Eitem Rhaglen

GwE - Adroddiad Blynyddol 2016/17

Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol GwE 2016/17 gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.

 

Rhoddodd Rheolwr-gyfarwyddwr GwE adroddiad manwl ar Flaenoriaethau'r Cynllun Busnes ar gyfer 2017/18, ynghyd â throsolwg ar safonau addysgol ar draws Gogledd Cymru (2015/16).  Dywedodd fod Gwe yn darparu ystod o raglenni dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr sy'n amrywio o Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch i Brifathrawon profiadol. Roedd yr Uwch Ymgynghorwyr Her a’r Ymgynghorwyr Cymorth ar gyfer pob hyb yn gweithredu'n llawer mwy effeithiol o ran sicrhau ansawdd pob agwedd ar waith yr Ymgynghorwyr Her yn y timau priodol.  Adroddodd ymhellach bod gwella safonau a darpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen yn un o flaenoriaethau GwE.  Eleni, cynigiodd GwE raglen gymorth ranbarthol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen am y tro cyntaf, gan dargedu cynllunio, addysgu, asesu ac arwain.  Mae'r tîm Ymgynghorwyr Her Llythrennedd a Rhifedd wedi darparu ystod eang o raglenni cymorth a datblygu ar draws y rhanbarth i sicrhau ansawdd y cynllunio a'r ddarpariaeth yn y sectorau cynradd ac uwchradd.  Mae pob ysgol sydd mewn categori cymorth ambr neu goch wedi derbyn rhaglen o gymorth wedi'i theilwra i'w hanghenion penodol. 

 

Yn ogystal â hyn, mae cyflymder y gwelliant yn y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn arafach na'r hyn a welwyd ar lefel genedlaethol. Mae codi safonau yn y Cyfnod Sylfaen yn flaenoriaeth allweddol i’r consortiwm.  Yn gyffredinol, mae cyflymder y gwelliant yn y prif ddangosyddion yng Nghyfnod Allweddol 4 wedi bod yn rhy araf o'i gymharu â gweddill Cymru ac mae gwella ei berfformiad yn brif flaenoriaeth i’r consortiwm.  Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae perfformiad awdurdodau lleol unigol yn amrywio'n sylweddol ar draws y rhanbarth.  Dywedodd fod meysydd y mae angen eu datblygu yn cynnwys: -

 

·      Cynlluniau busnes cadarn sy'n ymateb yn fwy cyson i anghenion datblygu awdurdodau ac ysgolion unigol ac sydd wedi cael eu trafod a'u cytuno gyda rhanddeiliaid. 

·      Bod gan bob ysgol uwchradd a'r holl ysgolion sydd yn y categori cymorth ambr / coch gynlluniau cymorth priodol ar waith.

·      Defnyddio Ymgynghorwyr Her yn fwy effeithiol a defnyddio rhwydweithiau pwnc i gryfhau cydweithrediad adrannol.

·      Targedu unigolion sydd â'r potensial i fod yn Benaethiaid ysgolion ac i roi lefel o gefnogaeth i'r unigolion hyn ac i gynllunio'n gynt pan fydd Penaethiaid yn ymddeol i gael yr unigolion gorau posibl i gymryd eu lle;

·           Bod ar flaen y gad o ran yr heriau a wynebir er mwyn mynd i'r afael â'r prosesau archwilio newydd a gyflwynwyd gan y llywodraeth;

·        Gall Ynys Môn dderbyn cefnogaeth gan yr Ymgynghorwyr Her yn y sectorau cynradd ac uwchradd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chododd y materion canlynol: -

 

·      Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam y mae ysgolion categori ‘coch’ yn dal i fodoli pan mae GwE wedi buddsoddi mewn Ymgynghorwyr Her i gefnogi'r ysgolion hyn. Ymatebodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod ysgolion categori 'coch' wedi'u targedu gyda chefnogaeth ac arweiniad i'w helpu i ddarparu’r addysg orau bosibl ar gyfer y disgyblion. Dywedodd fod rhai ysgolion wedi derbyn cymorth uwchlaw eu gofynion a bod ysgolion eraill wedi dioddef o ganlyniad. 

·      Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut roedd yr Awdurdod yn gallu adnabod a denu Penaethiaid i arwain ysgolion ar yr Ynys. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu bod gan yr Awdurdod raglen ar gyfer Adnabod Arweinwyr y Dyfodol a gefnogir gan y Pwyllgor Gwaith. Gwneir gwaith, yn enwedig yn y sector cynradd, mewn cydweithrediad â GwE, i nodi arweinwyr y dyfodol;

·      Cyfeiriodd Aelod at y ffaith bod raid i ysgolion wneud arbedion effeithlonrwydd a bod athrawon profiadol yn gorfod gadael eu gwaith.  Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn her i'r sector addysg yn ystod cyfnod o orfod gwneud arbedion effeithlonrwydd. 

 

  PENDERFYNWYD: -

 

·      Nodi'r adroddiad a diolch i Reolwr Gyfarwyddwr GwE am fynychu'r cyfarfod;

·      Gofyn am i Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2017/18 gynnwys y gofynion ar gyfer cymorth ac arweiniad tuag at y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 4 yn Ynys Môn.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: