Eitem Rhaglen

Cyllideb 2014/2015 - Cynigion Drafft y Pwyllgor Gwaith

Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb y Cyngor 2014/15.

Dogfennau ynghlwm fel cyfeirnod  :-

 

·        Dogfen Ymgynghori Cwrdd â’r HeriauCyllideb 2014/2015.

·        Adroddiad i gyfarfod 16 Rhagfyr y Pwyllgor GwaithCynigion Cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2014/2015.

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn o ran y drafodaeth ar y Gyllideb ar gyfer 2014/15 h.y. i.e. Economaidd, Priffyrdd a Gwasanaethau Cynllunio.

 

Rhoes wahoddiad i’r Cynghorydd R. Meirion Jones, fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, annerch y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2014 wedi cael trafodaeth faith ar y Gyllideb ar gyfer 2014/15 ond nad oeddynt wedi  cyrraedd yr Arbedion Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd. Cafwyd trafodaeth ynghylch a fedrai Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol drafod y gyllideb ar gyfer Cynaliadwyedd fel rhan o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio oherwydd bod y Swyddogion priodol yn bresennol yn y cyfarfod hwn ac oherwydd nad oes llawer o amser i’r Pwyllgorau Sgriwtini gyflwyno eu sylwadau i’r Pwyllgor Gwaith. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio i ganiatáu i Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol drafod yr arbedion yng Nghyllideb yr Adran Gynaliadwyedd.

 

Rhoes yr Aelod Portffolio (Cyllid) adroddiad byr ar gynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb y Cyngor am 2014/15. Amlinellodd y cynigion ar gyfer arbedioncyfanswm o £7.5m – a nododd y cynnig i godi’r Dreth Gyngor gan 5%. Yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau addysg a gofal cymdeithasol yn cael eu gwarchod. Nododd y bydd canolfannau hamdden a gwasanaethau llyfrgell yn cael eu gwarchod eleni ond nad oes unrhyw sicrwydd y bydd modd gwarchod y gwasanaethau hyn yn y blynyddoedd dilynol.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i bob Aelod Portffolio a Phennaeth Gwasanaeth roi amlinelliad o’u harbedion arfaethedig i’r Pwyllgor.

 

Cododd Aelodau’r Pwyllgor y prif faterion isod mewn perthynas â’r arbedion arfaethedig :-

 

  Cynnydd mewn ffioedd parciomynegwyd pryderon y bydd canol y trefi’n cael eu heffeithio oherwydd y bydd pobl yn dewis peidio â siopa yn y busnesau lleol. Gallai colli incwm gael effaith andwyol ar fusnesau;

 

  Cynnydd mewn ffioedd a phrisiau hamddenmynegwyd pryderon y gallai’r cynnydd yn y ffioedd ar gyfer defnyddio canolfannau hamdden a thoriadau staffio gael effaith ar y mentrau byw’n iach, h.y. ar gyfer clefyd y galon, clefyd siwgr, gordewdra ac annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon;

 

  Newidiadau i’r ddarpariaeth o ran toiledau cyhoeddusmynegwyd y farn bod rhaid cael toiledau cyhoeddus o safon uchel. Nodwyd y dylid ymestyn y cynllun o dalu £500 i fusnesau lleol i ganiatáu i’r cyhoedd ddefnyddio’r toiledau sydd ganddynt yn eu hadeiladau a bod angen gwneud gwaith pellach i annog Cynghorau Tref a Chymuned neu’r gymuned leol i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am y cyfleusterau hyn.

 

  Toriadau o ran Cynnal a Chadw Priffyrdd - mynegwyd pryderon mawr ynghylch cyflwr lonydd bychan a phriffyrdd a fydd, fe ofnir, mewn cyflwr sobor o wael yn y dyfodol.  Mae’r gyllideb Cynnal a Chadw Priffyrdd yn croestorri ac mae’n dibynnu ar y math o dywydd a geir drwy’r tymhorau, ffactor a fedr gael effaith ar gyllideb y gwasanaeth.

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD derbyn cynigion drafft y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllideb 2014/2015.

Dogfennau ategol: