Eitem Rhaglen

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Dros Dro - Canol yr Ynys

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) bod tri safle wedi eu hystyried: -

 

Safle 1 - Llain o dir rhwng yr A55 / A5 rhwng Llanfairpwll a Chroesffordd Star;

Safle 2 - Darn o dir ar fân-ddaliad yn y Gaerwen;

Safle 3 - Tir ger yr A5 wrth Fferm Cymunod, Bryngwran. 

 

Yn dilyn ymgynghoriad helaeth, nododd yr Aelod Portffolio yr ystyrir  bod y safle ym Mryngwran yn anaddas oherwydd materion a godwyd gan yr Awdurdod Priffyrdd ynglŷn â'r ffaith nad yw’r fynedfa i'r safle  yn cwrdd â’r gofynion sylfaenol o ran y llain welededdRoedd safleoedd 1 a 2 ar ôl i’w hystyried fel mannau aros dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) bod y cyfnod ymgynghori wedi cynnwys digwyddiadau galw heibio a chyfarfodydd gyda Chynghorau Cymuned sy’n cynrychioli’r ardaloedd lle gallai’r safleoedd gael eu lleoli. Cwblhawyd holiaduron ar-lein a chafwyd gohebiaeth gan nifer o drigolion a busnesau.  Cafwyd ymatebion hefyd gan ymgyngoreion sector cyhoeddus ac roedd yr ymatebion hynny wedi eu cynnwys gyda'r adroddiad i'r Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd y Swyddog bod ffactorau o blaid ac yn erbyn y safleoedd yn y Gaerwen a Star. Y Cyngor Sir sydd biau’r mân-ddaliad yn y Gaerwen ar hyn o bryd ac ni fyddai mynediad i’r safle trwy'r A55 yn amharu ar bentrefi lleol. Fodd bynnag, mae angen ystyried pa mor agos ydyw at y Parc Gwyddoniaeth. Mae Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi nodi Cyfyngiad Mawr; nid yw hynny ynddo’i hun yn golygu y gellir diystyru’r safle hwn oherwydd y gallai cynnal archwiliadau archeolegol fesul cam, ynghyd â rhoi sylw gofalus i ddyluniad y safle fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Mae llai o bryderon datblygu  economaidd a thechnegol am y safle yn Star ond byddaicostau ychwanegol o ganlyniad i'r angen i brynu dau ddarn o dir ar wahân i sefydlu safle.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Mr. Mark Inwood annerch y cyfarfod fel un sy’n byw yn yr ardal ac sy’n cynrychioli trigolion Star, Gaerwen.  Dywedodd Mr. Inwood y gwnaed llawer o waith ac ymdrech i ddeall y polisïau o ran sut mae'r Cyngor wedi mynd ati i wneud penderfyniad mewn perthynas â’r safle yn Star.  Dywedodd nad yw trigolion Star ar hyn o bryd  yn gallu derbyn y polisïau a ddefnyddiwyd gan yr awdurdod; nid oes cyfeiriad ynghylch a yw'r safle o fewn Ardal Gwarchod Tirwedd. Mae gan y trigolion nifer o bryderon  ynghylch y broses asesu ac un o’r rhai mwyaf yw nad oes unrhyw asesiad risg wedi cael ei wneud ar y safle yn Star; ym marn Mr. Inwood mae’n rhaid cynnal asesiad o'r fath yn unol â’r gyfraith. Dywedodd Mr. Inwood ymhellach nad oedd gohebiaeth ddiweddar rhyngddo ef a swyddogion y Cyngor wedi ei rhoi i aelodau'r Pwyllgor tan 24 awr cyn y cyfarfod; felly mae trigolion Star wedi colli ffydd ym mhrosesau’r awdurdod mewn perthynas â’r safle i deithwyryn Star ac nid oes ganddynt unrhyw ddewis ond sbarduno’r broses gwyno gyda'r Ombwdsmon ar gyfer Llywodraeth Leol.  Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) gan ddweud fod yr Awdurdod wedi ymateb yn helaeth i faterion a godwyd mewn gohebiaeth ddiweddar a bod cyfarfod wedi ei gynnal rhwng Swyddogion a Mr. Inwood i fynd i'r afael â'i bryderon.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio (Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd - Gwynedd ac Ynys Môn) ei bod yn hyderus bod yr Awdurdod wedi mynd i'r afael â materion a godwyd mewn perthynas â'r Safle Aros Dros Dro arfaethedig i Deithwyr yn Star. Mae’r ffactorau y mae'r Awdurdod wedi eu defnyddio i ystyried y safle wedi eu nodi’n glir yn y ddogfen ymgynghori ac maent yn dderbyniol.   Wrth benderfynu ar fannau aros posib penodol, ystyriwyd ffactorau eraill hefyd, megis hygyrchedd, isadeiledd, ffactorau ffisegol ac amgylcheddol a chynefinoedd a rhywogaethau a ddiogelir. Mae’n fwy priodol ystyried materion eraill a godwyd gan Mr Inwood fel rhan o ddyluniad y safle ac wrth baratoi cais cynllunio, tra bod eraill yn ymwneud â rheolaeth weithredol unrhyw safle.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn: -

 

·           Mae angen cynnal asesiad risg ar bob safle arfaethedig i deithwyr. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) y bydd gwaith dylunio’n cael ei wneud unwaith y bydd safle wedi ei glustnodi ac wedi hynny bydd angen cyflwyno cais cynllunio i'r awdurdod lleol. Bydd asesiad risg yn rhan o'r broses cais cynllunio; cadarnhaodd y Rheolwr Polisi Cynllunio nad oes raid cynnal asesiad risg i nodi safleoedd ar gyfer eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu ar y Cyd;

·           Codwyd cwestiynau ynghylch y posibilrwydd y bydd sipsiwn a theithwyr yn penderfynu peidio â defnyddio'r safleoedd dynodedig ac y byddant yn gwersylla heb ganiatâd ar dir ar yr Ynys.  Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) y cynhaliwyd deialog gyda'r sipsiwn a’r teithwyr trwy Hwylusydd Annibynnol a chafwyd ar ddeall bod rhai ohonynt wedi bod yn ymweld â'r ynys ers nifer o flynyddoedd ac na fyddent ond angen safle am gyfnod byr bob blwyddyn.  Maent wedi dweud y byddent yn defnyddio safle dynodedig ac y byddent yn fodlon talu ffi am ddefnyddio'rsafle. Cadarnhawyd hynny eto pan ymwelodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol â’r gwersyll anawdurdodedig ym Mona yn ystod mis Gorffennaf;roedd yn sicr bod y ddau safle a nodwyd yn addas;

·           Dywedodd y Cynghorwyr y byddai modd gweld y safle yn y Gaerwen a’r safle yn Star o'r A55 / A5.Ymatebodd y Swyddogion trwy ddweud y byddai angen trafod opsiynau sgrinio yn ystod y broses o ddylunio’r safle cyn cyflwyno cais cynllunio;

·           CyfeirioddCynghorwyr at adroddiadau diweddar bod teithwyr wedi gadael safle ym Mona mewn cyflwr blêr a’u bod wedi gadael gwastraff ar y tir. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) ei bod wedi ymweld â'r safle ar ôl i’r teithiwr adael ac nad oedd y tir yr oedd y carafannau wedi bod arno mewn cyflwr blêr, er bod gwastraffdiwydiannol wedi ei adael yn anghyfreithlon ar ran arall o'r safle;

·           Holwyd sut y bydd yr Awdurdod yn monitro ac yn rheoli'r safleoedd i sipsiwn a theithwyr.  Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid  Prosesau Busnes) y bydd angen cael adnoddau i agor y safle pan fydd angen ac i ymgysylltu â'r Sipsiwn a’r Teithwyr cyn iddynt ymweld;  bydd yr awdurdod yn gweithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru wrth ddylunio’r safle a chytuno ar drefniadau i reoli'r safle;

·           Pryderon ynghylch yr effaith ar allu’r Parc Gwyddoniaeth i ddenu busnesau i'r safle a’r posibilrwydd y byddai’n rhaid diogelu’r Parc a fyddai’n cyfyngu mynediad gan olygu na fyddai trigolion lleol yn gallu ddefnyddio’r Parc;

·           Cododd un Cynghorydd gwestiynau am bethau yr oedd ef yn eu hystyried eu bod yn anghysondebau yn y ddogfen ymgynghori, yn ogystal â’r ffaith nad oedd ymatebion gan rai Cynghorau Cymuned wedi'u cynnwys;

·           Nid oedd gwybodaeth wedi ei darparu am gostau paratoi mannau aros dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr.  Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes ) fod tri math o gostau - bydd angen prynu tir os cymeradwyir y safle yn y Star; bydd angen gweithio allan y gost o greu mynediad i’r naill safle neu’r llall yn ogystal â’r gost o baratoi cyfleusterau ar gyfer llecyn caled a sgrinio; wedi hynny bydd costau ar gyfer rhedeg y safle - ni waeth pa safle a ddewisir. Nododd y bydd angen sicrhau cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith cyn y gellir rhyddhau unrhyw adnoddau.

 

  • PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn ystyried yr holl argymhellion yn yr adroddiad ac yn penderfynu pa un o’r ddau safle dros dro y mae’n ei ffafrio o’r  ddau opsiwn a amlinellir yn yr adroddiad.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: