Eitem Rhaglen

Cymunedau'n Gyntaf Ynys Môn - Adroddiad Cynnydd

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Rhoes y Cadeirydd groeso i gynrychiolwyr o Cymunedau’n Gyntaf Môn i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd ar weithrediad y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf ym Môn.

 

Dywedodd Rheolwr Grantiau’r Cyngor (y mae ei swydd yn cael ei chyllido’n rhannol gan Cymunedau’n Gyntaf Môn) mai’r Cyngor Sir yw’r Corff Darparu Arweiniol am £1.658m o gyllid am y cyfnod 1 Chwefror 2013 i 31 Mawrth 2015 ac mai Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf., yw’r sefydliad darparu. Roedd dadansoddiad o’r gwariant ar gyfer cyllideb 2013/14 a 2014/2015 ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn wedi datblygu’n gyflym iawn dros y deunaw mis diwethaf a bu cynnydd yn y nifer o staff sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd ac yn y cyllid y bu modd ei sicrhau. Mae’r sefydliad yn darparu ystod o wasanaethau a gweithgareddau cefnogol i wardiau etholiadol Kingsland, Morawelon, Ffordd Llundain, Porth-y-Felin, Maes Hyfryd a’r Dref yng Nghaergybi yn ogystal â Ward Tudur yn Llangefni.  Caiff Cymunedau’n Gyntaf Môn ei reoli gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr gwirfoddol ac y mae’r Bwrdd hefyd yn cynnwys sylwedyddion gan gynnwys y Deilydd Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, Pennaeth y Gwasanaethau Tai a’r Rheolwr Grantiau.

 

Dewiswyd Cymunedau’n Gyntaf Môn gan Lywodraeth Cymru fel yr unig glwstwr yng Ngogledd Cymru i dreialuCynllun Aelwydydd Di-waitho’r enw LIFT.  Bydd y cynllun yn darparu £228k o gyllid hyd Mawrth 2016 i dargedu ac i weithio’n benodol gydag aelwydydd lle mae oedolion wedi bod allan o waith am 6 mis neu fwy gyda golwg ar eu cael yn ôl i waith, profiad gwaith neu hyfforddiant.  Mae DVD ar gael yn dangos astudiaethau achos.

 

Mae’r Academi Wirfoddol Gymunedol wedi mynd o nerth i nerth ac fe all yn awr ddarparu hyfforddiant achrededig i bobl 14-64 oed gan dargedu’r rhai sy’n lleiaf tebygol o fynychu darpariaeth coleg priflif.  Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr i sicrhau bod y llefydd gweigion sydd ganddynt yn cael eu cyfatebu gyda’r cyfranogwyr yn yr Academi.

 

Mae’r banc bwyd Pantri Pobl wedi cyrraedd penllanw yn ystod Awst 2014 gyda dros 1,000 o brydau’n cael eu darparu. Mae pobl sy’n derbyn budd-daliadau a hefyd pobl sy’n gweithio a chyda theuluoedd sy'n ei chael yn anodd cael digon o arian i brynu bwyd.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai at esiamplau o blygu rhaglen rhwng Cymunedau’n Gyntaf Môn a’r Gwasanaethau Tai a bod angen gwneud mwy i hwyluso hyn ar draws y Cyngor.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

  Cwestiynodd yr Aelodau a fyddai adroddiad cyllideb mwy cynhwysfawr ar gael i’r Awdurdod.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) bod y datganiad

 

cyfrifon blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Lleol a’i fod hefyd yn cael ei archwilio gan Lywodraeth Cymru. Nododd y gallai copi o’r cyfrifon gael ei roi i’r Pwyllgor hwn er gwybodaeth neu i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor.

 

  Dywedodd yr Aelodau bod cymunedau eraill hefyd ar yr ynys sydd mewn ardaloedd difreintiedig e.e. Llanfaes.  Nid yw’r ardaloedd hyn yn gallu denu cyllid.  Ymatebodd y Swyddogion o Cymunedau’n Gyntaf a dweud nad yw’r ardaloedd hyn o fewn yr ardaloedd difreintiedig sydd wedi eu nodi, fel y diffinnir hwy drwy feini prawf Llywodraeth Cymru, ac na fyddai cyllid Cymunedau’n Gyntaf ar gael.  Fodd bynnag, nodwyd y byddant yn barod i drafod y mater gyda’r Aelodau Lleol i geisio lliniaru rhai o’r problemau yn yr ardaloedd hyn.

 

PENDERFYNWYD diolch i’r cynrychiolwyr o Cymunedau’n Gyntaf am fynychu’r cyfarfod ac i longyfarch y staff i gyd am y gwaith y maent wedi ei gyflawni.

 

CAMAU GWEITHREDU :

 

  Bod gwahoddiad yn cael ei roi i Cymunedau’n Gyntaf Môn i fynychu’r Pwyllgor Sgriwtini hwn yn flynyddol.

  Pennaeth y Gwasanaethau Tai i drafod gyda’r Rheolwr Archwilio Mewnol, waith sgriwtineiddio cyllideb a gwariant Cymunedau’n Gyntaf Môn;

  Bod gweithdy hanner diwrnod yn cael ei drefnu i Aelodau Etholedig ac Uwch Swyddogion er mwyn gallu rhannu’r profiadau dysgu o sefydlu Cymunedau’n Gyntaf Môn hyd yn hyn a rhannu arferion da.

  Ymweliad pellach i’w drefnu i Gymunedau’n Gyntaf Môn gan Aelodau Etholedig i weld prosiectau allweddol, staff, hyfforddeion a gwirfoddolwyr.

 

Dogfennau ategol: