Eitem Rhaglen

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

(EITEM I DDECHRAU AM 3.45 o’r gloch y.p.)

 

Trafod yr ymgynghoriad ar sut i gynnal y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru ac wedi hynny derbyn cwestiynau ar y ddarpariaeth yn lleol.

 

(MAE GWAHODDIAD WEDI EU HANFON I HOLL AELODAU’R CYNGOR I FYNYCHU’R CYFARFOD MEWN PERTHYNAS A’R EITEM HON).

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Simon Smith, Prif Swyddog Tân a Mr Kevin Roberts, Uwch Reolwr Gweithrediadau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Croesawodd hefyd y Cynghorydd Peter Lewis, Dirprwy Gadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r cyfarfod.  Estynnodd groeso hefyd i’r Cynghorydd Llinos Jones ac i Faer Cyngor Tref Llangefni a'r Cynghorydd Margaret Thomas. Nododd ymhellach fod pob Aelod o'r Cyngor Sir wedi eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 Cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y broses ymgynghori a gynhelir ar hyn o bryd ar yr Amcanion Gwella drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16.  Roedd y cyflwyniad yn amlygu'r materion canlynol: - 

·           Mae costau rhedeg y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru o gwmpas £32m - sy'n gyfwerth â £ 46 y flwyddyn ar gyfer pob un o drigolion Gogledd Cymru;

·           Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn bwriadu ymgorffori strategaeth ariannol 3 blynedd i rewi'r gyllideb.  Dros y 5 mlynedd diwethaf  mae’r Gwasanaeth Tân wedi gwneud arbedion o £3 miliwn, sef 10% o'r gyllideb;

·           Yr amcan yw parhau i helpu i gadw pobl yn ddiogel rhag tân yn eu cartrefi gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymweld â chartrefi ac yn darparu larymau tân yn rhad ac am ddim;

·           Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn mynychu ysgolion i addysgu plant am y peryglon sy'n gysylltiedig â thanau;

·           Gwelwyd gostyngiad o 50% yn nifer y digwyddiadau Tân yng Ngogledd Cymru;

 

Cafwyd sesiwn holi ac ateb a chyflwynwyd y sylwadau a'r pryderon canlynol ynghyd â chwestiynau gan gynrychiolwyr o Gyngor Tref Llangefni: -

·           Digwyddiad Tân yn y siop Pysgod a Sglodion yn Llangefni

 

·           Dylid ystyried cael  gorsaf dân gyda chriw llawn yn Llangefni i ddiogelu’r dref sydd â stad ddiwydiannol, adeiladau Cyngor a phentrefi gwledig o’i chwmpas. Ymatebodd y Gwasanaeth Tân ac Achub fod yna 10 o bobl yn y criw wrth gefn yn Llangefni ac nid oedd hanner y criw ar gael yn ardal Llangefni ar ddiwrnod y tân oherwydd eu bod yn eu prif leoedd gweithio. Ni fu criw cyflawn erioed yng ngorsaf dân Llangefni.  Byddai costau sy’n gysylltiedig â darparu gorsaf dân gyda chriw cyflawn yn golygu na fyddai’n opsiwn realistig.  Pe bai Gorsaf Dân sy’n debyg i honno yng Nghaergybi - sydd â 'chriw dydd' a chyflenwad llawn o staff yn ystod y dydd a chriw ‘wrth gefn’ ar gyfer gyda’r nos - yn cael ei ystyried ar gyfer tref Llangefni, byddai’r gost i'r Awdurdod Tân tua £ 750k y flwyddyn. 

 

·           20 munud i’r Gwasanaeth Tân gyrraedd y tân.  Ymatebodd y Gwasanaeth Tân ac Achub mai nod y Gwasanaeth Tân yw bod y peiriant agosaf yn cyrraedd y tân cyn gynted ag y bo modd.  Nid yw’r Swyddfa Gartref bellach yn argymell cyfnod penodol o amser ar gyfer cyrraedd tân.  Hyd at 10 mlynedd yn ôl ‘roedd y gorsafoedd tân ar Ynys Môn yn cael eu categoreiddio ar sail risg. Roedd gorsaf Caergybi yn 'risg C', sef bod angen i un peiriant gyrraedd y tân o fewn 10 munud a dyna pam mae criw tân amser llawn yng Nghaergybi.  Categoreiddiwyd gweddill yr Ynys yn 'risg D', sef un peiriant i gyrraedd y tân o fewn 20 munud.

 

·         Recriwtio Diffoddwyr Tân

Cwestiynau ynghylch proses y Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer recriwtio Diffoddwyr Tân.  Ymatebodd y Gwasanaeth Tân ac Achub ei fod wedi defnyddio nifer o wahanol brosesau recriwtio dros y blynyddoedd h.y. cysylltu â chyflogwyr, gweithdrefn recriwtio ar draws Cymru a chyfryngau cymdeithasol.   Nodwyd bod recriwtio Diffoddwyr Tân yn bryder cenedlaethol. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Sgriwtini at yr holiadur ar y ddogfen ymgynghori a ddosbarthwyd i'r Aelodau.  Gofynnodd yn garedig i'r Aelodau ymateb i’r ddogfen. Ychwanegodd y bydd Arweinwyr y Grwpiau yn llunio ymateb swyddogol i'r ymgynghoriad ar wahân ar ran y Cyngor Sir.

Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am ddod i'r cyfarfod ac i bob Aelod o'r Cyngor Sir am eu cyfraniadau i’r drafodaeth ar yr eitem hon.   Diolchodd hefyd i'r cynrychiolwyr o Gyngor Tref Llangefni am eu cyfraniadau. 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'r sylwadau fel y nodwyd uchod.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: