Eitem Rhaglen

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd)

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cyflenwi  Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd).

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Rheolwr Cyflenwi Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd) yn rhoi trosolwg o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn a Gwynedd yn ystod 2015/16 a’r datblygiadau ar gyfer 2016/17.

 

Mae gofyn i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor hwn bob blwyddyn i gyflwyno trosolwg o’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â hwy. Mae hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag Adran 19 a 20, Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006. Mae’n ddyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a’r diwygiadau dilynol yn sgil Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i’r agenda diogelwch cymunedol yn lleol.

 

Mae gan y Bartneriaeth ddyletswydd i ymdrin â:-

 

  Throsedd ac Anhrefn

  Camddefnyddio Sylweddau

  Lleihau aildroseddu

  Cyflawni asesiad strategol i adnabod blaenoriaethau (gwaith a wneir ar sail ranbarthol bellach)

  Rhoi cynlluniau ar waith i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn (mae cynllun bellach yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol)

 

Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai at y negeseuon cadarnhaol a dderbyniwyd a welir ym mhwynt 4 yr adroddiad fel a ganlyn:-

 

  Mae troseddau meddiangar yn Ynys Môn yn isel o gymharu ag ardaloedd eraill;

  Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau ers 2012;

  Mae’r niferoedd o bobl yn adrodd am drais yn y cartref ar gynnydd ers 2012, ac mae hynny i’w groesawu;

  Mae nifer y troseddau rhyw sy’n cael eu hadrodd wedi aros yr un fath;

  Mae ail-droseddu wedi gostwng.

 

Adroddodd y Swyddog Cefnogi, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd) bod cais wedi ei wneud, yn ystod y cyfarfod blaenorol ddeunaw mis yn ôl, am fwy o ddata ar berfformiad, ac mae hyn bellach wedi ei gynnwys yn yr atodiadau i’r adroddiad. Amlinellodd y Swyddog Cefnogi yr adroddiad a chyfeiriodd at y prif gerrig milltir y daethpwyd ar eu traws yn ystod 2016/17 sydd i’w gweld mhwynt 6 yr adroddiad.

 

Cododd yr Aelodau y materion a ganlyn:-

 

  Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi arwain mewn perthynas â throsglwyddo rhai gwasanaethau i system ranbarthol, mabwysiadu strwythur rhanbarthol mewn rhai meysydd gwaith y byddent yn atebol amdanynt.

  Cymharwyd lefelau ail-droseddu yn Ynys Môn gydag ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru a dengys y ffigyrau dueddiad tuag at i lawr, gyda chynnydd bychan o safbwynt aildroseddu ymysg oedolion.

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oes cynllun strategol yn ei le er mwyn ymdrin â throseddwyr yn CEM Berwyn, Wrecsam yn y dyfodol. Awgrymwyd fod cynrychiolydd o’r carchar newydd yn dod i gyfarfod y Cyngor Sir neu’r Pwyllgor Sgriwtini i roi cyflwyniad ar waith ataliol a chydweithio. Mae Bwrdd Rhanbarthol Goruchwylio Carchar yn bodoli eisoes, a bydd cyrff eraill yn gweithio o’r carchar o fewn cynllun rhanbarthol, fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ynys Môn.

  Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â sut fydd CEM Berwyn yn cael ei farchnata a’i hyrwyddo. Nodwyd bod staffio o fewn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi lleihau’n sylweddol, sydd wedi arwain at gyfyngu ar gyllid ac adnoddau ar gyfer marchnata.

  Tynnwyd sylw at effeithiau camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau yn y gymuned mewn perthynas â lladradau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nodwyd bod camddefnyddio  cyffuriau ac alcohol yn Ynys Môn yn debyg i ardaloedd eraill ond bod y gwasanaethau’n wynebu heriau mawr, oherwydd argaeledd cyffuriau newydd e.e. ‘sylweddau anterth cyfreithiol’ (legal highs), canabis synthetig ayb. Nodwyd hefyd bod gwaith yn cael ei wneud yn rhanbarthol gyda thimau llai oherwydd cyfyngiadau o ran arian ac adnoddau. Mae’r Bartneriaeth yn gweithio erbyn hyn gyda’r Bwrdd Cynllunio Ardal, ac mae nifer o adolygiadau gwasanaeth yn cael eu cynnal.

 

Nodwyd llwyddiant y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Mae nifer y troseddwyr tro cyntaf a phlant a phobl ifanc sy’n cael eu cefnogi gan y Gwasanaeth wedi gostwng yn sylweddol, ac ychydig iawn o oedolion ifanc sy’n derbyn dedfryd o garchar.

 

Gweithredu: Fel y nodwyd uchod.

 

PENDERFYNWYD croesawu’r adroddiad a’r atodiadau a chefnogi’r blaenoriaethau a’r gwaith i’r dyfodol.

 

 

 

Dogfennau ategol: