Eitem Rhaglen

Effeithiolrwydd cefnogaeth GwE wrth wella deilliannau ysgolion categoriau coch ac oren 2014-2016

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Her (GwE) yn amlinellu dadansoddiad o ganlyniadau gwaith a ymgymerwyd gan y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion (GwE) mewn ysgolion categori oren a choch yn Ynys Môn yn ystod y cyfnod 2014/16.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y broses hunan arfarnu a gofynnodd i Aelodau’r Pwyllgor sgriwtineiddio’r agweddau allweddol canlynol:-

           

  Sut mae’r Awdurdod yn monitro ac yn herio gwaith GwE?

  Sut mae’r Awdurdod yn gwybod os yw’n cael gwerth am arian gan GwE?

  Sut mae’r Awdurdod yn sicrhau bod gwaith GwE wedi’i alinio gyda chynlluniau a bwriadau lleol a bod yr agweddau allweddol sydd angen sylw yn cael eu targedu’n effeithiol?

  Pa wahaniaeth y mae cefnogaeth GwE wedi’i gael ar ddeilliannau, safonau cyflawniad ac ansawdd arweinyddiaeth yn ysgolion categori oren a choch yn Ynys Môn?

  Ym mha ysgolion y gwelir y gwahaniaethau amlycaf?

  Pa agweddau sydd angen eu blaenoriaethu wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau gwelliannau pellach?

 

Adroddodd yr Uwch Ymgynghorydd Her fod GwE yn cydweithio â nifer o ysgolion, rhai ohonynt fel astudiaethau achos, sydd yn ddienw. Nodwyd bod yr adroddiad wedi’i seilio’n bennaf ar berfformiad ysgolion cynradd, ond cyfeiriwyd hefyd at y ddwy ysgol uwchradd categori melyn/coch yn Ynys Môn y llynedd. Dim ond gydag un o’r ddwy ysgol uwchradd y bu GwE’n gweithio ac arweiniodd hynny at welliant sylweddol rhwng 2015/16. Roedd yr ysgol arall, a oedd yn rhan o’r blaengaredd cenedlaethol ‘Her Ysgolion Cymru’, a oedd yn cael ei arwain a’i fonitro gan y Gweinidog Addysg, wedi gwneud llai o gynnydd.

 

Rhoes yr Uwch Ymgynghorydd her grynodeb o berfformiad yn erbyn dangosyddion yn ysgolion Ynys Môn. Dywedodd mai prif gyfrifoldebau GwE oedd darparu arweiniad a chefnogaeth a gweithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i roi sylw i unrhyw heriau, er mwyn datblygu system addysg fydd â’r cynhwysedd, y sgiliau a’r hyder i ymgymryd â rhaglen hunan-wella.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol:-

 

  Mae hybiau Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio’n dda,  ond mae angen  parhau i’w gwella. Mae’r model cefnogi ysgolion a ddefnyddir ar hyn o bryd wedi cael ei addasu o ganlyniad i ganfyddiadau Estyn.

  Cyfeiriwyd at adroddiad Estyn, Ebrill 2016, a oedd yn nodi bod gormod o ffocws wedi ei roi ar wella ysgolion yn y categori oren/coch o gymharu â grwpiau eraill. Nodwyd bod ysgolion yn y categori hwn angen cefnogaeth fwy dwys er mwyn datblygu eu gallu i wella yn unol ag anghenion penodol. Mae ysgolion gorau’r Awdurdod yn rhagori o safbwynt perfformiad ac nid ydynt angen yr un lefel o gefnogaeth.

  Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ar y modelau categoreiddio ysgolion. Nodwyd bod yr Ymgynghorwyr Her yn trafod a monitro gwaith a pherfformiad ysgolion. Er bod cam 1 y broses gategoreiddio yn cael ei yrru gan ddata, Ymgynghorwyr Her ar y cyd â’r Awdurdod Addysg sy’n penderfynu’n derfynol ar gategorïau lliw ar sail gallu pob ysgol i wella ac ansawdd yr arweinyddiaeth.

  Nodwyd bod GwE yn defnyddio fformiwla i wneud y defnydd gorau o adnoddau er mwyn buddsoddi mewn ysgolion sydd  fwyaf angen cefnogaeth. Yn dilyn cyfnod o ymyrraeth gan Ymgynghorwyr Her i wella safonau, mae disgwyl i Benaethiaid redeg ysgolion yn effeithiol ar eu pennau eu hunain.

  Er bod meysydd ar gyfer gwella wedi eu hadnabod, cafwyd adborth cadarnhaol yn dilyn cyfarfodydd Penaethiaid a rhanddeiliaid eraill gydag Estyn ynghylch model newydd o weithio GwE, sy’n rhoi pwyslais ar agweddau cefnogi gwell.

  Os nad yw ysgolion yn ymateb yn bositif i’r heriau a’r gefnogaeth a ddarperir gan GwE, yna mae cyfrifoldeb ar yr Adran Addysg i ddatrys y materion a sicrhau bod ysgolion yn gwella. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr Awdurdod a GwE, fel bod modd monitro cynnydd ysgolion ac mae cyrff llywodraethu’n cael gwybodaeth am ddatblygiadau. Rhoddir cynlluniau gweithredu yn eu lle, ac mae Penaethiaid, timau rheoli a chyrff llywodraethu’n gweithio i amserlenni cytunedig.

 

Adroddodd Ymgynghorwyr Her GwE ar dair astudiaeth achos mewn ysgolion lle rhoddwyd cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i ysgolion cynradd yn dilyn ymyrraeth gan GwE. Y materion a gafodd eu hadnabod mewn perthynas â pherfformiad gwael mewn ysgolion oedd - safonau gwael; angen gwella’r dysgu a’r addysgu e.e. rhifedd; angen datblygu sgiliau arweinyddiaeth ayb. Rhoddwyd cynlluniau rheoli yn eu lle er mwyn gwella, a chafodd cynnydd ei fonitro ac adroddwyd i Lywodraethwyr Ysgol. Yn ystod y broses ymyrraeth, roedd gofyn hefyd i Ymgynghorwyr Her ymateb i argymhellion gan ar gyfer gwella gan Estyn. Yn dilyn ymyrraeth GwE, mae safonau mewn ysgolion wedi gwella yn sgil lefel y gefnogaeth a dderbyniwyd ynghyd â chymorth gan Benaethiaid, staff ysgolion a Llywodraethwyr, sy’n gweithio ar y cyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas ag effeithiolrwydd cyfraniad GwE i wella deilliannau’r ysgolion yn y categorïau Oren/Coch.

  Nodi a chefnogi argymhellion yr adroddiad i wella ysgolion yn y categori Oren/Coch.

Dogfennau ategol: