Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) bod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi comisiynu gwasanaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc, mewn cydweithrediad â’r Awdurdodau eraill yng Ngogledd Orllewin Cymru. Daw’r contract i ben ym Mawrth 2015. Mae’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi cytuno i gomisiynu eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar sail ranbarthol.
Sefydlwyd prosiect rhanbarthol yn Mai 2013 gyda Grŵp Tasg o aelodau o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, o Iechyd a’r Sector Gwirfoddol. Prif nod y prosiect yw mynd i’r afael â’r bylchau a’r dyblygu yn y ddarpariaeth o eiriolaeth annibynnol i grwpiau bregus o blant a phob ifanc fel y cawsant eu rhestru yng nghyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.
Ers cwblhau’r adroddiad hwn roedd angen nodi rhai datblygiadau perthnasol:-
• Roedd Comisiynwr Plant Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi adroddiad Lleisiau Coll, Yr Hawl i Wrandawiad. Mae’r Comisiynydd yn disgwyl i bob Awdurdod Lleol ymateb i’w argymhellion erbyn 4 Medi 2014.
• Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried trefniadau comisiynu pob Awdurdod Lleol o safbwynt eiriolaeth broffesiynol a faint o arian a fuddsoddir. Maent hefyd wedi sefydlu Grŵp Gweinidogol Arbenigol ar Eiriolaeth (MEGA). Maent wedi rhoi nifer o argymhellion ymlaen a disgwylir i’r Awdurdod Lleol ymateb iddynt. Mae hyn yn cynnwys clustnodi arian i allu gwario ar eiriolaeth beth bynnag fo’r pwysau ariannol. Mae’r Awdurdod Lleol wedi derbyn llythyr gan Llywodraeth Cymru yn ein hannog ni i barhau gyda’r buddsoddiad cyfredol mewn eiriolaeth.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud a’i gyflwyno i’r Panel Rhiant Corfforaethol yn y man.
Mae gwaith wedi ei wneud gyda Phenaethiaid Gwasanaethau Plant Gogledd Cymru i gytuno ar gyllidebau i ddatblygu disgrifiad a manyleb y gwasanaeth. Mae llawer o drafod wedi bod ynglŷn â dyraniadau cyllid yn seiliedig ar wahanol fformiwlâu. Mae Penaethiaid y Gwasanaethau Plant wedi cytuno ar gap cyllidebol o £100,000 i’r contract ac yn seilio eu cyfraniadau cyllideb ar ganran o’r grant RSG. Bydd yr ymrwymiad ariannol canlynol yn cael ei wneud gan bob awdurdod lleol:-
Ynys Môn - £10,450
Gwynedd - £19,220
Conwy - £16,110
Sir Ddinbych - £15,770
Sir y Fflint - £20,440
Wrecsam - £18,020
Nododd y Swyddog y gall y bydd yr Awdurdod Lleol yn gweld hyn fel cyfle i arbed, ond ei barn broffesiynol hi oedd bod angen i’r gwasanaeth fuddsoddi yn ei drefniadau cyfranogi ac y bydd y trefniant hwn yn rhyddhau rhai adnoddau i alluogi’r Gwasanaeth i gryfhau’r trefniadau lleol ar gyfer eiriolaeth a chyfranogiad. Mae’n fwriad sefydlu swydd Eiriolwr/Cyfranogiad Person Ifanc rhan amser ym Môn a bydd adroddiad gwerthuso opsiwn pellach yn cael ei gyflwyno ar hyn i’r Pwyllgor perthnasol yn y man.
PENDERFYNWYD cefnogi, mewn egwyddor, y trefniadau comisiynu ar gyfer y gwasanaethau eiriolaeth a’r broses o dendro am wasanaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol rhanbarthol i blant a phobl ifanc.
CAMAU GWEITHREDU: I nodi y bydd y mater yn cael ei ystyried yn fanwl yn y cyfarfod nesaf o’r Panel Rhiant Corfforaethol.
Dogfennau ategol: