enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir eu hadrodd arnynt fel â ganlyn:-  

 

·      Rhoddwyd cefnogaeth i Dîm Ambiwlans Cymru yn ystod y trafodaethau ar y prosiect Wylfa Newydd arfaethedig a sut y gellid lliniaru’r pwysau ar y gwasanaeth yn ystod y cyfnod adeiladu a thu hwnt;

·      Cynllun Night Owls - cyfarodydd wedi eu cynnal bob yn ail fis rhwng yr awdurdod lleol a’r Gwasanaeth ambiwlans er mwyn trafod cyfleoedd i wella gwytnwch cymunedol. Rhoddir hyfforddiant i staff awdurdod lleol mewn cymorth cyntaf er mwyn gallu ymateb i alwadau ‘coch’ ac i allu defnyddio diffibriwlydd cymunedol;

·      Mae gwaith y Grŵp Cynghori Diogelwch a’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn hanfodol er mwyn hysbysu’r Gwasanaeth Ambiwlans am y gweithgareddau a gynhelir ar yr Ynys er mwyn sicrhau os bydd digwyddiad yn codi y gall y Gwasanaeth Ambiwlans ymateb yn briodol i ddigwyddiadau o’r fath. Mae’r tywydd garw wedi profi’r cynlluniau hyn yn ddiweddar pan gaewyd Pont Britannia.  

 

Nododd hefyd bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o fewn ei Gynllun Tymor Canol Integredig 2021/23 wedi comisiynu Adolygiad Annibynnol er mwyn mynd i’r afael â cheisio lleihau amseroedd ymateb a gwelwyd bod angen 537 yn ychwanegol o staff rheng-flaen erbyn 2024/25; mae gwaith cynllunio gweithlu yn cael ei ymgymryd ag ef ar hyn o bryd er mwyn ceisio gweithredu’r argymhellion sydd wedi eu cynnwys yn yr adolygiad. Nododd y cafwyd heriau wrth geisio recriwtio staff mewn ardaloedd gwledig yng Ngogledd Cymru ac mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn mynd i’r afael â’r materion hyn drwy gynnig sesiynau recriwtio.     

 

 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a chodwyd y pwyntiau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at yr angen i gynyddu nifer y staff ambiwlans a phenodi staff rheng-flaen ychwanegol erbyn Mawrth 2021. Codwyd cwestiynau a fydd hi’n her recriwtio staff fel mewn proffesiynau meddygol eraill. Ymatebodd y Rheolwr Gweithrediadau bod Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i gynyddu’r gweithlu drwy ychwanegu 131 o staff ychwanegol ar draws ardal Gogledd Cymru erbyn Mawrth 2021. Bydd cyfran sylweddol o’r staff hynny yn Dechnegwyr Ymateb Argyfwng y gellir eu recriwtio a’u hyfforddi yn fewnol gan y Gwasanaeth Ambiwlans. Bydd recriwtio Parafeddygon yn fwy o her gan y bydd angen iddynt gael eu hyfforddi drwy systemau’r colegau. Codwyd cwestiynau pellach, tra bo’r cynnydd yn lefelau staffio’r Gwasanaeth Ambiwlans yn cael ei werthfawrogi mae’n rhaid i gleifion ddisgwyl pan fyddant yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Gwynedd oherwydd bod yn rhaid i staff y Gwasanaeth Ambiwlans ddisgwyl i drosglwyddo’r claf i’r staff meddygol. Ymatebodd y Rheolwr Gweithrediadau gan ddweud bod trafodaethau ar y gweill gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn cael proses drosglwyddo fwy effeithlon o ran trosglwyddo cleifion i’r ysbyty; mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn ceisio trin cleifion yn y cartref a sicrhau gwasanaethau yn y gymuned;     

·      Holwyd a oedd y gwasanaeth Ambiwlans yn ddigon gwydn yn Ynys Môn a Gogledd Cymru er mwyn gallu ymdopi â’r posibilrwydd o achosion difrifol o’r Coronafeirws. Ymatebodd y Rheolwr Gweithrediadau gan ddweud bod holl staff y Gwasanaeth Ambiwlans wedi derbyn hyfforddiant priodol yn y defnydd o offer amddiffynnol a phrosesau glanhau trylwyr rhag ofn i achosion o’r Coronafeirws gyrraedd;   

·      Cyfeiriwyd at y problemau traffig posibl wrth deithio i borthladd Caergybi ar yr A55 o ganlyniad i brexit. Holwyd am yr effaith posibl ar y Gwasanaeth Ambiwlans. Ymatebodd y Rheolwr gweithrediadau gan ddweud y gall fod yn broblem pan fydd ciwiau ar yr A55 ac y gall amseroedd ymateb gael eu heffeithio arnynt. 

·      Cyfeiriwyd at y cynllun ‘disgyn yn y cartref’ a gwaith y tîm Night Owls er mwyn iddynt allu helpu pobl sy’n disgyn yn y cartref. Awgrymodd Aelod o’r Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol cael taflen yn cynghori pobl beth i’w wneud petai nhw’n disgyn yn y cartref. Dywedodd y Rheolwr Gweithrediadau bod y Gwasanaeth Ambiwlans yn mynychu Digwyddiadau Ymgysylltu Cymunedol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau maent yn eu darparu. Dywedodd y bydd y cynllun Galw Gofal o 1 Mawrth, 2020 yn gallu trosglwyddo galwadau drwy’r system llinell alwadau i’r Gwasanaeth Ambiwlans;

·      Cyfeiriwyd at lwyddiant y gwasanaeth Night Owls a ddarperir gan Gyngor Sir Ynys Môn er mwyn ymateb i unigolion sy’n disgyn. Holwyd pa brosiectau eraill sydd yn eu lle rhwng y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Cyngor Sir. Ymatebodd y Rheolwr Gweithrediadau drwy ddweud, er mwyn gwella’r ymateb i alwadau ‘coch’, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r awdurdod lleol er mwyn gallu defnyddio darpariaeth ‘ffonau clyfar’ er mwyn galluogi Wardeiniaid Traeth i gael mynediad yn ystod misoedd yr haf i ddiffibriwlyddion  Cymunedol er mwyn gallu mynychu achosion brys a allai ddigwydd mewn ardaloedd gwledig.   

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am fynychu’r cyfarfod.  

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth yn derbyn adroddiadau blynyddol ar waith Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Ambiwlans.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: