Eitem Rhaglen

Dadansoddiad o'r Ymateb i'r Ymgynghoriad - Ardal y Fenai

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

 

(Atodiad a gohebiaeth ynghlwm)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio (Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn) bod angen i'r Cyngor nodi safleoedd sy'n addas i’r pwrpas.  Ystyriwyd tir yn y Gaerwen a Phenhesgyn a safle’r gwersyll anawdurdodedig cyfredol ym Mhentraeth fel safleoedd posib, yr oedd angen iddynt fod yn ddigon mawr i gartrefu pedair aelwyd. Nid oedd y safle yn y Gaerwen yn addas oherwydd cost darparu cyflenwad dwr.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad oes unrhyw broblemau sy’n ymwneud â throsedd ac anhrefn ar y safle ym Mhentraeth. Eu hunig bryder yw materion diogelwch y ffyrdd, os bydd plant yn byw ar y safle.

 

Cododd yr aelodau y materion canlynol: -

 

  Mae'r teithwyr wedi dweud y byddai’n well ganddynt aros ar y safle ym Mhentraeth. Roedd yr Aelodau'n bryderus y gallai symud y teithwyr fod yn  wastraff arian oni bai eu bod yn fodlon symud i safle newydd.

  Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddod o hyd i safle addas ar gyfer y teithwyr ac i weithredu mewn ffordd gyfrifol, gan na fyddai’n ddiogel i’w gadael ar y safle ym Mhentraeth.

  Nodwyd bod y safle ym Mhentraeth yn ddatblygiad a oddefir, felly nid oes gan y Cyngor bwerau gorfodi i droi’r teithwyr allan heb baratoi safle addas parhaol yn gyntaf.

  Gofynnwyd cwestiwn ynghylch sut y byddai'r teithwyr yn ymateb i reolau a rheoliadau. Yn seiliedig ar drafodaethau gyda’r teithwyr, ‘roedd swyddogion yn teimlo y byddai'r teithwyr yn derbyn y byddai yna reolau ar gyfer safle swyddogol a fyddai’n cael ei fonitro gan y Cyngor, ond ei bod yn bwysig bod y teithwyr yn ymgysylltu’n llawn o ran cytuno’r rheolau gyda’r Cyngor.

 

Dywedodd yr Eiriolwr Annibynnol ei fod ef a Rheolwr y Strategaeth Dai a Datblygu wedi ymweld â’r teithwyr ym Mhentraeth ac wedi trafod materion gyda nhw. Dywedodd fod y teithwyr wedi cael gwybod am yr ymgynghoriad o adroddiadau papur newydd, a bod ymweliadau gan bobl leol cyn i’r ymgynghoriad ddechrau wedi eu gofidio, a bod hynny wedi gwneud drwg i’r broses ymgysylltu. Dywedodd ymhellach fod y teithwyr angen sicrwydd gan y Cyngor ac y dylid eu cynnwys yn y broses gynllunio. Cyfeiriodd at y gwaith ymgynghori sydd wedi cael ei wneud a bod sgôp bellach ar gyfer gwella cyfathrebu.

 

Rhoddwyd caniatâd i aelodau o'r cyhoedd sef Mr Lawrence Gain, Mr Gareth Morgan, Mr Wyn Jones, Mrs Foulkes a phreswylydd lleol wneud sylwadau yn y cyfarfod ac fe ddaru nhw leisio eu pryderon i'r Pwyllgor.

 

Pwyntiau a godwyd: -

 

  Materion Iechyd a Diogelwch ynghylch ansawdd aer a llygredd ym Mhenhesgyn;

  Mae angen trafodaethau pellach gyda chymunedau lleol;

  Maint a chost y datblygiad arfaethedig ym Mhenhesgyn;

  Mae’r safle ym Mhentraeth yn flêr;

  Mae mynediad i dir fferm yn gyfyngedig ym Mhentraeth;

  Mae'r Cyngor eisoes yn berchen ar dir yn y Gaerwen.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad.

 

  Nodi nad oedd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi gwneud argymhelliad i'r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â'r mater hwn oherwydd gwahanol bryderon a fynegwyd yn y cyfarfod.

 

  Bod y penderfyniad yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Gwaith yn y man.

Dogfennau ategol: