Eitem Rhaglen

Cyd-Brotocol Gogledd Cymru ar gyfer Rheoli Gwersylloedd Anawdurdodedig

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Tai ar wersylloedd anawdurdodedig yng Ngogledd Cymru.

 

Yn 2013, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru ddogfen o’r enw Canllawiau ar Reoli Gwersylla Diawdurdod a gafodd ei gylchredeg i’r holl awdurdodau yn 2015. Mae’r Canllawiau yn rhoi cyngor ar rôl y Bwrdd Iechyd, yr Heddlu a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr o ran cynorthwyo’r awdurdodau lleol mewn perthynas â gwersylloedd anawdurdodedig, ac yn argymell fod pob awdurdod yn mabwysiadu protocol ar gyfer eu sefydliadau.

 

Datblygwyd Cyd-Brotocol Gogledd Cymru ar gyfer Rheoli Gwersylloedd Sipsiwn a Theithwyr Anawdurdodedig gan Fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru yn unol ag egwyddorion cyson cytunedig, gan ddarparu fframwaith ar gyfer cynnal safonau a lleihau effeithiau negyddol gwersylloedd.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai bod Fforwm Prif Weithredwyr Gogledd Cymru wedi ystyried y Protocol, a dywedodd y byddai’n croesawu sylwadau’r Pwyllgor arno cyn iddo gael ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoes y Pennaeth Gwasanaethau Tai grynodeb o’r adroddiad. Dywedodd fod y Cyngor yn gweithredu’r protocol ar hyn o bryd, sydd yn gyson o ran ei amcanion, ac yn deg i deithwyr, busnesau a pherchnogion tir lleol. Mae’r protocol yn gwahaniaethu rhwng cyfrifoldebau’r Cyngor mewn perthynas â gwersylloedd anawdurdodedig ar dir y Cyngor a thir preifat.

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu a Strategaeth Tai ddiweddariad ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â theithwyr sy’n byw mewn gwersylloedd yn ardal Caergybi ar hyn o bryd. Adroddodd fod rhybuddion wedi eu cyflwyno i deithwyr mewn dau leoliad gwahanol, ond eu bod wedi symud i leoliad arall erbyn hyn. Adroddodd y Rheolwr hefyd ei bod mewn cysylltiad ag Adran Gyfreithiol Cyngor Sir Conwy er mwyn derbyn cyngor cyfreithiol ar faterion yn ymwneud â theithwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor y materion a ganlyn:-

 

  Mae teithwyr yn tueddu i wersylla ar dir y Cyngor yn hytrach nag ar dir preifat, gan fod teithwyr yn ymwybodol bod y Cyngor yn wynebu proses gyfreithiol hirfaith er mwyn eu troi nhw allan.

  Mewn perthynas â busnesau ar safle Mona, dylai’r Cyngor ofyn i fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru geisio barn y Ffederasiwn Busnesau Bach, er mwyn tynnu eu sylw at y Protocol, ac i roi cyfle iddynt gynnig sylwadau.

  Nodwyd bod swyddogion prosiect yn y broses o fapio safleoedd ar gyfer datblygu safleoedd teithwyr awdurdodedig, a ddylai fod yn weithredol ymhen deuddeng mis.

  Mewn perthynas â’r gwersylloedd newydd, nodwyd bod swyddogion y Cyngor yn ymweld â, ac yn asesu, safleoedd teithwyr o fewn diwrnod neu ddau iddynt gael eu meddiannu. Mae’n rhaid i’r Protocol fod yn hyblyg a rhoi ystyriaeth i anghenion lleol. Gall gorchmynion gorfodaeth amrywio oherwydd bod y Llysoedd ar gau ar benwythnosau.

 

Mynychodd y Rheolwr Datblygu a Strategaeth Tai Fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn rhan o’r broses o lunio’r Protocol. Roedd trafodaethau’r Fforwm yn canolbwyntio ar brofiadau amrywiol awdurdodau lleol wrth ymdrin â gwersylloedd teithwyr, yn arbennig sut y gellir gorfodi pwerau’r Cyngor mewn gwahanol ardaloedd. Adroddodd y Rheolwr hefyd fod y Cyngor yn gweithio ar ddogfen weithdrefnol fydd yn darparu mwy o fanylion am y broses o ddwyn achos Llys. Bydd y ddogfen yn cynnwys arweiniad i staff y Cyngor ar sut i ymateb i deithwyr; dull y Cyngor o benderfynu pa gamau i’w cymryd; y llwybrau cyfreithiol sy’n agored i’r Cyngor, a’r amserlen weithredu. Bydd gofyn i Swyddogion wneud penderfyniadau ar sail yr amgylchiadau sy’n eu hwynebu ym mhob gwersyll unigol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo’r Protocol.

  Gofyn i Fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru ymgymryd â gwaith pellach gyda busnesau yng Ngogledd Cymru i geisio eu barn ar y ddogfen ac i godi ymwybyddiaeth am ei bodolaeth.

  Bod Cyngor Sir Ynys Môn yn parhau i ddatblygu gweithdrefnau mwy manwl at ddefnydd swyddogion ac asiantaeth eraill ar yr Ynys.

Dogfennau ategol: