Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd ar y Defnydd o'r Gymraeg o fewn y Weinyddiaeth Fewnol

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) ar y defnydd o'r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant ei fod yn cynrychioli'r Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid a'r Iaith Gymraeg gan nad oedd y Cynghorydd I. Williams yn gallu mynychu'r cyfarfod. Dywedodd fod y Cyngor Sir wedi mabwysiadu'r Polisi Iaith Gymraeg yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016 ac, wrth fabwysiadu'r polisi, penderfynwyd mabwysiadu paragraff 3.2.4 y Polisi Iaith Gymraeg fel y nodwyd yn yr adroddiad i gyflwyno adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor Sgriwtini ar y mater hwn ar yr un pryd â'r adroddiad blynyddol ar weithrediad y Polisi Iaith Gymraeg. Mae ymrwymiad hefyd yn Strategaeth Iaith y Sir i weithio i sicrhau mai Cymraeg yw prif iaith weinyddol y Cyngor Sir ar gyfer y cyfnod 2016-2022.

 

Rhoddodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth drosolwg o'r gwaith a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf mewn perthynas â datblygu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o fewn Gweinyddiaeth y Cyngor. Y nod tymor byr yw cynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg ar lafar trwy annog staff i siarad mwy o Gymraeg, p'un a ydynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn ddysgwyr da neu'n ddysgwyr llai profiadol; gellir defnyddio’r gweithle a chyfleon anffurfiol i ymarfer. Nododd mai’r Gwasanaeth Tai, ym mis Medi 2016, oedd y gwasanaeth cyntaf i gael ei ddewis i weithio'n ddwys gydag ef er mwyn sefydlu gwaelodlin o'r defnydd a wneir o'r Gymraeg o fewn y gwasanaeth. Cytunwyd ar Gynllun Gweithredu gyda'r Tîm Rheoli yn y Gwasanaeth Tai er mwyn cwrdd â’r amcan o ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Nodwyd Hyrwyddwyr Iaith yn y Gwasanaeth Tai ac maent wedi mynd ati o’u gwirfodd i gynhyrchu a dosbarthu holiadur ac wedi cynnal sesiynau ar gyfer eu cydweithwyr er mwyn sefydlu beth yw eu hanghenion a pha fath o gymorth y maent ei angen. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth mai’r gwasanaethau nesaf a fydd yn cael cymorth i annog staff i siarad mwy o Gymraeg yn y gweithle fydd y Gwasanaeth Hamdden a'r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd.

 

Cafodd y cyfarfod gyflwyniad byr gan ddau Hyrwyddwr Iaith o'r Gwasanaeth Tai. Cafwyd gwybod ganddynt fod 8 o Hyrwyddwyr Iaith wedi gwirfoddoli i gynnig eu gwasanaeth i hyrwyddo ac annog defnyddio'r Gymraeg yn y Gwasanaeth Tai. Gwnaed argymhelliad yn ystod y trafodaethau i greu cyfeiriad e-bost generig o fewn y gwasanaeth i Hyrwyddwyr Iaith Gymraeg fel bod staff yn cael y cyfle i rannu syniadau neu i ofyn am y cymorth y maent ei angen. Trefnwyd i Menter Môn fynychu cyfarfod staff y Gwasanaeth Tai i hyrwyddo'r Gymraeg ac i rannu hanes yr iaith dros ganrifoedd. Rhoddodd yr Hyrwyddwyr Iaith adborth ar 'Sesiwn Dydd Mercher Cymraeg' a gynhaliwyd yn ddiweddar a drefnwyd ar gyfer staff y Gwasanaeth Tai.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r ddau Hyrwyddwr Iaith am eu cyflwyniad ac am eu hymrwymiad i wella'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y Gwasanaeth Tai.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r adroddiad a chododd y prif faterion canlynol: -

 

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam mae’r Swyddogion o’r farn fod y rhaglen dreigl yn enghraifft o arfer da. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) mai'r nod yw bod y Cyngor yn defnyddio'r Gymraeg ar gyfer ei weinyddiaeth ond bydd angen sicrhau ac annog parodrwydd y staff i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob un o wasanaethau’r Cyngor. Nododd fod Prifysgol Bangor wedi darparu sesiynau hyfforddi i staff y Cyngor eu mynychu. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth mai'r nod yw datblygu model gweithio cynaliadwy o fewn gwasanaethau'r Cyngor ac i ddysgu o'r cynlluniau peilot i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Nododd ei bod yn bwysig sefydlu dulliau monitro perthnasol i fesur cynnydd.

  Holwyd a fyddai modd cymryd camau ymarferol pellach i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) ei bod o'r farn y gellid rhoi patrwm o ddatganiadau i staff ar gyfer ateb negeseuon e-bost; mae yna bethau ymarferol y gallai'r Cyngor eu hystyried. Roedd hi o'r farn fod llawer o staff yn y gorffennol wedi bod yn gyndyn o ddefnyddio'r Gymraeg ond mae'n rhaid eu hannog a'u cefnogi i fod yn fwy hyderus wrth siarad a defnyddio'r Gymraeg bob dydd.

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y gall y nod o ddefnyddio'r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth y Cyngor wella gwasanaeth cwsmer yn unol â nodau corfforaethol yr Awdurdod. Ymatebodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth y byddai staff mewn gwell sefyllfa i gynnig gwasanaeth cwsmer o safon uwch yn newis iaith y cwsmer pe bai’r Cyngor yn rhoi sgiliau dwyieithrwydd i’w staff. Byddai hefyd yn sicrhau bod gan yr Awdurdod y capasiti i gwrdd â’r Safonau Iaith Gymraeg yn y dyfodol.

  Holwyd a oedd y broses fonitro a amlygwyd yn yr adroddiad yn ddigon i gwrdd â'r her o ddefnyddio'r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth y Cyngor. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) fod y broses fonitro yn cael sylw yn y Grŵp Tasg Iaith. Mae'r Fforwm Strategol hefyd yn herio'r Cyngor ar y cynnydd a wneir o ran defnyddio'r Gymraeg o fewn y Cyngor.

  Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn cwestiynau gan y Cynghorydd Robin Williams nad oedd yn gallu mynychu'r cyfarfod hwn oherwydd ymrwymiad gwaith. Y cwestiynau a gafwyd oedd a oes cyfleuster ar gael i staff o ran geiriau ac ymadroddion technegol mewn meysydd gwaith penodol? Ymatebodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth fod yr Awdurdod wedi bod yn rhoi cyfle i staff fynychu cwrs Cymraeg dwys sef 'Cymraeg Clir'. Nododd hefyd y gall staff ddefnyddio'r cyfleusterau 'Cysgeir' a 'Cysill' sydd ar gael o fewn y Cyngor wrth baratoi ac ysgrifennu adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

GWEITHREDU: Bod adroddiad monitro blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini.

Dogfennau ategol: