Eitem Rhaglen

Cynllun Integredig Sengl

Derbyn adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad a chyflwyniad gan Uwch Reolydd Partneriaethau Gwynedd ac Ynys Môn mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd yr Uwch Reolydd Partneriaethau fod Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru yn rhoi dyletswydd gynllunio strategol ar Awdurdodau Lleol i baratoi Cynllun Integredig Sengl ar gyfer eu hardaloedd.  Mae’r Cynllun yn gyfle i ddatblygu mentrau ataliol ac ymyrraeth gynnar  i ddechrau mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chylchoedd o ddibyniaeth ar y gwasanaethau statudol craidd fel y cytunwyd eisoes gan y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.  Yn ogystal, rhaid iddo gwrdd â’r cyfrifoldebau statudol o ran Plant a Phobl Ifanc; Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a Diogelwch Cymunedol. Bydd y Cynllun hefyd yn rhoi sylw i ddibenion blaenorol y Strategaethau Cymunedol.

 

Gwnaeth Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn nifer o benderfyniadau arwyddocaol mewn perthynas â’i weledigaeth a’i gyfeiriad strategol yn y dyfodol ac amlygwyd hynny yn yr adroddiad.

 

Yn unol â’r gwaith comisynu a gwblhawyd ar wahân, mae prosiectau eisoes wedi eu sefydlu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn ac ar hyn o bryd, bwriedir parhau â’r ffrydiau gwaith hyn er mwyn caniatáu i siwrnai drawsnewid y Bwrdd Gwasanaethau Lleol esblygu a throsi’n flaenoriaethau ac yn ffrydiau gwaith penodol. O’r herwydd, bydd angen adolygu blaenoriaethau a rhaglenni gwaith y Cynllun Integredig Sengl yn ystod y flwyddyn nesaf i adlewyrchu uchelgais, gweledigaeth a chyfeiriad strategol newydd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Amlinellwyd yr amserlen i’r Pwyllgor fel y caiff ei nodi ar Dudalen 4 yr adroddiad..

 

Dyma oedd y gyrwyr allweddol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn :-

 

  Effeithiau demograffig;

  Pwysau ariannol yn dwysáu;

  Pwysau cynyddol ar wasanaethau rheng-flaen;

  Disgwyliadau’r dinasyddion;

  Y dirwasgiad economaidd yn arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau;

  Ymateb i’r newidiadau deddfwriaethol sy’n sail i’r gwasanaethau statudol;

  Trawsnewid gwasanaethgwahanol fodelau o ddarparu gwasanaethau;

  Blaenoriaethu gwariant cyhoeddus i osgoi canlyniadau negyddol;

  Llawer yn gyffredin ar draws y ddwy Sir.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

  Mae partneriaethau wrthi’n cael eu hadolygu ar draws Gogledd Cymru ar hyn o bryd wrth i’r ffocws gynyddu ar integreiddio gwasanaethau.  Gofynnwyd a oedd y Cynllun Integredig Sengl yn gynamserol ar hyn o bryd ac a fyddai’n ddoeth disgwyl am ganlyniadau’r adolygiad hwn o’r partneriaethau. Dywedodd yr Uwch Reolydd Partneriaeth fod 2 o’r 3 adolygiad wedi cael eu comisiynu.  Mae’r adolygiad y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor wedi cael ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd  Betsi Cadwaladr.  Disgwylir y daw rhai argymhellion Rhanbarthol o’r adolygiad yn y man.  Cyfeiriodd hefyd at Adroddiad Williams a oedd yn pwysleisio’r angen am bartneriaethau lleol ar lefelau lleol ac isranbarthol.

 

  Heriodd yr Aelodau a oedd angen paratoi Cynllun newydd a gwahanol erbyn y flwyddyn nesaf oherwydd y bydd Cynlluniau newydd yn cael eu cyhoeddi ar ffurf Cynllun Lles.  Gofynnwyd hefyd a oedd angen paratoi Cynllun Integredig Sengl ar hyn o bryd.  Dywedodd yr Uwch Reolydd Partneriaethau bod rhaid, yn dechnegol, mynd ati i baratoi Cynllun Integredig Sengl ar gyfer yr ardal a hynny’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru (Cydamcanu Cydymdrechu).  Byddai’r Asesiad Corfforaethol sydd wedi ei raglennu ar gyfer y Cyngor hwn ym mis Chwefror 2015 yn gwerthuso ein trefniadau cynllunio strategol. Roedd Llywodraeth Cymru angen sicrwydd fod awdurdodau lleol wedi sefydlu Cynlluniau Integredig Sengl.  Dywedodd ymhellach y bydd dull a ffurf y Cynllun Integredig Sengl newydd yn wahanol i’r Cynllun cyfredol.

 

  Roedd yr Aelodau’n pryderu y gallai hyn ddyblygu gwaith mentrau eraill, sef y Mesur Diwygio Lles a’r Fframwaith Cefnogaeth Leol.  Gall rhannu adnoddau rhwng yr awdurdodau hefyd beri problem oherwydd maint y ddau awdurdod.  Ymatebodd yr Uwch Reolydd Partneriaeth drwy egluro mai’r nod oedd sicrhau fod mentrau cenedlaethol yn cyd-fynd â’i gilydd, gan osgoi dyblygu gwaith.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr. J. R. Jones, Prif Swyddog (Medwrn Môn) a Mr. Gerallt Ll. Jones, Rheolwr-gyfarwyddwrMenter Môn i annerch y cyfarfod.

 

Dywedodd Mr. J.R. Jones fod ganddo rai pryderon ynghylch statws y Cynllun Integredig Sengl oherwydd bod nifer o bartneriaethau rhanbarthol eisoes wedi eu sefydlu.  Dywedodd fod ganddo amheuon ynghylch dylanwad y Cynllun hwn rhwng Gwynedd ac Ynys Môn ar y partneriaethau cyfredol ac a fyddant yn ei dderbyn. Dywedodd ymhellach ei bod yn bwysig i drigolion lleol ar yr Ynys fod yn ymwybodol o’r newidiadau sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Integredig Sengl.

 

Dywedodd Mr. Gerallt Ll. Jones fod angen trafodaeth ddifrifol a manwl rhwng partneriaethau ynghylch potensial mentrau cymdeithasol ac i asesu’r awydd i allanoli rhai gwasanaethau nad ydynt yn rhai statudol.  Dywedodd y gwnaed mwy o gynnydd yn Lloegr o ran sefydlu mentrau.

 

Yn dilyn trafodaethau pellach, PENDERFYNWYD :-

 

  Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran paratoi’r Cynllun Integredig Sengl ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn;

 

  Cyflwyno sylwadau ar gynnwys y Cynllun Integredig Sengl yn ei ffurf bresennol fel modd o ddarparu sicrwydd fod buddiannau pobl Ynys Môn yn cael eu diogelu;

  Cyflwyno sylwadau ar siwrnai drawsnewid y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

GWEITHREDU: Gwahodd yr Uwch Reolydd Partneriaethau yn ôl i’r Pwyllgor hwn yn yr hydref er mwyn rhoi diweddariad ar y Cynllun Integredig Sengl.

Dogfennau ategol: