Eitem Rhaglen

Grwp Adolygu Cynnydd Ysgolion - Diweddariad

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Dysgu a’r Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â'r uchod.

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y Grŵp Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi cael ei sefydlu ar 21 Tachwedd, 2012 gan y Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden yn dilyn argymhellion a wnaed gan Estyn ar ansawdd y Gwasanaeth Addysg i blant a phobl ifanc ar Ynys Môn. Nod y grŵp yw cynorthwyo'r Gwasanaeth Addysg i wella perfformiad ysgolion ar yr Ynys, drwy gynyddu a datblygu atebolrwydd lleol am berfformiad ysgolion a gwella gwybodaeth aelodau lleol am yrwyr perfformiad allweddol a'r heriau sy'n wynebu ysgolion ar Ynys Môn. Gyda sefydlu strwythur newydd ar gyfer Pwyllgorau Sgriwtini yn ystod mis Mai 2013, cytunwyd y byddai Aelodau'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn parhau â gwaith y Grŵp Adolygu Ysgolion.

Dywedodd bod yr Uwch Reolwr Safonau Ysgolion a Chynhwysiad yn rhoi arweiniad i'r Panel ynghylch pa ysgolion y dylid eu gwahodd i ymddangos ger eu bron. Roedd rhestr o'r ysgolion a oedd wedi ymddangos gerbron y Panel yn ystod 2015 i’w gweld yn yr adroddiad. Mae'r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r Ymgynghorydd Her GwE perthnasol (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol) yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod o'r Panel i drafod safonau cyrhaeddiad, materion cynhwysiad, presenoldeb a rheoli adnoddau sy'n cynnwys agweddau ariannol a rheolaethol.  Po leiaf yw'r ysgol, y mwyaf tebygol ydyw y bydd ei pherfformiad yn amrywio, a gallai’r perfformiad hwn amrywio'n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn ac effeithio ar ei chategoreiddiad cyffredinol o fewn y model cenedlaethol. Mae lleiafrif o ysgolion yn cael anawsterau o ran cynnal lefelau staffio cyson o ganlyniad i gyfnodau mamolaeth ac absenoldebau arbennig, ac mae effeithiau hynny’n fwy amlwg yn yr ysgolion llai.

Yn dilyn penodi swyddog newydd i’r swydd Uwch Reolwr Safonau Ysgolion a Chynhwysiad, bydd nifer o ysgolion yn cael eu gwahodd i ymddangos gerbron y Panel rhwng mis Ionawr 2016 a Rhagfyr 2016.

Fel yr Aelod Portffolio (Addysg), dywedodd y Cynghorydd K.P. Hughes mai ei nod yw codi safonau addysg ar Ynys Môn. Mae nifer o ysgolion ar yr Ynys wedi gwella ac mae gwaith y Grŵp Adolygu Ysgolion wedi cynhyrchu tystiolaeth bod y  gwasanaeth wedi gwella.

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn:-

• Holwyd a oedd anawsterau wrth recriwtio Penaethiaid ar Ynys Môn ac a oedd digon o athrawon yn dod trwodd sy’n dymuno cael eu hystyried i fod yn Benaethiaid. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu fod anawsterau gyda recriwtio  Penaethiad ac y gellir priodoli’r rheini i’r pwysau sy'n gysylltiedig â'r swydd a’r ffaith  y byddai angen, o bosib, i’r Pennaeth ddysgu dosbarthiadau am 90% o'r amser hefyd;
• Holwyd hefyd am ysgolion yn dysgu o brofiadau ysgolion eraill ac ymgorffori arferion da gan ysgolion sy'n perfformio'n dda. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu fod ymgorffori arferion da a rhannu profiadau rhwng ysgolion yn hollbwysig h.y. mae ysgol sy’n perfformio'n dda o ran 'sgiliau ysgrifennu' yn gallu cael cymorth gan GwE, i ddatblygu pecynnau cymorth i ysgolion eraill.

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad mewn perthynas â'r gwaith a wneir gan y Grŵp Adolygu Cynnydd Ysgolion.

GWEITHREDU: Bod y Pwyllgor Sgriwtini yn derbyn adroddiad diweddaru bob blwyddyn.

 

Dogfennau ategol: