Eitem Rhaglen

Dogfen Partneriaeth Polisi a Rôl Sgriwtini yn Monitro'r Partneriaethau

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Sgriwtini a’r Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Rheolwr Busnes y Pwyllgor Gwaith, Trawsnewid Perfformiad, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol) fod yr adroddiad hwn yn nodi pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gan ei fod yn rhan annatod o arferion gweithio Awdurdodau Lleol; mae'n rhoi gwasanaethau gwell i gymunedau lleol. Nododd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth 2016 wedi cymeradwyo’r Ddogfen Bolisi fel sylfaen gadarn ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod gwaith wedi cael ei wneud yn ddiweddar i lunio rhestr o bartneriaethau rhwng y Cyngor a sefydliadau eraill yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol. Hyd yma mae dros 200 o bartneriaethau posib wedi cael eu nodi. Bydd gwaith yn awr yn cael ei wneud i egluro rôl a gwerth ychwanegol y partneriaethau posib a nodwyd.

 

Rhoddodd y Swyddog Sgriwtini a’r Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyflwyniad byr i'r Pwyllgor ar y Polisi Partneriaeth a rôl y Pwyllgor Sgriwtini yn monitro’r Partneriaethau. Dywedodd y Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod y Polisi Partneriaeth yn crynhoi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ac yn ychwanegu at y datganiadau partneriaeth unigol sydd eisoes yn bodoli, er enghraifft Compact Ynys Môn (cytundeb partneriaeth gyda'r Sector Gwirfoddol) a’r Siarter Cymunedol ar y Cyd gyda Chynghorau Tref a Chymuned ar yr Ynys. Mae'r Polisi (ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad) yn canolbwyntio ar bartneriaethau lle mae'r Cyngor yn dewis gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector preifat, cyhoeddus neu wirfoddol. Dywedodd hefyd fod gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu rôl i adolygu trefniadau rheoli risg yr Awdurdod. Bydd y Pwyllgor hwnnw’n canolbwyntio ar gael sicrwydd bod partneriaethau allweddol yn rheoli risg yn ddigonol ond nid yw ei rôl yn cynnwys adolygu cyfraniad a chanlyniadau partneriaethau, am fod hynny’n rhan o gylch gwaith Aelodau Sgriwtini.

 

Cyfeiriodd y swyddog ymhellach at y rhesymau pam fod gweithio mewn partneriaeth o fudd i'r Cyngor a chymunedau Ynys Môn a hefyd at y meini prawf y mae’r Cyngor yn eu defnyddio i ddewis partneriaethau ac a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

Adroddodd y Swyddog Sgriwtini fod gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio rôl bwysig i’w chwarae i sicrhau bod lefel briodol o ymgysylltu democrataidd gyda phartneriaethau ac i sicrhau bod y gwaith a’r perfformiad yn gyson â blaenoriaethau allweddol y Cyngor ac anghenion y cymunedau lleol ac yn ymateb iddynt. Wrth gyflawni ei rôl mae gan y Pwyllgor Sgriwtini nifer o feysydd posib y gallai eu hystyried, gan gynnwys:-

 

·           Sgriwtinieiddio trefniadau llywodraethu;

·           Sgriwtineiddio cyfraniad y Cyngor;

·           Gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol y bartneriaeth;

·           Sicrhau ymgysylltu â'r cyhoedd a strategaethau a phartneriaethau sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn:-

 

·         Holwyd ynghylch y perygl y byddai gwasanaethau a gynigir gan y sefydliadau partner a nodwyd yn cael eu dyblygu. Ymatebodd y Swyddogion y bydd pob sefydliad partner yn cael ei adolygu a'i werthuso er mwyn asesu ei werth am arian, ei werth ychwanegol ac unrhyw ddyblygu posib. Bydd yr ymarfer hwn yn fodd i swyddogion gael rhestr gyflawn o sefydliadau partneriaeth a fydd yn gweithio gyda'r Cyngor mewn partneriaeth yn y dyfodol;

 

  • Goynnwyd a fydd 'asesiad risg' yn cael ei gynnal i werthuso gwaith partneriaeth gyda sefydliadau. Ymatebodd y Swyddogion y bydd rôl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cynnwys adolygu trefniadau rheoli risg sy'n gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth.

 

·         Holwyd ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghorau Tref / Cymuned a Chynghrair Gymdeithasol leol a sefydlwyd i gymryd drosodd y gwaith o redeg gwasanaethau anstatudol a ddarperir gan y Cyngor o bosib. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y bydd y Cyngor Sir yn ymgynghori maes o law efo’r Fforwm Cyswllt Cynghorau Tref a Chymuned a rhanddeiliaid ynghylch y Polisi Partneriaeth a'r 'pecyn cymorth' cysylltiedig. Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod Aelodau Lleol yn rhoi gwybod i Swyddogion am unrhyw gynghrair gymdeithasol leol neu unrhyw grŵp sy'n gweithio o fewn eu cymuned. Bydd hyn yn caniatáu i Swyddogion gysylltu â sefydliadau o'r fath i asesu’r posibilrwydd o weithio mewn partneriaeth gyda'r Cyngor. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y dylid ymchwilio ymhellach i waith partneriaeth a’r posibilrwydd bod cymunedau lleol yn cymryd gwasanaethau diwylliannol drosodd; dylid ystyried cysylltu’n gyntaf gyda  Chynghorau Tref / Cymuned ac wedyn gyda sefydliadau lleol.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau:-

 

·         Bod y Ddogfen Polisi Partneriaeth yn sylfaen gadarn i’r Cyngor ar gyfer gweithio  mewn partneriaeth;

 

·         Bod y dasg o sgriwtineiddio partneriaethau’n cael ei chyflawni yn y lle cyntaf trwy ei hymgorffori ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor hwn;

 

·         Gwneud trefniadau i adolygu effeithiolrwydd y dull hwn o sgriwtineiddio partneriaethau tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol (yr adolygiad i gynnwys ystyriaeth o rinweddau model panel canlyniad Sgriwtini).

 

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: