Eitem Rhaglen

Diogelwch Corfforaethol (Plant)

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant mewn perthynas â’r uchod.

 

Cafwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant yn dweud bod angen i’r Awdurdod Lleol gynnal hunanwerthusiad yn flynyddol o’i drefniadau i ddiogelu plant ac i adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol. Roedd Atodiad 1 yn cynnwys yr adroddiad hwnnw.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r amcanion cytunedig, y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hyn a meysydd pellach oedd angen sylw.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o gyfraniad yr Awdurdod at y cyd-destun aml-asiantaethol ac at waith y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol, y Grŵp Cyflawni Lleol ac Is-Grwpiau Rhanbarthol cysylltiedig.  Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Plant yn dymuno iddo gael ei gofnodi bod Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod oedd wedi ei gynnal yn gynharach heddiw.  Roedd y Bwrdd yn croesawu’r adroddiad a bydd yn ystyried yr argymhellion ynddo.

 

Roedd yr Awdurdod wedi cyflawni gwelliannau yn y Gwasanaethau Plant ac yn y Gwasanaethau Addysg, ac ar hyn o bryd, mae’n symud i gyfnod o ddatblygu a gwella trefniadau diogelu yn gyffredinol. Mae gan y Cyngor Sir Fwrdd Diogelu Corfforaethol a’i rôl yw sicrhau bod dyletswyddau allweddol yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion bregus yn cael eu cyflawni’n ddigonol. Mae polisi’r Awdurdod Lleol ar ddiogelu a’r cynllun gweithredu cysylltiedig wedi eu mabwysiadu.  Er y cafwyd oedi o ran y cynnydd ar y Cynllun Gweithredu yn erbyn y dyddiadau targed gwreiddiol, mae rhai camau allweddol wedi’u cyflawni.  Roedd y camau allweddol wedi’u rhestru yn yr adroddiad i’r Pwyllgor.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth ymhellach bod nifer o drefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan y sefydliad wasanaethau ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau diogelugwerthusiad blynyddol o bob ysgol gan ddefnyddio cerdyn adrodd diogelu safonol ac ar lefel Gwasanaethau Plant, ceir adroddiad yn ôl ar y dangosyddion perfformiad statudol. Mae angen i hyn gael ei ymestyn ar sail gorfforaethol.  Felly, ar gyfer 2015/16, bydd pob Pennaeth Gwasanaeth yn gosod amcanion a mesurau diogelu ac, yn ogystal, byddir yn sefydlu Cerdyn Sgorio Diogelu Corfforaethol.

Bydd cyflawni amcanion y polisi a’r Cynllun Gweithredu Diogelu o gymorth i gyflwyno sgriwtini mwy effeithiol o ran materion diogelu.

 

Y prif faterion a godwyd gan Aelodau :-

 

  Dywedodd y Deilydd Cysgodol ei bod yn falch o ddeall bod y Cyngor Sir ar flaen y gad gyda’r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Dywedodd y byddai sesiwn briffio fer i Aelodau Etholedig o fudd.

  Holwyd cwestiynau ynglŷn â throsiant staff o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn arbennig yn y Gwasanaethau Plant.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant bod trosiant y staff yn y gwasanaeth wedi sefydlogi dros y flwyddyn ddiwethaf (13/14).

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

  Bod y Pwyllgor hwn yn nodi’r trefniadau corfforaethol i weithredu ei Bolisi Diogelu.

  Bod y Pwyllgor yn nodi casgliad yr hunan-arfarniad a gyflwynwyd i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a’r camau y bwriedir eu cymryd.

  Bod y Pwyllgor yn nodi sefydlu’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol.

  Bod y Pwyllgor yn sgriwtineiddio’r trefniadau diogelu corfforaethol yn flynyddol.

   Bod y Pwyllgor yn nodi bod yr Awdurdod yn disgwyl am adroddiad terfynol adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau sicrwydd ac atebolrwydd y Cyngor i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau diogelu yn eu lle a’u bod yn cael eu dilyn.

Dogfennau ategol: