Eitem Rhaglen

Barn Sgriwtini ar Opsiynau ail fodelu'r Gwasanaeth Ieuenctid

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddwyd bod adolygiad manwl o’r Gwasanaeth Ieuenctid wedi ei gynnal o 2013/14, o ganlyniad i’r Cynllun Corfforaethol ac anghenion y gwasanaeth, a bod 5 opsiwn wedi eu hadnabod ar gyfer datblygu’r gwasanaeth i’r dyfodol. Adnabuwyd opsiynau gwahanol y gellid eu darparu a fyddai’n arwain at arbedion effeithlonrwydd o rhwng 28% a 67%. Cynhaliwyd ymgynghoriad eang gyda dros 1,000 o bobl ifanc yn ystod yr hydref 2015. Gyda’r opsiynau  oedd yn weddill, cynhaliwyd Cynhadledd Ieuenctid ar 24 Medi 2016, gyda 54 o bobl ifanc yr ynys yn bresennol, gyda chroestoriad o bobl ifanc o 11 i 25 oed o bob rhan o’r ynys. Cyflwynwyd yr opsiynau hefyd i staff yn y Seminar Staff ar 8 Hydref 2016.

 

Yn 2013/14 cafodd Dysgu Gydol Oes y dasg o ganfod toriadau posibl rhwng 10% a 60% yng nghyllideb y gwasanaeth ieuenctid; cyllideb net y Gwasanaeth Ieuenctid ar y pryd oedd £560,170. Cynhwyswyd dadansoddiad o’r modelau/opsiynau ar gyfer lleihau gwariant yn yr adroddiad.

 

Yn ystod yr ail ymgynghoriad, amlygwyd y materion canlynol:

 

·           Dylid cadw’r ddau glwb ieuenctid ar gyfer pobl sydd ag anghenion addysgol arbennig yn agored;

·           Dim cefnogaeth i gael clybiau achredu amser cinio;

·           Nid oeddent yn fodlon teithio i glwb yn y dref os byddai clwb y pentref yn cau;

·           Dylai’r clybiau gael eu rhedeg gan weithwyr ieuenctid cymwys/profiadol, nid gwirfoddolwyr;

·           Ni ddylid cau clybiau ieuenctid bychan yn llwyr er mwyn cadw clybiau mawr ar agor am ddwy noson yr wythnos;

·           Mae’n bwysig bod y gweithwyr ieuenctid yn siarad Cymraeg;

·           Mae’n bwysig cael gweithiwr ieuenctid ym mhob ysgol;

·           Roeddent yn flin/siomedig bod y Cyngor yn gwneud toriadau i’r gwasanaeth ieuenctid.

 

Dywedodd y Prif Weithiwr Ieuenctid yr ystyrir bod risgiau’n gysylltiedig â’r ailfodelu oherwydd y newidiadau i swyddi rhan-amser a cholli staff cymwys sydd â phrofiad sylweddol. Yn ychwanegol, ni fydd yr un ddarpariaeth ar gael i bobl ifanc mewn cymunedau gwledig, er y bydd yn haws iddynt ddod i gysylltiad â’r Gweithwyr Ieuenctid gan y byddant yn gweithio’n agosach ag ysgolion.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

·           Mae pobl ifanc yn derbyn cyfleoedd gwerthfawr yn y clybiau ieuenctid ac mae angen gwarchod y gwasanaeth;

·           Yn ddiweddar, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi cefnogi ceisiadau am grant gan Sefydliad y Ffermwyr Ieuainc a’r Urdd, ond nid oes gan glybiau ieuenctid fynediad at arian grant o’r fath;

·           Mae pobl ifanc sy’n mynd i glybiau ieuenctid yn eu pentrefi yn anfodlon teithio i glybiau ieuenctid yn y trefi oherwydd bod cael ymdeimlad o berchnogaeth dros eu clwb ieuenctid yn holl bwysig iddynt. Gallai cau clybiau ieuenctid cymunedol arwain at bobl ifanc yn ymgasglu gan achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned oherwydd diffyg lleoliad iddynt gymdeithasu; nid oes gan rai pentrefi Glwb Ffermwyr Ieuainc nac adran yr Urdd;

·           Byddai lleihau nifer y clybiau ieuenctid yn amddifadu pobl ifanc o deithiau diwylliannol a hanesyddol i ardaloedd gwahanol yn y Deyrnas Unedig;

·           Caiff pobl ifanc gyfle i drafod pynciau amrywiol e.e. bwlio, addysg rhyw, cam-drin, problemau cyffuriau ac alcohol ayb;

·           Gofynnwyd a fyddai modd i’r clybiau ieuenctid gymryd cyfrifoldeb am/cynorthwyo gyda rhai elfennau o’r Fagloriaeth Gymreig h.y. gwaith gwirfoddol cymunedol. Dywedodd y Prif Swyddog Ieuenctid y byddai lleoli Gweithwyr Ieuenctid yn yr ysgolion uwchradd yn darparu pwnt cyswllt i bobl ifanc ar gyfer gwaith gwirfoddol/cymunedol;

·           O dan y trefniant newydd byddai pobl ifanc yn parhau i gael cyfle i gymryd rhan yng nghynllun Gwobr Dug Caeredin o fewn eu hysgolion gyda phob un heblaw un o’r opsiynau;

·           Mae pobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan yng nghynllun Gwobr Dug Caeredin o fewn y clybiau ieuenctid;

·           Yn ddiweddar, agorodd Cymunedau’n Gyntaf gyfleuster ar ôl ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaergybi. Mae ‘Pod Caergybi’ yn cynnig gweithgareddau i bobl ifanc sy’n disgwyl i’w rhieni/gofalwyr eu casglu ar y ffordd adref o’r gwaith. Gofynnwyd a fyddai canolfan o’r fath yn cael effaith ar y niferoedd sy’n mynd i’r clwb ieuenctid yng Nghanolfan Jesse Hughes? Dywedodd y Prif Swyddog Ieuenctid bod ‘Pod Caergybi’ yn denu plant a phobl ifanc sy’n dod yn syth o’r ysgol a bod y clwb ieuenctid ar agor yn hwyrach yn y nos. Awgrymodd yr Aelodau y byddai canolfan ‘Pod’ yn fuddiol mewn pentrefi/cymunedau eraill ar yr ynys. Ymatebodd y Prif Swyddog Ieuenctid drwy ddweud y byddai’n rhaid rhoi ystyriaeth i ddyblygu gwasanaethau cyn ystyried cyflwyno canolfan ‘Pod’ os oes clwb ieuenctid wedi ei leoli mewn tref;

·           Codwyd pryderon am benderfyniad y Pwyllgor Gwaith i beidio â thrafod dyfodol y Gwasanaethau Ieuenctid hyd nes bydd yr Ymgynghoriad ar Gyllideb y Cyngor wedi ei gynnal.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith :-

 

·           Mai Opsiwn 1, sef torri lleiafswm o 28%, yw’r opsiwn a ffafrir gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio;

·           Mynegi pryder na fydd y Pwyllgor Gwaith yn rhoi ystyriaeth i’r mater hyd fis Chwefror 2017.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: