Eitem Rhaglen

Diweddariad ynglyn a'r Cynllun Gwelliant - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Gwynedd

Cyflwyno adroddiad gan  Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Gwynedd mewn perthynas â’r uchod.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan Reolwr Rhaglen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y gwaith a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn llunio Cynllun Llesiant ar gyfer ardal Awdurdod Lleol Ynys Môn.

 

Adroddodd Rheolwr Rhaglen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mai prif ffocws gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd am y cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Mai 2017 oedd llunio Asesiad Llesiant ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn. Bydd y gwaith hwn yn arwain at gynhyrchu Cynllun Llesiant a gyhoeddir ym mis Mai 2018. Er mwyn ymateb i'r amserlen yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd angen cyhoeddi Cynllun Llesiant drafft erbyn canol mis Rhagfyr 2017. Wedi hynny cynhelir ymgynghoriad statudol am gyfnod o 12 wythnos ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, cynhelir gweithdai ar gyfer Swyddogion ac ymwelir â grwpiau cymunedol er mwyn gwerthuso safbwyntiau trigolion yr Ynys.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y cafwyd cyfarfod o'r Bwrdd ym mis Hydref a mis Tachwedd a bod trafodaethau yn parhau er mwyn cytuno ar amcanion Llesiant y Bwrdd. Fodd bynnag, bu llithriad o tua 4 wythnos o ran cyhoeddi Cynllun Llesiant drafft ar gyfer ymgynghoriad statudol. Mae hyn yn adlewyrchu'r her o weithio fel partneriaeth ond hefyd yn amlygu ymrwymiad aelodau'r Bwrdd i gynhyrchu Cynllun cyraeddadwy a chadarn ar gyfer trigolion Ynys Môn a Gwynedd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r adroddiad a chododd y prif faterion canlynol: -

 

  Gofynnwyd am eglurhad ar ddisgwyliadau'r Swyddogion ar gyfer y cyfnod ymgynghori ar y Cynllun Llesiant oherwydd iddo gael ei nodi mewn cyfarfodydd blaenorol fod y ffigurau’n siomedig o ran y niferoedd a fynychodd y gweithdai yn y 6 rhanbarth yn Ynys Môn. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen y bwriedir i Swyddogion fynychu grwpiau cymunedol yn ystod y cyfnod ymgynghori e.e. Ysgolion, Age Cymru a Chlybiau Ffermwyr Ifanc. Cynhelir ymarferiad ymgynghori ar-lein hefyd.

  Holwyd pryd y bydd y Pwyllgor Sgriwtini hwn yn cael gwybod am ganlyniadau'r broses ymgynghori. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen trwy ddweud y bydd aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini hwn, a'r holl Aelodau eraill, yn cael gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad fel ymgyngoreion statudol.

Dywedodd hefyd ei bod yn rhagweld y bydd Cynllun Llesiant Drafft yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo gyda hyn.

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd cydweithio gyda sefydliadau partner yn effeithiol o ran paratoi ar gyfer y Cynllun Llesiant. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod llithriad o 4 wythnos o ran cyhoeddi'r Cynllun drafft ar gyfer ymgynghoriad ond ychwanegodd fod yn rhaid i'r Cynllun Llesiant fod yn gadarn ac yn wydn i fynd i'r afael â materion mewn cymunedau lleol. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen hefyd fod y Bwrdd yn cwrdd bob mis ar hyn o bryd sy'n dangos ymrwymiad y sefydliadau partner a'r ddau awdurdod lleol i lunio Cynllun Llesiant effeithiol.

  Cyfeiriodd yr Aelodau at y 9 prif neges yn yr Asesiad Llesiant a nodwyd yn yr adroddiad a holodd pa mor realistig yw'r nodau hyn. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod y Bwrdd wedi trafod y 9 prif neges hyn fanwl ac wedi nodi bod gan bob cymuned ddiwylliant gwahanol ac anghenion penodol. Rhoddodd enghraifft bod yr Awdurdod hwn yn rhoi sylw i Raglen Trechu Tlodi a fydd yn bwydo i mewn i'r Cynllun Llesiant. Dywedodd ei bod yn bwysig gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu a chynnal cymunedau cryf a ffyniannus ac ychwanegodd hefyd fod angen rhannu gwybodaeth am weithgareddau yn fwy effeithiol.

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cyswllt rhwng y Cynllun Llesiant a Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor y bydd y blaenoriaethau o fewn Cynllun Corfforaethol yr Awdurdod hwn yn bwydo i mewn i'r Cynllun Llesiant. Dywedodd fod yr Awdurdod hwn wedi gwneud gwaith cynllunio ymlaen llaw fel bod y blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Corfforaethol yn cydblethu gyda disgwyliadau'r Cynllun Llesiant .

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â llunio Cynllun Llesiant ar gyfer ardal Awdurdod Lleol Ynys Môn;

 Y dylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyflwyno diweddariadau pellach i'r Pwyllgor hwn tra bod y Cynllun Llesiant yn cael ei ddatblygu.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

Dogfennau ategol: