Eitem Rhaglen

Cymunedau'n Gyntaf

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanethau Tai.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf. i'r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai ar gynnydd y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn 2015/16.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn ffrwd waith allweddol sy’n cyflawni blaenoriaethau strategol y Cyngor fel y cawsant eu nodi yng Nghynllun Corfforaethol 2014/17 ac sy'n canolbwyntio ar adfywio cymunedau a datblygu'r economi, ynghyd â chynyddu opsiynau tai a lleihau tlodi. Nododd mai’r Awdurdod yw'r Corff Cyflawni Arweiniol a bod y ffynonellau cyllido yn cynnwys cyllid craidd, cyllid y Rhaglen Esgyn a chyllid Cymunedau ar gyfer Gwaith.  Sefydliad Cyflawni yw Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf.

 

Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf, fel cwmni cyfyngedig trwy warant ac elusen, yn gallu sicrhau cyllid allanol i gefnogi darparu gwasanaethau Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardal, sef cyllid nad yw’r Awdurdod, fel corff cyhoeddus, yn gymwys i wneud cais amdano o bosib.  Mae’r Academi Alwedigaethol Gymunedol, sy'n darparu hyfforddiant achrededig i bobl 14-62 oed, yn targedu’r rhai sydd leiaf tebygol o fynychu darpariaethau prif ffrwd mewn colegau ac yn ddiweddar mae wedi ennill y wobr am y Fenter Gymdeithasol Orau yng Ngwobrau’r Sefydliad Tai Siartredig.

 

Cyflwynwyd adroddiad manwl gan y Rheolwr Clwstwr ar gyfer Cymunedau’n Gyntaf Môn ar weithgareddau’r sefydliad. Bu cynnydd yn nifer y staff a gyflogir ar hyn o bryd gan y sefydliad ac yn yr arian a sicrhawyd ar gyfer y rhaglen.  Cyfeiriodd at yr Academi Alwedigaethol Gymunedol a atgyfnerthwyd yn ddiweddar yn sgil derbyn cyllid dan y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Roedd £90,000 wedi'i ddyfarnu dros 2 flynedd i brynu peiriant torri gwair masnachol mawr a fydd yn golygu y gall CG Môn dendro am gontractau mwy o faint a chynhyrchu ffrwd incwm gynaliadwy. Prynwyd 2 fan hefyd sy'n uwchraddio’r fflyd o gerbydau. Prynwyd cerbyd cloddio bach i’w ddefnyddio gan hyfforddeion a fydd yn cynorthwyo i arwain hyfforddiant yng Ngholeg Menai ar  sut i ddefnyddio cerbydau cloddio mawr. Ariannwyd hyn drwy Horizon.

Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn yn gweithio'n agos iawn gyda chyflogwyr i sicrhau y gellir cyfatebu’r swyddi gwag sydd ganddynt gyda’r bobl sy’n cymryd rhan yn yr Academi.  Nododd bod 102 o bobl wedi cael gwaith trwy’r Academi hyd yma.

 

Amlinellodd y Rheolwr Grant faint o arian a sicrhawyd gan Cymunedau’n Gyntaf Môn a chyfeiriodd at Atodiadau 1 a 5 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ac a oedd yn tynnu sylw at y cyllid allanol y llwyddwyd i’w sicrhau.

 

Roedd Cadeirydd Cymunedau’n Gyntaf Môn, Mr. J. Lee MBE, yn dymuno  mynegi ei werthfawrogiad o'r gwaith a wnaed gan staff CG Môn a pha mor falch ydoedd o lwyddiant y sefydliad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn: -

 

·         Llongyfarchwyd Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf. gan Aelodau'r Pwyllgor am eu gwaith a chanmolwyd y cyfleusterau a gynigir i helpu pobl mewn  ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Gofynnwyd a oes modd helpu ardaloedd eraill nad ydynt yn rhan o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Môn.  Ymatebodd y Rheolwr Clwstwr ar gyfer Cymunedau’n Gyntaf Môn fod cyllid Ewropeaidd wedi'i sicrhau i benodi Swyddog i weithio mewn wardiau sydd y tu allan i  ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Môn. 

 

·         Gofynnwyd a fydd CG Môn yn parhau i blannu blodau i wella delwedd Canol Tref Caergybi a'r cyffiniau. Ymatebodd y Rheolwr Clwstwr ar gyfer Cymunedau’n Gyntaf Môn bod rhai pobl ifanc wedi bod yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn ddiweddar tuag at staff pan oeddent wrthi’n paratoi ac yn plannu arddangosiadau blodau yng Nghaergybi. Nododd fod y mater wedi cael ei adrodd i Heddlu Gogledd Cymru ar sawl achlysur; cafwyd ar ddeall mai dim ond un person ifanc 15 oed y siaradwyd ag ef. Dywedodd nad oedd yn fodlon i’w staff gael eu bygwth ac y bydd rhaid atal y gwasanaeth. 

 

Yn dilyn trafodaethau pellach PENDERFYNWYD: -

 

·         Llongyfarch Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf am eu gwaith a’u llwyddiant sy'n enghraifft o weithio’n dda mewn partneriaeth gyda'r Cyngor;

 

·         Nodi llwyddiant Cymunedau’n Gyntaf Môn yn helpu 102 o bobl i ddod o hyd i waith drwy’r Academi Alwedigaethol Gymunedol;

 

·         Bod llythyr yn cael ei anfon at Heddlu Gogledd Cymru yn mynegi pryderon y Pwyllgor mewn perthynas â digwyddiadau diweddar o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc a bygythiadau i staff CG Môn pan fônt yn paratoi a phlannu arddangosiadau blodau yn ardal Caergybi.

 

GWEITHREDU: Y Swyddog Sgriwtini i ysgrifennu at Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol a nodir uchod.

Dogfennau ategol: