Eitem Rhaglen

Panel Sgriwtini - Adolygu Cynnydd Ysgolion

Cyflwyno adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel SgriwtiniAdolygu Cynnydd Ysgolion a Swyddogion Cefnogol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion, a Swyddogion mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion fod 3 Phanel Sgriwtini wedi'u sefydlu a’u bod oll yn cwrdd yn rheolaidd erbyn hyn; mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed gan y Panel SgriwtiniAdolygu Cynnydd Ysgolion. Sefydlwyd y Panel gan y Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden ar 21 Tachwedd, 2012 ac fe ddeilliodd o argymhellion a wnaed gan Estyn ar ansawdd gwasanaethau addysg i blant a phobl ifanc ar Ynys Môn. Mae'r Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad Ysgolion yn rhoi arweiniad i'r Panel mewn perthynas ag ysgolion y gall fod yn briodol eu gwahodd i ymddangos gerbron y Panel. Mae'r meini prawf a ddefnyddir i ddewis ysgolion yn seiliedig ar y fframwaith cenedlaethol categoreiddio ysgolion, perfformiad ysgolion ac adroddiadau Estyn a'r nod yw cael cymysgedd da o ysgolion cynradd / uwchradd o wahanol faint.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad Ysgolion y rhoddwyd hyfforddiant i'r Aelodau Etholedig ar y Panel yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd fis Mai diwethaf. Roedd yr hyfforddiant hefyd yn canolbwyntio ar sut mae Pennaeth yn gweinyddu'r ysgol ac a oes gan y Pennaeth weledigaeth i wneud gwelliannau a gwella canlyniadau profion ac arholiadau yn eu hysgolion. Edrychodd yr hyfforddiant hefyd ar rôl Estyn a disgwyliadau Estyn o ysgolion. Yn ogystal, trafododd y Panel rôl GwE a gomisiynwyd gan yr Awdurdod Addysg i gynorthwyo i wella perfformiad ysgolion. Derbynnir adroddiadau monitro gan GwE ar berfformiad ysgolion unigol ac maent yn rhoi’r cymorth a'r arweiniad angenrheidiol pan nad yw ysgol yn perfformio fel y disgwylir iddi wneud. Mae'r Panel hefyd yn arfarnu ac yn monitro perfformiad yr ysgolion yn rheolaidd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r adroddiad a chododd y prif faterion canlynol: -

 

  Gofynnwyd a yw Cadeirydd ac Aelodau'r Panel yn fodlon â'r gwaith a wnaed gan y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion. Dywedodd aelodau'r Panel fod gwaith y Panel wedi bod yn adeiladol iawn ac wedi rhoi cyfle i'r aelodau fonitro ysgolion sy’n perfformio’n dda ac i herio ysgolion nad ydynt yn perfformio fel y disgwylir. Mae ystadegau a data am gyfnodau allweddol hefyd yn cael eu trafod a'u monitro yn y Panel Adolygu Ysgolion.

  Holwyd a ellir gwneud awgrymiadau i gryfhau gwaith y Panel. Dywedodd aelodau'r Panel fod dau aelod o'r Panel wedi ymweld â GwE yng Nghaernarfon yn ddiweddar; ystyrir ei bod yn hollbwysig eu bod yn gallu gweld a deall y gwaith a wneir gan GwE i wella a chefnogi ysgolion. Ystyrir bod gan GwE yr arbenigedd a'r wybodaeth i gynorthwyo ysgolion. Ystyriwyd hefyd y dylai Aelodau'r Panel hefyd gael y cyfle i ymweld ag ysgolion.

  Gofynnwyd a oedd y Pwyllgor Sgriwtini’n fodlon â chyflymder gwaith y Panel. Dywedodd y Pennaeth Dysgu y bydd y Panel wedi gweld 16 ysgol a bod 6 o'r ysgolion hyn wedi cael sylw am yr ail dro yn ystod y flwyddyn. Dywedodd ei bod, fel Pennaeth Gwasanaeth, yn fodlon iawn â gwaith y Panel hyd yn hyn.

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y bydd y Panel yn annog gwella’r canlyniadau yng Nghyfnod Allweddol 4. Ymatebodd aelodau'r Panel y dylai

gymryd i ystyriaeth y bydd canlyniadau Blwyddyn 11 mewn ysgolion uwchradd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd 2 o'r 5 Ysgol Uwchradd wedi bod gerbron y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion hyd yn hyn ond roedd yn galonogol nodi bod yr ysgol uwchradd fwyaf ar yr Ynys yn gwbl ymwybodol o'r anawsterau a gafodd ac wedi cyflwyno mesurau i wella canlyniadau Cyfnod Allweddol 4.

 

PENDERFYNWYD: -

 

 Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma gyda gwaith y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 Bod gan y Panel Sgriwtini Raglen Waith.

 Nad oes unrhyw faterion ar hyn o bryd y mae angen i’r Panel eu huwchgyfeirio i’r rhiant-bwyllgor.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

Dogfennau ategol: