Eitem Rhaglen

Asesiad Anghenion Poblogaeth

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion ar Pennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau Plant dros dro mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol  (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru yn nodi anghenion gofal a chefnogaeth presennol y boblogaeth ac ar gyfer y dyfodol, ynghyd ag anghenion cefnogaeth gofalwyr. Mae Ardal Gogledd Cymru yn cynnwys chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhaid paratoi un adroddiad ar gyfer Ardal Gogledd Cymru a rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y chwe Chyngor Sir a Bwrdd y Gwasanaeth Iechyd Lleol erbyn 1 Ebrill, 2017. Fe nododd fod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) angen i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynhyrchu adroddiad asesiad poblogaeth ar gyfer pob cylch etholiadol llywodraeth leol, bob 5 mlynedd, ynghyd ag adolygiad o’r asesiad ar ôl dwy flynedd. Nodwyd y  bydd yr Asesiad Anghenion Poblogaeth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhelir ym mis Chwefror ac yn dilyn hynny fe’i cyflwynir i’r Cyngor llawn ar gyfer ei gymeradwyo.   

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bydd yr Asesiad Anghenion Poblogaeth yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer ystyried gwasanaethau gofal a chefnogaeth y bydd eu hangen ar bobl yr Ynys yn y dyfodol. Bydd delio â’r cynnydd ym mhoblogaeth y bobl hŷn a phobl anabl yn heriol. Mynegodd Aelodau bryder am lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer gweithrediad y Cynllun Ardal Lleol.

 

Cododd yr Aelodau y materion canlynol:-

 

·           Gofynnwyd cwestiynau o ran sut roedd yr asesiad anghenion poblogaeth yn cael ei ariannu. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) gan ddweud bod nifer o grantiau wedi eu derbyn gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, yn ogystal ag amser swyddogion yr Awdurdod Lleol a byrddau iechyd. Cyfeiriodd yn benodol at y Grant Trawsnewid Datblygiadau (GTD) a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, mae hwn yn grant rhanbarthol er mwyn ariannu cydweithio ac arloesedd ar draws nifer o feysydd. Mae cyllid o’r grant GTD wedi hwyluso cyflogi Swyddog i gydlynu’r gwaith o baratoi’r Asesiad Anghenion Poblogaeth. Mae’r Grant Gofal Canolradd (GGC) hefyd wedi’i dderbyn sy’n canolbwyntio ar roi i bobl y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn eu galluogi i beidio â mynd i’r ysbyty yn ddi-angen, er mwyn eu helpu i fyw mewn modd mor annibynnol a phosibl ar ôl dod allan o’r ysbyty ac er mwyn eu hatal rhag gorfod symud i gartrefi preswyl neu gartrefi nyrsio tan fod gwir angen. Bydd y gronfa hon yn cefnogi’r bartneriaeth ranbarthol er mwyn ystyried gwasanaethau arloesol er mwyn bodloni’r anghenion y tynnwyd sylw atynt yn y PNA wrth symud ymlaen.    

 

·           Codwyd cwestiynau o ran pryd fydd yr awdurdod yn ymgynghori â sefydliadau/grwpiau allanol nad yw rhywun wedi ymgynghori â nhw hyd yma yn ystod y broses ymgynghori bresennol. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr drwy ddweud bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn nodi’r angen i ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â’r sefydliadau sy’n darparu’r gwasanaethau. Nododd y Rheolwr Integreiddio ac Ymgysylltu, o ganlyniad i amserlen y cyfnod ymgynghori, nad oedd y sector Camddefnyddio Sylweddau wedi’i ymgynghori ag ef yn fanwl. Fe nododd y byddai’n ddefnyddiol cael rhestr o ymgyngoreion na ymgysylltwyd â nhw yn ystod y broses hon o bosibl er mwyn sicrhau yr ymgynghorir â nhw yn ystod yr adolygiad nesaf o’r asesiad poblogaeth ymhen 2 flynedd.    

 

·           Codwyd cwestiwn am y cydweithio gyda’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol ac enwedig mewn perthynas â Chartref Preswyl Garreglwyd. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y Bwrdd Iechyd Lleol yn gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol mewn perthynas â Chartref Preswyl Garreglwyd a nododd ei fod yn rhannu rhwystredigaeth yr Aelodau Etholedig o ran y cynnydd araf sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. 

 

·           Ystyriodd Aelodau bod angen i Gyngor Gyrfaoedd ar gyfer pobl ifanc yn yr Ysgolion Uwchradd ganolbwyntio ar yrfaoedd o fewn y sector iechyd, yn enwedig gan fod y PNA wedi tynnu sylw at y ffaith y gall fod prinder Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion yn y dyfodol. Codwyd cwestiynau am yr anawsterau wrth recriwtio staff Cymraeg o fewn y sector iechyd. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion gan ddweud fod nifer o’r Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion sy’n gweithio ar yr Ynys yn gallu siarad Cymraeg ond ei bod hi’n fwy o her cael gweithwyr sector gofal dwyieithog.

 

·           Codwyd cwestiynau am faint o blant o awdurdodau lleol eraill sydd mewn gofal ar yr Ynys. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod 50 o blant rhwng 0 ac 18 oed mewn gofal ar yr Ynys. Holodd yr Aelodau faint o blant o Ynys Môn sy’n cael eu rhoi mewn gofal mewn awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y byddai’n ymgynghori â’r Gwasanaethau Plant ac adrodd yn ôl drwy’r Swyddog Sgriwtini.   

 

·           Codwyd cwestiynau am y newidiadau arfaethedig i ffioedd Gofal Cartref. Holodd Aelodau os yw rhai pobl yn gallu fforddio cynnydd o’r fath ac a fyddai  risg na fyddai pobl yn gallu byw yn hirach yn eu cartrefi. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod adborth gan rai defnyddwyr yn adlewyrchu y byddai’n well ganddynt beidio â gweld newid yng nghostau’r Gwasaneth Gofal Cartref. Nododd hefyd, petai rhywun yn nodi na fyddent yn gallu fforddio’r cynnydd mewn costau, y byddai eu hachos yn cael ei ystyried ar sail achos wrth achos. 

 

PENDERFYNWYD argymell y canlynol i’r Pwyllgor Gwaith:-

 

·           Bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r adroddiad llawn ac wedi hynny’n cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor Sir ar gyfer ei gadarnhau;

 

·           Bod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn dechrau gweithio ar y Cynllun Ardal Leol drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol; 

 

·           Ei fod yn nodi pryderon y Pwyllgor mewn perthynas â lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer gweithredu’r Cynllun Ardal Leol) a fydd yn dilyn ymlaen o Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru) ac na ddylai grwpiau a effeithir orfod ysgwyddo unrhyw gostau ychwanegol. 

 

(Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn cyflwyno’r dyfyniad o'r cofnodion drafft i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror, 2017. Bydd copi o’r cofnodion drafft ar gael i’r Pwyllgor Gwaith ar neu cyn 14 Chwefror, 2017). 

 

GWEITHRED: Fel yr uchod.

 

Dogfennau ategol: