Eitem Rhaglen

Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor (ARCF) Adolygiad a Gwerthusiad Archwiliad Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cymuned.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Ms. Vicky Poole, Cyfarwyddwr Rhanbarthol (Gogledd Cymru) AGGCC a Mr. Mark Roberts o AGGCC i’r cyfarfod.

 

CyflwynwydAdroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymuned) mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymuned) bod Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor yn fframwaith a gytunwyd arno yng Nghymru er mwyn gwerthuso, mewn dull cyhoeddus tryloyw, berfformiad y swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol ym mhob Awdurdod Lleol. Roedd y llythyr yn cydnabod y cynnydd a wnaed gan yr Awdurdod tra’n amlygu’r angen i gynnal yr ymrwymiad a’r cynnydd gyda’r newidiadau oedd eu hangen.  Roedd AGCC yn cyfeirio at y risgiau tebygol parhaol a nodwyd gan yr Arolygiaeth.

 

Gwneir cyfeiriad penodol at faterion capasiti a’r her i awdurdod bychan wrth geisio rhoi sylw i faint y newid sydd ei angen wrth drawsnewid gwasanaethau gofal cymdeithasol.  Mae gwelliannau perfformiad wedi’u gweld yn y Gwasanaethau Plant ond mae risgiau’n parhau o ystyried pa mor amhrofiadol yw’r gweithlu a’r strwythur rheoli.  Roedd y llythyr hefyd yn nodi nad oes ond ychydig iawn o gyfeiriad at y camau sydd eu hangen gan yr Awdurdod mewn paratoad ar gyfer gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Ebrill 2016).  Mewn ymateb, dywedir bod hyn yn ffurfio rhan o raglen weithredu genedlaethol a bod yr awdurdod wedi ymgysylltu’n briodol yn y rhaglen honno.  Yn ychwanegol at hyn, mae’r rhaglen waith a fabwysiadwyd gan y Cyngor a’r Gwasanaeth yn un sy’n cyd- fynd â dyheadau ac egwyddorion y Ddeddf. Roedd y llythyr yn cydnabod y pwysau ariannol a’r heriau a wynebir gan y Cyngor wrth gwrdd â’i gyfrifoldebau o ran darparu gwasanaeth a chynllunio statudol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn gofyn am roi ffocws parhaol ar ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol tra’n bwrw ymlaen â’r rhaglen newid sydd ei hangen ac sy’n codi o’r rhaglen drawsnewid.  Roedd y camau oedd yn codi o’r llythyr wedi’u hymgorffori o fewn y prosesau busnes a rhaglenni blaenoriaethol o fewn Rhaglen Drawsnewid y Cyngor a chynlluniau busnes y gwasanaethau unigol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod yn credu bod yr hyfforddiant mewn materion Gwasanaethau Cymdeithasol yn benodol i Aelodau newydd ac i Aelodau cyfredol yn hanfodol i amlygu blaenoriaethau a phwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yn credu bod y seminar i Aelodau Etholedig yng nghyswllt Cartrefi Preswyl yn un hynod o werthfawr.

 

Dywedodd Mr. Mark Roberts (AGGCC) bod yr Adroddiad Gwerthuso Adroddiad ar gyfer 2013/14 ynghlwm wrth adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Nododd bod y Cyngor Sir yn y cyfnod cynnar o weithredu rhaglen drawsnewid uchelgeisiol i’r gwasanaethau oedolion a phlant.  Mae’r rhain yn rhaglenni datblygu a newid arwyddocaol i Gyngor bychan ac y mae cyflymder y newid yn cael ei lesteirio gan ddiffyg capasiti. Ar yr un pryd, mae Cyngor newydd wedi ei ethol ac yr oedd trydedd ran ohonynt yn Aelodau a benodwyd o’r newydd.  Mae hyn hefyd wedi cael effaith ar gyflymder y newid oherwydd y bu’n bwysig i swyddogion fuddsoddi amser yn sicrhau bod Aelodau Etholedig yn deall y rhaglen drawsnewid yn iawn.  Er y cyfyngiadau hyn, mae yna dystiolaeth o gynnydd graddol wedi ei sylfaenu ar gefnogaeth wleidyddol yn arbennig mewn perthynas â’r gwasanaethau i oedolion hŷn.  Roedd perfformiad wedi gwella mewn meysydd craidd, yn bennaf mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant er bod diffyg profiad cymharol y gweithlu o fewn y Gwasanaethau Plant yn golygu bod risgiau’n parhau a bod angen parhau i fod yn wyliadwrus.  Yn y Gwasanaethau Oedolion, roedd y ffocws a roddwyd ar y gwasanaethau i bobl hŷn wedi golygu diffyg ffocws ar wasanaethau i oedolion ieuengach yn cynnwys pobl ag anableddau corfforol, anableddau dysgu ac anghenion iechyd meddwl.  Bu’r Cyngor yn agored ynglŷn â’r hyn y mae wedi ei gyflawni gan gydnabod ble y mae ar ei hôl hi gyda’r rhaglen.  Mae llawer ar ôl i’w wneud; mae adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth yn dwyn sylw at 50 o flaenoriaethau i’w gweithredu yn y Gwasanaethau Oedolion a 23 yn y Gwasanaethau Plant yn ystod 2014/15.

 

Er bod Rhaglen Drawsnewid y Cyngor yn cyfateb i fwriadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ychydig iawn o gyfeiriadau a geir at y Ddeddf yn adroddiad y Cyfarwyddwr.  Tra bod adroddiadau manylach y Pennaeth Gwasanaeth yn amlinellu’r datblygiad mewn meysydd yn unol â gofynion y Ddeddf, nid yw’r cysylltiadau hyn yn glir iawn.  Mae gan y Cyngor lwyfan cryf i adeiladu arno mewn perthynas ag integreiddio gwasanaethau gyda’r Bwrdd Iechyd yn dilyn datblygu Model Môn dros nifer o flynyddoedd. Mae hyn wedi eu galluogi i sefydlu Bwrdd Darparu Integredig mewn Partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac sydd yn cael ei ddefnyddio fel peilot ar gyfer y rhanbarth cyfan yng nghyd-destun Datganiad o Fwriad Gogledd Cymru ar gyfer Integreiddio sef darparu gofal cymdeithasol ac iechyd integredig i bobl hŷn ag anghenion cymhleth.

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu’r ymateb i feysydd gwella’r flwyddyn ddiwethaf mewn manylder a meysydd i’w dilyn i fyny gan AGGCC yn y flwyddyn i ddod.

 

Y prif faterion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

  Codwyd pryderon ynghylch y meysydd ar gyfer eu gwella yn adroddiad AGGCC

h.y. Adolygu proses cymhwyso trothwyon DoLS.  Dywedodd Mr. Mark Roberts AGGCC bod meysydd o welliant wedi eu nodi a bod angen codi ymwybyddiaeth a gwella arferion mewn perthynas â DoLS. Mae angen hefyd datblygu fframwaith fonitro ansawdd ar draws y Gwasanaethau Plant ac Oedolion.

 

  Roedd y Deilydd Portffolio Cysgodol yn ystyried ei fod yn flaenoriaeth cynnwys oedolion ifanc bregus gyda phroblemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu ar y rhestr o sgriwtini yn y dyfodol agos. Nododd ymhellach nad oedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ddigon gweladwy i’r dinesydd a holodd sut y bydd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn delio â’r mater. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymuned) y bydd y Gwasanaeth yn canolbwyntio ar oedolion ifanc bregus. Cyfeiriodd ymhellach at y mater a godwyd yng nghyswllt y Ddeddf Llesiant a nododd ei bod fel Cyfarwyddwr Corfforaethol yn ystyried nad oedd hwn yn fater cynhennus o fewn adroddiad 2013/14 AGGCC.

 

  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r toriadau tebygol mewn cyllid i’r Sector Gwirfoddol a’r effaith ar wasanaethau i’r preswylwyr lleol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymuned) bod gohebiaeth wedi’i hanfon i’r trydydd sector ar oblygiadau’r toriadau 5% mewn cyllid a gofynnwyd iddynt ymateb i’r Cyngor Sir erbyn yr wythnos nesaf i nodi pa effaith y byddai’r toriadau yn eu cael ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu.

 

  Cafwyd sylwadau ynghylch pobl oedrannus yn gofyn am gefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd unigrwydd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymuned) bod Heneiddio’n Dda yn trefnu gweithgareddau i’r oedrannus a nododd ymhellach ei bod hi a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn mynd i drafod y mater hwn yn y dyfodol agos.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r sylwadau a nodwyd uchod.

Dogfennau ategol: