Eitem Rhaglen

Ffioedd Cychod Siarter/Pleser 2014/15

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Datblygu Twristiaeth ac Arforol mewn perthynas â Ffioedd Cychod Siarter/Pleser 2014/2015.

 

Adroddwyd - ar wahân i’r ffioedd blynyddol ar gyfer gweithredwyr cychod pleser masnachol (edrych ar olygfeydd/pysgota/tripiau antur), mae’r holl ffioedd a  thaliadau arforol eraill (angori/cofrestru a lansio ac ati) wedi eu mabwysiadu gan yr Awdurdod ac wedi eu hôl-ddyddio o 1 Ebrill 2014. Cafwyd trafodaethau dros nifer o fisoedd gyda’r gweithredwyr ynglŷn â’r mater hwn.

 

Mae anghytuno ynglŷn â’r ffioedd a’r taliadau arforol ym Mhorth Amlwch lle mae anghysondebau hanesyddol gyda’r ffioedd angori a hefyd y taliadau i gychod teithio trwyddedig (cychod siarter) yn amlwg.  Roedd Atodiad 1 oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn dangos dadansoddiad 5 mlynedd o ffioedd ym Mhorth Amlwch. Ni chafodd ffioedd cychod siarter 2013/14 eu mabwysiadu erioed ac maent yn parhaumewn anghydfodgyda’r gweithredwyr.  Roedd Atodiad 2 oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad SWOT o’r pedwar porthladd/harbwr arforol lle mai’r awdurdod yw’r Awdurdod Porthladd statudol h.y. Porth Amlwch, y Pier ym Miwmares, Pier San Siôr, Porthaethwy ac y mae un cwch siarter yn gweithredu o’r Doc Pysgod yng Nghaergybi.

 

Cyfeiriodd y Swyddog y Pwyllgor at Atodiad 3 i’r adroddiad oedd yn rhoi 6 opsiwn ar gyfer Ffioedd Cychod Siarter / Pleser.  Nodwyd mai Opsiwn 3 oedd yr opsiwn oedd yn cael ei ffafrio sef un taliad blynyddol o £840 neu daliad blynyddol llai o £420 gyda ffi o 26c y teithiwr.  Rhywbeth i weithredwyr y Cychod Siarter fyddai dewis y naill opsiwn neu’r llall.

 

Materion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor :-

 

  Os mai Opsiwn 3 fyddai’r opsiwn fyddai’n cael ei ffafrio, byddai hyn yn golygu y byddai rhaid iddynt dalu cyfanswm o £1,340. Mae gweithredwyr y Cychod Siarter eisoes yn talu ffi angori o £500.  Gofynnwyd cwestiynau am ba gyfleusterau yr oedd gweithredwyr ym Mhorth Amlwch yn eu derbyn am y swm o £1,340 gan nad yw’r cyfleusterau yno o safon uchel o’u cymharu ag ardaloedd eraill.  Roedd y Swyddogion yn cytuno nad oedd y cyfleusterau ym Mhorth Amlwch cystal â rhai mewn lleoliadau eraill.

 

  Gofynnwyd cwestiynau pam nad yw’r Cychod Pysgota Masnachol sy’n pysgota ym Môr Iwerddon yn gorfod talu am angori ym Mhorth Amlwch.  Dylid ystyried codi tâl ar y cychod hyn yn unol â Phorthladdoedd eraill ym Mhrydain. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynaliadwyaeth) y byddir yn rhoddi ystyriaeth ddyledus i’r mater.

 

  Mae’r ffioedd angori i’w gweld fel petaent yn wahanol mewn ardaloedd angori eraill.  Rhoddodd yr Aelodau esiamplau o ffioedd angori ar hyd arfordir Gogledd Cymru.  Holodd yr Aelodau o ble yr oedd y ffioedd angori hyn wedi deillio? Dywedodd y Swyddogion fod y rhain yn ffioedd hanesyddol a’i bod yn anodd iawn cymharu ffioedd ar hyd arfordir Gogledd Cymru.  Gan ddefnyddio Biwmares fel esiampl, gall y cychod ddefnyddio’r pier yno i lansio ac fe ellid dadlau y gellir defnyddio’r cyfleuster 24 awr y dydd.  Dywedodd y Swyddogion bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi buddsoddi swm sylweddol yn y Marina yng Nghonwy a thybir bod y ffioedd angori wedi eu gosod yn weddol isel yno er mwyn annog mwy i ddefnyddio’r cyfleusterau yn y Marina.

 

  Roedd Aelodau’r Pwyllgor eisiau cael ffioedd cychod realistig a theg ar draws arfordir yr ynys ac roeddent o’r farn na allent roi eu cefnogaeth i fabwysiadu Opsiwn 3 fel yr opsiwn oedd yn cael ei ffafrio gan y Swyddogion a hynny oherwydd y gwahaniaethau yn y ffioedd.

 

Yn dilyn trafodaethau hir, PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn cytuno y dylai’r mater o Ffioedd Cychod Siarter / Pleser gael eu penderfynu gan y Pwyllgor Gwaith.

 

GWEITHREDU : Nodi y bydd y Ffioedd Cychod Siarter / Pleser yn cael eu trafod yn y Pwyllgor Gwaith yn y man.

Dogfennau ategol: