Eitem Rhaglen

Diweddariad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol, Gwynedd ac Ynys Môn

mewn perthynas â’r uchod.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Darparu Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn mewn perthynas â’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Flynyddol.

 

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol bod angen i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor hwn yn flynyddol i ddarparu trosolwg o weithgareddau dros y 12 mis blaenorol. Byddai hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyfarfod â’i hymrwymiadau dan Adrannau 19 a 20 Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2006. Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a’r newidiadau dilyniadol yn Neddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, Gwasanaeth Iechyd, Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub i fynd i’r afael â’r rhaglen diogelwch cymunedol lleol.

 

Roedd y strwythur partneriaeth dwy Sir wedi bod mewn grym bellach am ddwy flynedd, ac yn eistedd o dan y ddau Fwrdd Gwasanaethau Lleol Sirol.

Pwyllgor Ymgynghorol yw’r Bwrdd Rhanbarthol Diogelwch Cymunedol bellach ac roedd wedi cytuno ar ei brif dasgau fel yr oeddent wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol bod cyfraddau’r troseddau oedd yn cael eu cofnodi yn parhau i ddisgyn. Ym Môn roedd 628 yn llai o droseddau wedi’u hadrodd (-19%) ac yng Ngwynedd 1493 yn llai (-20%).

 

Roedd y gostyngiadau penodol hyn wedi cyfrannu at y ffigyrau :-

 

97 yn llai o droseddau trais yn erbyn y person, gostyngiad o 11%

55 yn llai o achosion byrgleriaeth annomestig, gostyngiad 25%

118 yn llai o ddigwyddiadau o ddwyn a delio gyda phethau sydd wedi eu dwyn, gostyngiad 15%.

66 yn llai o ddigwyddiadau yn ymwneud â chyffuriau, gostyngiad 32%.

 

Mae Cynllun Strategol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn awr yn gynllun rhanbarthol, ac mae Cynllun Gogledd Cymru ar hyn o bryd ar ffurf drafft. Roedd ardaloedd blaenoriaeth wedi’u hamlygu yn yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Arolygwr Mark Armstrong bod y gwaith partneriaeth gyda’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi bod yn hollol hanfodol yn y gwaith o leihau trosedd yng Ngwynedd a Môn.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

Mae gwaith y Swyddogion Cefnogi Heddlu wedi ei werthfawrogi’n fawr gan y cymunedau lleol;

Nid oedd troseddau yn erbyn yr henoed wedi’u hamlygu yn yr adroddiad.

Angen mynd i’r afael â phroblem pobl ifanc yn goryrru er mwyn gostwng nifer y damweiniau difrifol a marwolaethau.

Yr effaith y bydd y bwriad i breifateiddio’r Gwasanaeth Prawf yn ei gael ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol o safbwynt y gostyngiad mewn cefnogaeth i droseddwyr pan ddônt allan o’r carchar.

 

Y cynnydd ym mhoblogaeth yr Ynys pan fydd y Wylfa newydd arfaethedig yn cael ei hadeiladu. Mynegwyd pryderon am yr hyn y byddai ei angen o ran delio gyda throseddau tebygol ar yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD :-

 

Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Os yn ymarferol, adroddiadau blynyddol yn y dyfodol i gynnwys mwy o wybodaeth ynglŷn â data dosbarthiad oed yng nghyswllt dioddefwyr troseddau ynghyd ag ystadegau ynglŷn â’r marwolaethau a achosir drwy yrru’n beryglus.

 

GWEITHREDU : Bod Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Partneriaeth a Sgriwtini yn 2016.

Dogfennau ategol: