Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Dysgu mewn
perthynas â'r uchod.
Dywedodd y Prif Swyddog Ieuenctid fod Strategaeth Gwasanaeth
Ieuenctid Cymru am 2014-2018 yn cydnabod yr angen i’r
gwasanaeth barhau i fod yn wasanaeth addysgol strategol yn hytrach
na bod yn rhan o’r ddarpariaeth hamdden. O fewn y strategaeth
mae pwyslais cynyddol ar leoli gweithwyr ieuenctid mewn ysgolion i
gefnogi pobl ifanc i aros mewn addysg a hyfforddiant ffurfiol.
Mae'r strategaeth yn cydnabod tri maes penodol a amlygwyd yn yr
adroddiad fel rhai y dylid canolbwyntio gwasanaethau arnynt.
Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20
Gorffennaf 2015, wedi rhoi caniatâd i’r Gwasanaeth
Ieuenctid gynnal ymgynghoriad ar Fodelau Darparu i’r Dyfodol.
Roedd canfyddiadau’r ymgynghoriad wedi’u hatodi wrth yr
adroddiad. Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad mae’r
opsiynau i'w hystyried yn cynnwys:-
• Penodi gweithwyr llawn amser a leolir ym mhob ysgol uwchradd
i gyflawni ystod o flaenoriaethau;
• Strwythur llai o glybiau, i’w rhedeg gan Weithwyr
Ieuenctid yr Ysgolion a thîm llai o staff rhan amser;
• Y posibilrwydd o helpu cymunedau pentrefi llai i redeg
clybiau ieuenctid gwirfoddol, y byddai’r gwasanaeth ieuenctid
yn eu cefnogi ond nid yn eu cyllido;
• Ymestyn rôl y Gweithiwr Prosiect Alcohol i gynnwys
materion Camddefnyddio Sylweddau, a’r camfanteisio rhywiol
cysylltiedig sy'n deillio o’r gamdriniaeth hon;
• Gweithio gyda'r Adran Addysg i ddatblygu’r ysgolion i
gymryd mwy o gyfrifoldeb am Ddatyblygu Achredu;
• Bod swydd hanner amser yn cael ei chreu ar gyfer Gweithiwr
Ymgysylltu i weithio gyda phobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn
Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant, a gaiff ei hariannu drwy Grant
Ymgysylltu a Datblygu.
Adolygu hyn ymhen dwy flynedd i benderfynu a oes angen adolygu'r
gwasanaeth ieuenctid ymhellach i gynnwys y gwaith hwn yn y
ddarpariaeth graidd, yn hytrach na gwaith arall a gyllidir gan
grant.
Dywedodd y Prif Swyddog Ieuenctid mai Ynys Môn a Gwynedd sydd
wedi cadw’r
rhwydwaith mwyaf o glybiau gwledig bach drwy Gymru, ond y bu
gostyngiad o 17% yn y niferoedd sy'n mynychu clybiau ieuenctid
rhwng 2013/14 a 2014/15. Byddai hyn ynddo’i hun wedi bod yn
yrrwr ar gyfer adolygu’r modd y mae'r awdurdod yn ymgysylltu
â phobl ifanc, ac mae wedi ysgogi’r gwasanaeth, drwy
waith y Bwrdd Trawsnewid, i ddechrau’r ailstrwythuro drwy
ymgynghori'n eang â phobl ifanc, a gofyn iddynt pa wasanaeth
sydd ei angen arnynt ar
gyfer y dyfodol. Bydd angen cyplysu hyn â rhaglen yr Awdurdod
o nodi blaenoriaethau tra’n gweithredu rhaglen helaeth o
arbedion effeithlonrwydd.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a
ganlyn:-
• Barn a gofynion pobl ifanc yw’r ystyriaethau pwysicaf
o fewn y Gwasanaeth Ieuenctid;
• Holwyd faint o bobl ifanc sy’n mynychu Clybiau
Ieuenctid gwledig ar yr Ynys. Ymatebodd y Prif Swyddog Ieuenctid
bod gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy'n mynychu Clybiau Ieuenctid
gwledig yn peri pryder a rhagwelwyd y bydd angen ystyried cau 4 o
Glybiau Ieuenctid eraill eleni;
• Holwyd am y posibilrwydd o ailgyflwyno'r Bws Allgymorth ar
gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig fel y gallant fynychu
Clybiau Ieuenctid yn eu dewis ardal. Ymatebodd y Prif Swyddog
Ieuenctid nad oedd y Bws Allgymorth wedi bod yn weithredol yn ystod
y flwyddyn ariannol ddiwethaf oherwydd y costau sy'n gysylltiedig
â'r cyfleuster. Dywedodd hefyd ei bod yn ymddangos yn ystod
yr ymgynghoriad nad oedd pobl ifanc yn ystyried bod Bws Allgymorth
yn flaenoriaeth iddynt o gymharu â mynychu Clwb
Ieuenctid;
• Ystyriwyd y dylai'r Gwasanaethau Ieuenctid fod yn darparu
costiadau ar gyfer gwasanaeth sy’n seiliedig ar arbedion o
ddim mwy nag 20%, a hynny er mwyn lleddfu effaith unrhyw newidiadau
ar grwpiau bregus;
• Holwyd a oes unrhyw ddyblygu o ran y gweithgareddau a
gynigir gan Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardaloedd
Cymunedau’n Gyntaf dynodedig a’r rheini a gynigir gan y
clybiau ieuenctid lleol. Ymatebodd y Prif Swyddog Ieuenctid y bydd
pobl ifanc dros 16 oed yn cael cynnig gweithgareddau gan
Cymunedau’n Gyntaf yn unig o fewn yr ardaloedd dynodedig
hynny;
PENDERFYNWYD argymell i'r
Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo’r adroddiad, yn amodol
ar bod y Pwyllgor Gwaith yn nodi barn y Pwyllgor Sgriwtini
Partneriaeth ac Adfywio bod y costiadau ar gyfer y gwasanaeth yn
cael eu seilio ar arbedion o hyd at 20%, a hynny i gyfyngu effaith
unrhyw newidiadau ar grwpiau bregus.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd
uchod.
Dogfennau ategol: