Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd : Safonau Ysgolion

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant bod canran y disgyblion oedran ysgol statudol sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn Ynys Môn yn ystod y pum mlynedd diwethaf mewn cymhariaeth â Chymru ac awdurdodau unigol wedi gostwng yn sylweddol a bod yr awdurdod bellach yn y 7fed safle mwyaf breintiedig yng Nghymru. Mae hyn yn destun pryder oherwydd nid yw’r gymhariaeth yn cyfateb i economi leol yr Ynys. Nodwyd bod ysgolion yn derbyn grantiau yn ôl niferoedd y plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y tabl yn yr adroddiad, sy'n dangos nifer y disgyblion sydd ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r awdurdod wedi bod yn y 4ydd safle o blith yr ALl yn y sector cynradd sydd eto yn ymddangos yn uchel o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Dywedodd fod angen rhoi blaenoriaeth i'r mater dros y misoedd nesaf o ran y meini prawf ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.  Mae wedi cael ei brofi bod nifer y disgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yn ymddangos fel petai’n gostwng wrth i'r disgyblion symud i addysg uwchradd oherwydd mae’r awdurdod yn yr 8fed safle o blith yr ALl yng Nghymru. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant ymhellach at blant sy'n cael eu haddysgu gartref ac ymddengys bod yr Awdurdod yn cael ei gategoreiddio’n fwy ffafriol o fewn y maen prawf hwn.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Meinir Huws, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) a Mrs Sharon Vaughan, Cynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) i'r cyfarfod.  Dywedodd fod y ddau Swyddog wedi bod yn adrodd yn rheolaidd i'r Panel Sgriwtini - Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) ddadansoddiad manwl o'r data perfformiad gan dynnu sylw at y prif agweddau y mae angen i'r Pwyllgor roi sylw iddynt.

  

Cyfnod Sylfaen

 

·      Gosod disgwyliadau uwch yn y Cyfnod Sylfaen a datblygu gwell gwydnwch i osod targedau, asesu a thracio targedau ysgol er mwyn cau'r bwlch rhwng targedau a pherfformiad;

·      Hyrwyddo gwell defnydd o ddata a rhaglenni ymyrraeth i yrru'r gwelliannau angenrheidiol;

·      Parhau i sicrhau gwell cysondeb ar draws ysgolion mewn perthynas â dealltwriaeth o'r 'ffit orau' wrth osod lefelau terfynol;

·      Gwella addysgeg yn y Cyfnod Sylfaen gyda ffocws penodol ar wella cyfleoedd a gynllunnir i ddatblygu llythrennedd / rhifedd ar draws y meysydd dysgu; sicrhau gweithgareddau gyda lefel uchel o her; sicrhau cyfleoedd gwell i ddefnyddio sgiliau a sicrhau cydbwysedd gwell rhwng tasgau a arweinir gan yr athro / y dysgwr.

·      Codi safonau yn y Gymraeg fel iaith gyntaf yn y Cyfnod Sylfaen;

·      Parhau i ddatblygu gallu ysgolion i sicrhau ymagwedd heriol tuag at gynllunio wrth wella perfformiad, yn enwedig ar y lefelau uwch;

·      Cau'r bwlch ym mherfformiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim / y rhai nad ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim o ran y canlyniadau disgwyliedig ac yn y Gymraeg a Datblygiad Personol a Chymdeithasol o ran y canlyniadau uwch;

·      Targedu cefnogaeth i ysgolion lle mae eu perfformiad parhaus wedi bod yn y 50% isaf;

·      Parhau i weithio gyda Swyddogion yr Awdurdod Lleol i wella ansawdd yr arweinyddiaeth ar bob lefel i sicrhau na chaiff yr un ysgol ei rhoi mewn categori dilyn-i-fyny statudol ar ôl arolygiad Estyn;

·      Hyrwyddo gwell cydweithrediad rhwng ysgolion er mwyn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhaeadru a’u croesawu.

 

Cyfnod Allweddol 2

 

·      Parhau i osod disgwyliadau uwch yng Nghyfnod Allweddol 2 a datblygu gwell gwydnwch o ran trefniadau gosod, asesu a thracio targedau yn yr ysgolion a hyrwyddo gwell defnydd o ddata a rhaglenni ymyrraeth i yrru'r gwelliannau angenrheidiol;

·       Codi safonau yn y Gymraeg fel iaith gyntaf;

·                Parhau i ddatblygu gallu ysgolion i sicrhau ymagwedd heriol tuag at gynllunio wrth wella perfformiad, yn enwedig ar y lefelau uwch;

·                Cau'r bwlch ar y lefelau uwch rhwng y plant sy’n derbyn cinio ysgol am ddim / disgyblion nad ydynt yn derbyn prydau am ddim;

·                Targedu cefnogaeth i ysgolion lle eu mae perfformiad yn barhaus wedi bod yn y 50% isaf;

·                Parhau i weithio gyda Swyddogion yn yr awdurdod lleol i wella ansawdd yr arweinyddiaeth ar bob lefel i sicrhau na chaiff ysgol ei rhoi mewn categori dilyn-i-fyny statudol ar ôl arolygiad Estyn;

·                Hyrwyddo gwell cydweithrediad rhwng ysgolion er mwyn sicrhau bod arferion gorau’n cael eu rhaeadru a'u croesawu.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion canlynol: -

 

·      Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y strategaeth sydd gan yr awdurdod ar waith i nodi disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ymatebodd y Rheolwr Safonau a Chynhwysiant Ysgolion fod y system o adnabod disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi newid dros y blynyddoedd gyda'r Adran Gwaith a Phensiwn yn targedu'r bobl hynny sy'n derbyn budd-daliadau ac sydd â phlant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Dywedodd ei bod yn ymddangos nad yw'r system wedi bod mor llwyddiannus yn y blynyddoedd diwethaf a bod Swyddogion yr Adran Addysg bellach yn y broses o annog Penaethiaid i godi ymwybyddiaeth gyda rhieni sy'n derbyn budd-daliadau i sicrhau bod eu plant yn cael prydau ysgol am ddim.  Dywedodd y Pennaeth Dysgu y bydd y system Credyd Cynhwysol yn cael ei chyflwyno ym Mehefin 2018 a bod pryder mai prin bod rhai rhieni’n gallu ymdopi ar hyn o bryd gyda rhai â mwy nag un swydd dim ond i fedru dod drwyddi; nid yw'r bobl hyn yn gymwys ar gyfer budd-daliadau ac mae hynny’n achosi pryder.

·      Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oes diffyg cysondeb o ran asesu disgyblion rhwng ysgolion ar yr Ynys.  Ymatebodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) nad oedd yn ymwybodol bod anghysondeb rhwng ysgolion o ran asesu disgyblion. Dywedodd fod hyfforddiant wedi cael ei roi i ysgolion a nododd fod maint y garfan yn ysgolion Môn yn fach ac y gall un disgybl gael effaith ar y data. Dywedodd hefyd y gallai lefel yr asesiad fod wedi bod yn rhy uchel yn y gorffennol ond bod ysgolion sydd angen cymorth wedi cael eu targedu.

·      Gofynnwyd cwestiynau am y Cynllun Busnes a sefydlwyd ar gyfer gwella data mewn perthynas â pherfformiad ysgolion ac a oedd y Swyddogion yn hyderus y bydd gwelliannau yn y flwyddyn nesaf, yn enwedig yn y Cyfnod Sylfaen. Ymatebodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) fod ysgolion wedi gosod targedau ar gyfer perfformiad eu disgyblion a bod data wedi cael ei gasglu yn ystod yr hydref sy’n dangos gwelliant hyd yma.

·           Mynegwyd pryderon ynghylch sefyllfa Ynys Môn o ran cyflawniadau yn yr Iaith Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 2.  Dywedwyd  mai yn Ynys Môn a Gwynedd y mae’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.  Ymatebodd y Rheolwr Safonau a Chynhwysiant Ysgolion fod plant  fe ymddengys, yn cyfathrebu â'i gilydd yn Saesneg pan yn chwarae ar iard yr ysgol. Mae angen i Gyrff Llywodraethu, rhieni a chymunedau lleol herio ysgolion o ran eu perfformiad yn yr iaith Gymraeg.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) ddadansoddiad manwl o ddata perfformiad disgyblion mewn perthynas â'r pynciau craidd ynghyd â'r prif agweddau yr oedd angen eu dwyn at sylw’r Pwyllgor fel a ganlyn: -

 

Cyfnodau Allweddol 3, 4 a 5

 

·           Cydweithio mwy dwys gyda'r Awdurdod Lleol i fynd i'r afael â phryderon sylweddol mewn ysgolion uwchradd sy'n tanberfformio;

·           Gwella effeithlonrwydd Timau Uwch Arweinyddiaeth a Sicrhau Ansawdd a phrosesau atebolrwydd yng Nghyfnod Allweddol 4;

·           Sicrhau gwelliant mewn perfformiad mewn pynciau craidd trwy gefnogaeth yr Ymgynghorydd Pwnc. Mae cymorth wedi'i dargedu mewn 'tonnau' gyda 'Ton 3' yn golygu cefnogaeth ddwys: -

 

·      Gwella perfformiad mewn Mathemateg a Rhifedd. Cefnogaeth 'Ton 3' ar gyfer 1 ysgol, a chefnogaeth 'Ton 1' i ddwy ysgol;

·      Gwella perfformiad yn Saesneg.  Cymorth 'Ton 3' i ddwy ysgol.  'Ton 2' ar gyfer un ysgol, a chefnogaeth 'Ton 1' i ddwy ysgol;

·      Gwella perfformiad mewn Gwyddoniaeth.  Cymorth 'Ton 3' i ddwy ysgol.  Cefnogaeth 'Ton 2' ar gyfer dwy ysgol, a chefnogaeth 'Ton 1' i un ysgol.

 

·           Gwella perfformiad dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim, yn enwedig mewn dwy ysgol;

·           Gwella effeithlonrwydd arweinwyr rheolaeth ganol mewn prosesau Sicrhau ac atebolrwydd yng Nghyfnod Allweddol 4 ac wrth arwain yr asesiad dysgu / addysgu a'r gwaith tracio;

·           Sicrhau gweithredu mwy cadarn i wirio priodoldeb targedau a chynnydd tuag at dargedau a sicrhau bod arweinwyr ar bob lefel yn gwneud defnydd effeithiol ac amserol o systemau tracio er mwyn cynllunio ymyriadau effeithiol ac i fynd i'r afael ag ysgolion sy’n tanberfformio / sydd ddim yn gwneud cynnydd;

·           Sicrhau bod cynlluniau cymorth cynhwysfawr yn cael eu gweithredu a'u bod yn cael eu cyflwyno'n effeithiol i ysgolion, a chytuno ar weithgareddau dilynol ac amserlenni gyda'r Awdurdod Lleol lle mae unrhyw bryderon ynghylch cyflymder y cynnydd.

·           Rhannu arfer dda a sicrhau cefnogaeth briodol trwy Fodel Cydweithio Ysgolion Ynys Môn (a’r tu draw), gan sicrhau cydweithrediad mwy effeithiol rhwng ysgolion (ar bob lefel) i ledaenu arferion da a sicrhau cefnogaeth briodol.

·           Gwella perfformiad cyffredinol Lefel A, yn enwedig y graddau uwch;

·           Sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael;

·           Datblygu model rhanbarthol ar gyfer tracio a gwerthuso perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 5 a chraffu ar berfformiad mewn pynciau penodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chododd y materion canlynol: -

 

·           Mynegwyd pryderon ynghylch perfformiad disgyblion yn yr arholiadau a gyflwynwyd yn ddiweddar. Ymatebodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) bod disgyblion yn sefyll arholiad tair haen h.y. Haen Uwch, Canolradd neu Sylfaenol.  Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni ddyfarnwyd graddau C yn yr Haen Sylfaenol. Roedd yna newidiadau nodedig hefyd yn y Gymraeg a'r Saesneg, o ran cynnwys y maes llafur a’r asesiad. Yn 2017, gwnaed i ffwrdd â’r elfen gwaith cwrs ysgrifenedig, gydag ond yr arholiadau llafar mewnol yn cael eu hasesu, felly roedd y rhan fwyaf o'r asesiad yn seiliedig ar bapurau arholiadau. Yn 2018, dim ond y TGAU Gwyddoniaeth fydd yn cyfrif tuag at ddangosyddion perfformiad yr ysgol.  Mae llawer o ysgolion yng Nghymru wedi dileu'r BTEC Gwyddoniaeth o'u dewisiadau, ac mae hyn wedi creu anawsterau wrth gymharu Gwyddoniaeth gyda blynyddoedd blaenorol. Dywedodd y Pennaeth Dysgu ei bod wedi bod yn her i athrawon orfod addasu'r arholiad newydd ynghyd â’r newidiadau o ran gwaith cwrs. Derbynnir bod rhai ysgolion wedi paratoi’n gynt nag eraill ac o’r herwydd mae angen i ysgolion Ynys Môn ddysgu oddi wrth yr ysgolion sy'n perfformio orau.  Dywedodd ymhellach, er ei bod yn derbyn bod rhai blynyddoedd ysgol yn perfformio’n well nag eraill, roedd yn bryder bod rhai ysgolion yn ystod Mai 2017 yn dal yn methu darogan graddau’r disgyblion a oedd yn sefyll arholiadau yn y flwyddyn honno. Dywedodd y Pennaeth Dysgu ymhellach fod angen i Benaethiaid ac athrawon allu asesu a rhagweld graddau arholiad disgyblion a'u cefnogi i gyflawni'r graddau hyn;

 

·           Cododd Aelod y mater fod rhai Prifysgolion yn cynnig lleoedd di-amod i fyfyrwyr Lefel A a gofynnodd a yw data'n dangos nad yw'r disgyblion hyn yn cyflawni eu graddau disgwyliedig oherwydd y cynigion di-amod hyn.   Atebodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod angen edrych ar y mater hwn oherwydd nid yw'r data ar gael.  Nododd fod Prifysgolion yn cystadlu am fyfyrwyr i fynychu eu Prifysgolion penodol nhw.

 

PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd mewn safonau ar draws ysgolion Ynys Môn.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: