Eitem Rhaglen

Trefniadau Sgriwtini y Bwrdd Gwasanaeth Lleol ar y Cyd Arfaethedig

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad ar y cyd gan yr Uwch Reolydd Partneriaethau, Gwynedd a Môn, Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Gwynedd a’r Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini bod adroddiad ar y cyd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a CfPS yn 2010 o’r enwSgriwtineiddio  Partneriaethau Aml-Asiantaetholyn amlinellu rhai o’r gwersi a ddysgwyd o’r broses o ddatblygu trefniadau sgriwtini Byrddau Gwasanaeth Lleol ac roeddent yn nodi  rhai pwyntiau pwysig i’w cadw mewn cof pan yn datblygu trefniadau. Roedd y rhain wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Er mwyn bod mewn sefyllfa i gynghori aelodau ar yr opsiynau posibl ar gyfer sgriwtineiddio Bwrdd Gwasanaeth Lleol Gwynedd a Môn, roedd Grŵp Prosiect Tasg a Gorffen Aml-Asiantaethol wedi ei sefydlu.  Roedd yr aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a Swyddogion Sgriwtini o’r ddau Gyngor.  Er mwyn cael agwedd annibynnol fe wahoddwyd y Ganolfan ar gyfer Sgriwtini Cyhoeddus i wneud sylwadau ynglŷn â’r ystod o opsiynau y gellir eu hystyried gan aelodau etholedig y ddau Awdurdod

Lleol.  Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen hefyd wedi ceisio sicrhau safbwyntiau Medrwn Môn a Mantell Gwynedd fel sefydliadau ambarél oedd yn cynrychioli diddordebau’r trydydd sector. Yng ngoleuni ei drafodaethau, roedd Grŵp Tasg a Gorffen Aml- Asiantaethol y Ganolfan ar gyfer Sgriwtini Cyhoeddus yn cynnig bod tri opsiwn i’r Aelodau Etholedig eu hystyried sef :-

 

Opsiwn A – Cadw trefniadau’r Pwyllgorau Sgriwtini yng Nghyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd fel y maent ar hyn o bryd.

Opsiwn B – Sefydlu Panel Sgriwtini ar y cyd ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Lleol Gwynedd a Môn.

Opsiwn C – Sefydlu Pwyllgor Sgriwtini ar y cyd ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Lleol Gwynedd a Môn.

 

Er bod i bob opsiwn ei fanteision a’i anfanteision ei hun, roedd y Grŵp Tasg a Gorffen Aml-Asiantaethol yn unfrydol y dylid cynnig Opsiwn B fel yr opsiwn a ffefrir i’w ystyried gan Aelodau Etholedig Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn.

 

Gan ddibynnu ar ba opsiwn a gâi gefnogaeth gan Aelodau Etholedig y ddau Gyngor, y cam nesaf fyddai i’r Grŵp Tasg a Gorffen Aml-Asiantaethol ail-ymgynnull er mwyn ystyried trefniadau ymarferol fel aelodaeth y fforwm sgriwtini ar y cyd, ei weithrediad a threfniadau hyfforddi, trefn y cyfarfodydd a lleoliad ac ati.  Byddai’r Ganolfan ar gyfer Sgriwtini Cyhoeddus yn parhau i gynnig cefnogaeth a mentora.

 

Dywedodd y Swyddogion y byddai angen enwebu 3 Aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar Banel Sgriwtini’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol.

 

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

  Roedd yr Aelodau yn cefnogi Opsiwn B sef sefydlu Panel Sgriwtini ar y cyd ar gyfer BGLl Gwynedd a Môn gyda’r aelodaeth oedd wedi ei nodi yn Atodiad 2. Fodd bynnag, roeddid hefyd yn ystyried y dylai diddordebau Lleisiau Cymunedol Gwynedd a Môn gael eu cynrychioli ar y Panel.  Dywedodd y Swyddogion eu bod yn credu y byddai’r gynrychiolaeth o’r trydydd sector ar y Panel arfaethedig yn datrys y mater hwnnw.

 

  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â phwy fyddai’n gweinyddu’r Panel Sgriwtini BGLl.  Dywedodd y Swyddogion y byddai angen trafod y mater yn y cyfarfod cyntaf o’r Panel Sgriwtini BGLl.

 

  Cafwyd trafodaeth ymysg yr Aelodau ynglŷn ag enwebu Aelod Etholedig fel dirprwy ar y Panel Sgriwtini BGLl.

 

Dywedodd y Swyddogion y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Sgriwtini Corfforaethol Cyngor Gwynedd yn y cyfarfod a gynhelir ar 15 Ionawr 2015.

 

PENDERFYNWYD :-

 

  Bwrw ymlaen gydag Opsiwn B – sefydlu Panel Sgriwtini ar y cyd ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd a Môn a gofyn i’r Swyddogion symud ymlaen i wneud y trefniadau ymarferol, trefn y cyfarfodydd a’r lleoliad.

 

  Enwebu’r Aelodau canlynol fel cynrychiolwyr Cyngor Sir Ynys Môn ar Banel Sgriwtini’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol :-

 

Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio Y Cynghorydd John Griffith

Y Cynghorydd Dylan Rees - Dirprwy

 

GWEITHREDU:  Adroddiad diweddaru i’w gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini hwn yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: