Eitem Rhaglen

Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd) mai’r  Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (LlLlLlA) yw fframwaith adfywio trefol Llywodraeth Cymru, a oedd yn sail ar gyfer dyrannu £100 miliwn o arian cyfalaf yn y cyfnod Ebrill 2014 - Mawrth 2017. Gwahoddwyd pob awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno cynigion amlinellol ar gyfer y grant LlLlLlA a llwyddodd Caergybi i ddenu grant arian cyfalaf o £7.49m dros dair blynedd.  Roedd y rhaglen yn seiliedig ar fynd i'r afael ag anghenion a chyfleoedd o dan dair thema a oedd yn adlewyrchu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru, h.y. Cartrefi, Lle a  Phobl.  Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n anffurfiol fod rhaglen adfywio trefol newydd yn debygol o ddigwydd, yn dechrau ym mis Ebrill 2018, ond nid oes cyhoeddiad ffurfiol wedi'i wneud eto. 

 

Dywedodd y Rheolwr Adfywio y sefydlwyd Bwrdd Rhaglen LlLlLlA o Uwch Swyddogion y Cyngor a Llywodraeth Cymru er mwyn goruchwylio a llywio'r rhaglen yn ei chyfanrwydd.  ‘Roedd y rhaglen a’r prosiectau sy’n rhan ohoni’n cael eu cyflawni drwy dri phrif fecanwaith: -

 

·         Y Swyddfa Raglen ar gyfer LlLlLlA yn cyflawni elfennau yn uniongyrchol, sef cynlluniau prosiect ac astudiaethau, digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus, gwerthuso ac ati

·         Swyddogion eraill y Cyngor yn cyflawni prosiectau cyfalaf, gan ddefnyddio arian LlLlLlA a ddyrannwyd iddynt trwy broses grantiau mewnol, fel arfer ochr yn ochr ag arian arall

·         Sefydliadau eraill yn cyflawni prosiectau cyfalaf, gan ddefnyddio arian LlLlA a ddyfarnwyd iddynt drwy broses grantiau allanol, fel arfer ochr yn ochr ag arian arall

 

Yn seiliedig ar y meini prawf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen LlLlLlA, nododd ei fod yn amlwg mai Caergybi oedd yr unig gais realistig o Ynys Môn.  ‘Roedd yr arian LlLlLlA yn cael ei ddyrannu dros dair blynedd o dan saith pennawd cyllideb y cytunwyd arnynt â Llywodraeth Cymru.  ‘Roedd symiau’r cyllid a ddyrannwyd i’w gweld yn yr adroddiad. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) fod y Rhaglen wedi sicrhau gwelliannau sylweddol i dref Caergybi. Cyfeiriodd at y prosiect mawr yn Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi a fydd yn gwella cyfleusterau yn y dref.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn: -

 

·         Holwyd ynghylch dyrannu cyllid LlLlLlA tuag at y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yng Nghaergybi.  Ymatebodd y Rheolwr Adfywio fod tua £500k o arian LlLlLlA wedi ei  ddyrannu tuag at yr Ysgol Cybi newydd yng Nghaergybi, sy'n rhan o’r Rhaglen  Moderneiddio Ysgolion yn yr ardal. Bydd tair ysgol gynradd yn cael eu hymgorffori o fewn yr Ysgol Cybi newydd;

·         Holwyd a allai tref eraill ar yr Ynys elwa o raglen adfywio trefol newydd bosib yn y dyfodol. Ymatebodd y Rheolwr Adfywio bod yn rhaid i unrhyw gais a wneir yn y dyfodol fod yn realistig a chydymffurfio â’r meini prawf gan Lywodraeth Cymru. ‘Rydym yn disgwyl am y meini prawf hynny ar hyn o bryd. Nododd y bydd trefi mawr eraill yng Nghymru hefyd yn cystadlu am gyllid o'r fath. Nododd ymhellach bod cyllid grant arall ar gael o ffynonellau eraill megis yr NDA a’r Loteri ar gyfer prosiectau ar yr Ynys;

·         Holwyd ynghylch sylwadau a wnaed yn yr adroddiad bod meini prawf a gofynion Llywodraeth Cymru o ran darparu tystiolaeth wedi golygu llwyth gwaith sylweddol. Ymatebodd y Rheolwr Adfywio bod y gwaith monitro a thystiolaethu ar gyfer y rhaglen LlLlLlA wedi bod yn faich sylweddol i'r Tîm a fu’n ymwneud â'r cynllun ac anfonwyd sylwadau i’r perwyl at Lywodraeth Cymru.  Nododd fod Llywodraeth Cymru yn gwerthuso proses fonitro sy’n fwy hyblyg o ran rhaglenni LlLlLlA tebyg ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a diolch i'r Swyddogion am y gwaith a gyflawnwyd yn gysylltiedig â'r rhaglen LlLlLlA.

 

GWEITHREDU: Dim

 

 

Dogfennau ategol: