Eitem Rhaglen

Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig yn Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â’r uchod.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs. Ffion Johnstone – Cyfarwyddwr Ardal (Gorllewin) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr. Stephen McVicar – Cyfarwyddwr Meddygol Ardal (Gorllewin) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr and Ms. Sian Purcell – Prif Swyddog (Medrwn Môn) i’r cyfarfod. Croesawodd hefyd Swyddogion o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Proses Busnes) at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 sy’n gosod fframwaith cyfreithiol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gydweithio er mwyn asesu anghenion gofal a chefnogaeth pobl, ac anghenion cefnogaeth gofalwyr. Dywedodd bod y 6 awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru’n cydweithio â’r bwrdd iechyd lleol i gynhyrchu Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru sy’n adnabod anghenion gofal a chefnogaeth pobl ar hyn o bryd ac i’r dyfodol ac yn cefnogi integreiddio gwasanaethau. Cyhoeddir yr asesiad ym mis Ebrill 2017. Yn dilyn hynny bydd rhaid i’r awdurdodau lleol a’r bwrdd iechyd lleol lunio cynllun ardal o fewn deuddeg mis.

 

Cafwyd cyflwyniad byr a amlygodd y gwaith partneriaeth sy’n digwydd rhwng yr Awdurdod, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Trydydd Sector mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig yn Ynys Môn. Sefydlwyd byrddau gwasanaeth ac esboniwyd eu rolau i’r Pwyllgor fel a ganlyn :-

 

·           Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd (Gwynedd ac Ynys Môn);

·           Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc (Ynys Môn);

·           Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol;

·           Model Môn;

·           Bwrdd Cyflenwi Integredig (Ynys Môn);

·           Bwrdd Prosiect Un Pwynt Mynediad;

·           Bwrdd Rheoli Gwasanaethau Arbenigol Plant;

·           Bwrdd Cefnogi Teuluoedd Gogledd Cymru;

·           Bwrdd Rheoli Lleol Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd;

·           Nightowls;

·           Tîm Cymunedol Gweithio ar Benwythnosau.

 

Esboniodd Dr. McVicar rôl Tîm Gofal Uwch Môn sy’n cefnogi Meddygon Teulu i gadw cleifion sydd â phroblemau meddygol aciwt yn eu cartrefi pan fyddent fel arall yn cael eu hanfon i’r ysbyty. Lleolir y Tîm o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llangefni ac mae’n cynnwys Uwch-Ymarferwyr Nyrsio, Ymarferwyr Cynorthwyol a Meddygon Teulu ac mae’n cynnig cefnogaeth i bobl oedrannus bregus er mwyn eu cynorthwyo i aros yn eu cartrefi yn ddiogel. Cyfeiriodd Dr. McVicar at Dîm Model Môn sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Ynys Môn a’r Trydydd Sector ac sydd yn monitro prosiectau amrywiol sy’n cyflenwi gofal iechyd a chymdeithasol integredig i drigolion yr Ynys.

 

Cyfeiriodd Dr. McVicar at y tîm ‘Nightowls’ a sefydlwyd gyda chyllid y Gronfa Gofal Integredig. Grŵp o 6 o ofalwyr profiadol yw ‘Nightowls’ gyda 3 yn gweithio shifftiau ar sail rota. Mae ‘Nightowls’ yn cynnig gofal yn ystod y nos i bobl sydd wedi dod adref o’r ysbyty ac sydd bellach yn ôl yn eu cartrefi. Esboniodd bod y tîm Cymunedol Gweithio ar Benwythnosau, yn cynnwys Gweithiwr Cymdeithasol, Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol a Thîm o Nyrsys Ardal sy’n golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu i bobl Ynys Môn 7 niwrnod yr wythnos.

 

Esboniodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Plant waith y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd sy’n gweithio gyda theuluoedd lle mae camddefnyddio alcohol neu sylweddau yn brif ffactor risg. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu yng Ngwynedd ac Ynys Môn; mae’n dîm bach o ddim ond 6 pherson (4 aelod o staff y Cyngor a 2 aelod o staff y Bwrdd Iechyd).

 

Esboniodd Prif Swyddog Medrwn Môn rôl y gwasanaeth gwybodaeth Linc Cymunedol Môn a sefydlwyd gan Medrwn Môn ym mis Ionawr 2016. Mae Linc Cymunedol Môn yn darparu gwybodaeth i drigolion ynghylch gweithgareddau cymunedol ac yn cefnogi’r grwpiau cymorth sy’n bodoli yn Ynys Môn.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion rôl y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, sef tîm o staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi ei gydleoli ac sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned ar gyfer trigolion Ynys Môn. Mae’r gwasanaeth yn cynorthwyo oedolion sydd ag anghenion iechyd meddwl dwys, tymor byr a thymor hir, yn cynnwys y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl parhaus. Cyfeiriodd at y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol, sef tîm o staff gofal cymdeithasol ac iechyd sy’n cefnogi unigolion sydd ag anableddau dysgu yn Ynys Môn. Mae’r tîm yn un o chwech o dimau tebyg ar draws Gogledd Cymru. Gofal Cymdeithasol i Oedolion yw’r asiantaeth arweiniol ar gyfer cyflawni model gofal cymdeithasol o wasanaeth anabledd dysgu, gyda chydweithwyr iechyd yn darparu ymyriadau iechyd arbenigol i bobl ar y Gofrestr Anableddau Dysgu. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion hefyd at y Gwasanaeth Arbenigol Plant, sef tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys staff y Bwrdd Iechyd lleol a thîm Gwasanaethau Plant y Cyngor Sir. Sefydlwyd y gwasanaeth o dan Gytundeb Adran 33 rhwng y ddwy asiantaeth yn 2013. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl rhwng 0 – 18 oed a chanddynt anghenion cymhleth ac sy’n byw ar yr Ynys.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion bod o leiaf 49 aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a 52 o staff Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio yn ddyddiol (heb gynnwys staff sy’n gweithio ar brosiectau Cronfa Gofal Canolraddol). Mae’r gyllideb flynyddol ar gyfer yr holl wasanaethau yn £8.6m, gyda £6.7m ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu. Daw’r cyllid o ffynonellau amrywiol h.y. y Cyngor Sir, y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru. Mae dros 11,000 o oedolion a 150 o deuluoedd a’u plant yn elwa o’r gwasanaethau mewn blwyddyn.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

·           Er bod yr Aelodau yn croesawu’r gwasanaethau a gynigir gan y Bwrdd Iechyd, y Cyngor Sir a’r Trydydd Sector, ystyriwyd bod angen rhoi gwybod i drigolion lleol am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt a sut i gael mynediad at wasanaethau o’r fath. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol drwy ddweud bod angen integreiddio systemau gwybodaeth amrywiol er mwyn rhoi gwybod i bobl am y gwasanaethau sydd ar gael h.y. cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau fideo mewn clinigau ysbyty a meddygfeydd, ynghyd â gwybodaeth yn Cyswllt Môn a agorodd yn Swyddfeydd y Cyngor yn ddiweddar;

·           Cyfeiriodd Aelodau at y ganolfan yn Alltwen, Porthmadog sy’n darparu gwell mynediad i wasanaethau gofal iechyd yn lleol i gleifion. Mae’r gwasanaeth hwn yn Alltwen wedi derbyn cryn ganmoliaeth am y gwasanaethau a ddarperir. Gofynnodd Aelodau a fyddai modd cynnig darpariaeth debyg yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi? Dywedodd Mrs. Ffion Johnstone, a oedd yn cynrychioli’r Bwrdd Iechyd, bod y cyfleuster yn Alltwen yn cyfuno’r gwasanaethau gofal ac iechyd h.y. nyrsio cymunedol, staff ysbyty ynghyd â Meddygon Teulu, fel rhan o’r gwasanaeth a ddarperir. Mae’r gwasanaeth Gofal a Thrwsio hefyd yn rhan o’r gwasanaeth. Methodoleg y cyfleuster yw bod un person yn gofalu am anghenion yr unigolyn. Dywedodd bod model debyg yn gweithredu yn Ysbyty Penrhos Stanley lle mae tîm wedi ei gydleoli ond nid yw’r tîm wedi integreiddio’n llawn ar hyn o bryd.

·           Roedd Aelodau’n ystyried bod angen cofnodi manylion cleifion sydd angen un ai gofal neu ofal iechyd yn fanwl ar system gyfrifiadurol. Gofynnwyd a oedd gan y Cyngor system gyfrifiadurol ar y cyd â’r gwasanaeth iechyd er mwyn cofnodi manylion cleifion? Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol bod Awdurdodau Lleol Cymru a sefydliadau GIG Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i sefydlu system ar y cyd. Bydd System Wybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru (WCCSI) yn golygu y bydd modd rhannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn cynorthwyo i ddarparu gwell gofal a chefnogaeth i bobl ar draws Cymru. Bydd awdurdodau lleol Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn yn gweithredu’r system o Awst 2017. Dywedodd y bydd WCCIS yn gwella’r broses o rannu gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol a’r sector iechyd;

·           Cyfeiriodd aelodau at unigrwydd fel mater pwysig iawn sy’n effeithio ar bobl oedrannus sy’n byw ar eu pen eu hunain. Gofynnwyd cwestiynau am sut oedd y bwrdd iechyd a’r awdurdod lleol yn rhoi sylw i’r mater hwn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr awdurdod lleol yn annog integreiddio gyda’r bwrdd iechyd o ran hyrwyddo gweithgareddau drwy Ganolfannau Heneiddio’n Dda a bod cyllid Gofal Canolraddol wedi cynorthwyo gweithgareddau sydd wedi eu sefydlu eisoes h.y. Llanfairpwll, Amlwch a Llangefni.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Medrwn Môn am ddod i’r cyfarfod ac i’r holl Aelodau a Swyddogion y Cyngor Sir am eu cyfraniad i’r eitem hon.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Derbyn yr adroddiad fel diweddariad ffurfiol ynghylch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a ddarperir mewn partneriaeth;

·           Cefnogi gwaith partneriaeth a chydweithio i’r dyfodol o dan y Grant o’r Gronfa Gofal Canolraddol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: