Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd ar y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Tai

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol y cafodd y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid ei chyflwyno gyntaf ar Ynys Môn yn 1998 ac mae’n rhoi’r cyfle i denantiaid a phrydleswyr gael dweud eu dweud ar sut mae eu cartref yn cael ei reoli. Fel landlord cymdeithasol yng Nghymru, mae gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn roi pob hawl i denantiaid gyfranogi ac mae gofyn iddo hyrwyddo rhagoriaeth yn y maes cyfranogiad tenantiaid er mwyn cydymffurfio â Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2007. Nododd mai Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid 2015 – 2018 yr Awdurdod yw’r trydydd strategaeth o’r fath ar gyfer y Gwasanaeth Tai. Nod y Strategaeth yw ymgynghori â’r tenantiaid a’u cynnwys yn y gwasanaeth. Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth am y prif lwyddiannau yn ystod 2016 – 2017 fel roeddynt wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y prif faterion a ganlyn:-

 

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch yr effaith bosib ar bobl sydd ar incwm isel yn sgil y newidiadau i’r system fudd-daliadau wrth i’r system Credyd Cynhwysol newydd ddod i rym. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol fod pryderon difrifol yn cael eu mynegi oherwydd yr effaith ar y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas yn sgil y system Credyd Cynhwysol, a’r posibilrwydd y bydd teuluoedd ifanc heb arian i dalu am bethau sylfaenol hanfodol gan y bydd rhaid iddynt aros am nifer o wythnosau i’r taliad Credyd Cynhwysol gael ei weinyddu. Nododd y bydd banciau bwyd dan bwysau eithriadol ar ôl i’r Credyd Cynhwysol gychwyn ac mae ymgyrch ‘Dewch â Thun’ wedi cael ei lansio ymysg gweithwyr y sector cyhoeddus i gyfrannu at fanciau bwyd lleol;

·      Mynegwyd pryderon na fyddai’r tenantiaid yn gallu talu eu rhent pan fyddent yn disgwyl am eu budd-daliadau trwy’r system Credyd Cynhwysol newydd; mynegwyd na ddylai pobl fod mewn perygl o golli eu cartref. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y bydd y Cyngor yn gefnogol i denantiaid sy’n aros am eu taliadau Credyd Cynhwysol cyn iddo gymryd unrhyw gamau trwy’r llys i adfeddiannu eiddo’r awdurdod lleol. Nododd y bydd tenantiaethau preifat a phobl sy’n hunangyflogedig hefyd yn cael eu heffeithio yn sgil cyflwyno’r system Credyd Cynhwysol;

·      Cyfeiriodd yr aelodau at ymgyrch y Gwasanaeth Tai sef y ‘dyddiau glanhau stad’ yn stadau tai yr awdurdod lleol yn ddiweddar. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol fod 22 o ddyddiau glanhau stad wedi digwydd yn ystod 2016/17 ac roedd y rhain yn cynnwys stadau yn Llangefni, Caergybi, Moelfre, Llanfairpwll, Aberffraw, Niwbwrch, Pentraeth, Llanddeusant, Llansadwrn, Benllech a Chemaes;

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch y berthynas waith gyda Heddlu Gogledd Cymru yng nghyswllt ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau tai. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol fod perthynas waith dda yn bodoli gydag Awdurdod yr Heddlu ac y cynhelir cyfarfodydd misol gydag Arolygydd yr Ynys i rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y stadau tai. Nododd ymhellach fod y Swyddogion Cefnogi’r Heddlu yn lleol yn gweithio gyda'r bobl ifanc ar stadau tai i yrru mentrau cymunedol ymlaen i geisio gostwng digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol;

·      Cyfeiriwyd at y Grŵp Llais Tenantiaid a Swyddogion Môn (MTOV) a holwyd cwestiynau am lwyddiant y Grŵp hwn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol fod Grŵp Llais Tenantiaid a Swyddogion Môn yn parhau i gyfarfod bob chwarter a’i fod yn cynnwys tenantiaid o bob cwr o’r Ynys. Nododd fod nifer o’r rhai sy’n cynrychioli tenantiaid yn byw yn ardal Caergybi ac ystyriodd fod angen rhoi sylw i gynyddu’r gynrychiolaeth gan denantiaid o ardaloedd eraill;

·      Cyfeiriwyd at yr ‘Hybiau Cymunedol’ sydd i’w gweld trwy gynlluniau tai gwarchod ar yr Ynys a holodd yr aelodau ynghylch llwyddiant y fath fenter. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol fod y 22 o lolfeydd cymunedol yn cael eu defnyddio bron yn ddyddiol a bod y tenantiaid yn eu gweld fel canolfan ragorol ar gyfer ffurfio hybiau cymunedol.

 

Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid anfon yr adroddiad hwn ymlaen i’r sesiynau briffio misol ar gyfer Aelodau Etholedig fel bod Aelodau’n cael y cyfle i fod yn ymwybodol o’r gwaith a wneir gan y Gwasanaeth Tai.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Derbyn yr adroddiad cynnydd ar gyfer 2016/17 a diolch i’r Swyddogion am eu gwaith;

·      Bod yr Aelodau Etholedig a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn chwarae rôl ragweithiol ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid a sicrhau bod gan yr holl denantiaid lais a rhan i’w chwarae mewn datblygiadau tai a chorfforaethol yn y dyfodol.

 

CAM GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

 

Dogfennau ategol: