Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau
Tai mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd y Rheolwr Strategaeth a Datblygu Tai fod cynnal Asesiad o
Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (yr Asesiad) yn ofyniad
statudol er mwyn canfod nifer y Sipsiwn a Theithwyr sydd angen
lleiniau yn awr neu dros y 5 mlynedd nesaf (anghenion preswyl).
Mae'r Asesiad hefyd yn pwyso a mesur yr angen am safleoedd tramwy i
Sipsiwn a Theithwyr sy'n pasio drwy ardal yr awdurdod lleol ond
sydd â'u prif breswylfa yn rhywle arall. Mae'r astudiaeth
wedi cydymffurfio'n llawn â chanllawiau statudol gan
Lywodraeth Cymru. Fel yr argymhellwyd yn y canllawiau, sefydlwyd
Grŵp Llywio gydag Aelodau a Swyddogion o Gyngor Gwynedd a
Chyngor Sir Ynys Môn, ynghyd ag aelodaeth o'r gymuned Sipsiwn
a Theithwyr. Mae'r Grŵp wedi cyfarfod yn rheolaidd i
oruchwylio'r astudiaeth. Fel sy'n ofynnol, roedd y dystiolaeth a
ddefnyddiwyd yn yr asesiad yn cynnwys cyfweliadau un-i-un gyda
Sipsiwn a Theithwyr, data eilaidd gan gynnwys cofnodion o’r
cyfrifiad a chofnodion addysg, ynghyd â manylion am
wersylloedd anawdurdodedig a oedd wedi digwydd yn ardal yr
astudiaeth. Roedd yr argymhellion ar gyfer ardaloedd Gwynedd ac
Ynys Môn wedi eu cynnwys yn rhan 6.2 Atodiad 1 sydd ynghlwm
wrth yr adroddiad. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar yr
argymhellion sy'n berthnasol i Ynys Môn fel y nodir yn yr
adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr Strategaeth a Datblygu Tai ei bod wedi ymweld
â'r teithwyr ar
safle Ffordd Pentraeth ar sawl achlysur a’i bod wedi siarad
â phobl sy'n byw ar y safle. Fodd bynnag, o'r pedair aelwyd
ar y safle, dim ond 2 berson lenwodd yr holiadur yr oedd
Llywodraeth Cymru yn argymell y dylid ei ddefnyddio yn y broses
asesu.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a
ganlyn:-
• Mynegwyd pryderon dwys nad ymgynghorwyd digon gyda’r
gymuned leol, busnesau lleol a'r gymuned sipsiwn a theithwyr;
• Ystyriwyd nad oedd y Cyngor Sir wedi ceisio cael unrhyw
gydlyniant cymunedol gyda'r gymuned leol a'r gymuned sipsiwn a
theithwyr i ddeall eu hamrywiol anghenion ac i integreiddio
â'r gymuned;
• Mae’r trigolion ar safle Ffordd Pentraeth wedi dweud
nad ydynt yn dymuno newid eu ffordd o fyw;
• Mae'r adroddiad a drafodwyd yn y cyfarfod yn dweud bod angen
4 llain; mae cyfanswm o 7 o garafanau ar safle Ffordd
Pentraeth;
• Nid yw trigolion safle teithwyr Ffordd Pentraeth yn
ymwybodol o'r cynrychiolydd Sipsiwn a Theithwyr ar Grŵp Llywio
Gwynedd ac Ynys Môn; roeddent wedi dweud wrth eu Cynghorydd
lleol y byddent yn hoffi gweld un o drigolion safle Ffordd
Pentraeth yn cael ei enwebu i wasanaethu ar y Grŵp
Llywio;
• Byddai Safle yn ne Ynys Môn yn cael ei ffafrio gan
drigolion safle Ffordd Pentraeth os yw'r Awdurdod yn bwriadu dynodi
safle fel safle parhaol i sipsiwn / teithwyr;
• Ystyriwyd nad oedd digon o ddata wedi cael ei gasglu oddi
wrth deithwyr yr oes newydd ar Ynys Môn gan mai dim ond dau
holiadur a gwblhawyd. Ymddengys bod Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i
gael mwy o ddata o holiaduron gan fod ganddynt safle parhaol i
sipsiwn a theithwyr yn Llandygai. Dywedwyd nad oedd trigolion eiddo
cyfagos i'r safle sipsiwn a theithwyr ar Ffordd Pentraeth wedi cael
cyfle i lenwi unrhyw holiadur;
• Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn 2009 yn amlygu bod rhaid
cynnal 'asesiad o anghenion'. Ystyriwyd ei bod yn hanfodol
cynnal 'asesiad o
anghenion' ar safle cilfan Ffordd Pentraeth.
Yn eu hymateb dywedodd y Swyddogion bod Deddf Tai (Cymru) 2014 yn
gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd ar gyfer
Sipsiwn a Theithwyr os oes angen wedi'i nodi. Yn ystod y ddwy
flynedd ddiwethaf, o gofio’r patrwm o wersylloedd
anawdurdodedig a gwersylloedd dros dro, mae’n amlwg bod angen
safle parhaol a dau safle dros dro ar Ynys Môn. Felly
mae’r Asesiad o Anghenion yn adlewyrchu’r gofynion
cyfredol ar yr Ynys. Derbyniwyd nad oedd digon o ymgynghori wedi
digwydd ynghylch dewis safleoedd, ond mae'r ddogfen a ystyriwyd gan
y Pwyllgor yn canolbwyntio ar adnabod angen yn hytrach nag ar
ddewis safleoedd. Felly bydd angen i fersiwn ddrafft Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn adnabod safleoedd
parhaol a dros dro i sipsiwn a theithwyr ar Ynys Môn.
Adroddodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod
ar 25 Ionawr 2016, wedi gohirio rhoi sylw i’r adroddiad er
mwyn caniatáu ymgynghoriad ynghylch adnabod a datblygu
safleoedd addas i sipsiwn a theithwyr. Cynhelir sesiwn friffio
i’r etholedig mewn perthynas â safleoedd i sipsiwn a
theithwyr. Trefnir cyfres o gyfarfodydd hefyd ar gyfer Cynghorau
Tref / Cymuned yn ymwneud â'r gwahanol opsiynau a gyflwynwyd
gan y Cyngor Sir. Bydd trigolion a busnesau lleol hefyd yn cael
cyfle i fynegi eu sylwadau mewn sesiynau 'galw i mewn' yn eu
cymunedau.
Dywedodd ymhellach fod yr amserlen ar gyfer yr asesiad o anghenion
llety sipsiwn a theithwyr yn hynod o dynn gan fod raid ei gwblhau
a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 26 Chwefror, 2016 ac i
sicrhau y gellir cynnwys y manylion yn y Cynllun Datblygu Lleol o
fewn yr amserlen a gyhoeddwyd. Mae’n rhaid sicrhau yr
ymgynghorwyd yn ddigonol gyda chymunedau lleol; bydd angen asesu’r ymatebion
i’r ymgynghoriad a bydd angen i’r Pwyllgor Gwaith eu
trafod wedyn.
Yn dilyn trafodaethau manwl, PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor
Gwaith fod yr adroddiad
ar 'Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Ynys Môn a
Gwynedd 2016' yn cael
ei gymeradwyo, yn amodol ar nodi pryderon y Pwyllgor ynghylch lefel
yr ymgynghori sydd wedi digwydd gyda'r gymuned Sipsiwn / Teithwyr,
trigolion lleol a'r Cynghorau Tref / Cymuned.
GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.
Dogfennau ategol: