Eitem Rhaglen

Gwasanaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol a Chynhwysiad ar y Cyd

Cyfwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu ar y gwasanaeth newydd i blant a phobl ifanc a ddaeth i rym ym mis Medi 2018.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu fod Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad wedi ei sefydlu ar y cyd rhwng Gwynedd ac Ynys Môn i gymryd lle’r Cyd Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (Gwynedd ac Ynys Môn). Daeth y Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad i rym ym mis Medi 2016 a chytunwyd i gyflwyno adroddiadau monitro ar berfformiad y Strategaeth i’r Panel Sgriwtini ddwywaith y flwyddyn yn y lle cyntaf.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol fod y ddeddfwriaeth Anghenion Addysgu Ychwanegol (ADY) yn pwysleisio’r angen i roi’r disgybl yn ganolog i bob penderfyniad ynglŷn â’i addysg, ei ddyheadau a’i anghenion. Dywedodd hefyd fod Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn yn darparu gwasanaeth integredig cynhwysfawr ar draws lleoliadau addysgol yn y ddwy sir er mwyn :-

 

·      Hybu datblygiad ysgolion i fod yn leoliadau cynhwysol;

·      Lleihau effaith ADY ar ddeilliannau plant a phobl ifanc drwy wella sgiliau a chyflawniad;

·      Darparu addysg addas ac o safon uchel i blant a phobl ifanc ag ADY;

·      Lleoli gwasanaethau o safon uchel yn lleol;

·      Ystyried dyheadau ac anghenion unigol, a bod pob plentyn a pherson ifanc yn ganolog i’r gwasanaeth a’r ymyrraeth sy’n cael ei ddarparu ar ei gyfer/ei chyfer;

·      Sicrhau sgiliau o’r ansawdd uchaf o fewn y gweithlu canolog a’r gweithlu ysgolion er mwyn gwella perchnogaeth lawn a chynhwysedd ADY o fewn yr ysgol yn y ddwy sir;

·      Cyfrannu at wella ansawdd bywyd a lles drwy gyfoethogi’r ddarpariaeth addysgol sy’n cael ei darparu;

·      Lleihau’r garfan o blant sydd angen ymyrraeth ychwanegol oherwydd ADY trwy wella chynhwysiad o fewn y ddarpariaeth addysg;

·      Cryfhau cysylltiadau ac atebolrwydd am ADY ar draws haenau’r model darpariaeth.

 

Yn ogystal, adroddodd y Swyddog fod rhan fwyaf o waith y Tîm Arbenigol (heblaw am agweddau o waith y Seicolegwyr Addysg, Swyddogion Ansawdd ADY a Chynhwysiad, a’r Gwasanaeth Lles a Chwnsela) yn cael ei drefnu drwy’r Fforymau ADY a Chynhwysiad fel man cychwyn. Mae modd i unrhyw ysgol wneud cais am fewnbwn i’r Fforwm yn unol â’r Meini Prawf drwy ddefnyddio Cynllun Datblygu Unigol y plentyn. Yn achos y plant hynny sydd ag anghenion dwys a chymhleth, mae trafodaeth ynglŷn â’r anghenion hynny’n cael ei weithredu trwy Banel Cymedroli Sirol. Mae’r Fforymau a’r Panel yn gweithredu yn unol â Meini Prawf yr Awdurdod Lleol ar gyfer cael mynediad at a gadael y gwasanaeth. Rhan allweddol o rôl y Fforymau a’r Panel yw derbyn gwybodaeth ynglŷn â sut mae ysgolion yn defnyddio’r gwasanaethau arbenigol y maent yn eu derbyn ac a ydynt yn rhoi’r argymhellion a gynigir ar waith ar lawr y dosbarth. Mae Llwybr Cefnogaeth y gwasanaeth ADY wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn gweithredu ar draws y ddau awdurdod ac yn cynnwys Uwch Reolwr Cynhwysiad ac Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd yn gyfrifol am arwain y datblygiadau cenedlaethol arfaethedig (deddfwriaeth ADY) yn ogystal â gweithredu’n llawn ddeilliannau Adolygiad Strategol ADY a Chynhwysiad Gwynedd a Môn. Penodwyd Arweinydd Addysg Cynhwysol sy’n atebol am weithrediad dydd i ddydd ac ansawdd y ddarpariaeth Cynnal Ymddygiad, o’r blynyddoedd cynnar hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 4 ac mae Prif Seicolegydd Addysgol yn gyfrifol am oruchwyliaeth broffesiynol y tîm o seicolegwyr. Dywedodd yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol fod Swyddog Ansawdd ADY Ardal yn y ddwy sir yn sicrhau fod ansawdd ADY yn cael ei fonitro yn yr ysgolion gan adrodd i’r Swyddogion Addysg/Uwch Reolwyr pan fo hynny’n briodol. Dywedodd yn ogystal fod pecyn hyfforddiant, ar wahanol lefelau, yn cael ei ddarparu i ysgolion.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a gofynnwyd cwestiynau am y materion a ganlyn :-

 

·      Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r broses adrodd er mwyn craffu ar y gwasanaeth ADY. Dywedodd yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol fod y Gwasanaeth ar y Cyd yn ymwybodol fod disgwyl iddynt gyflwyno adroddiad monitro i Bwyllgorau Sgriwtini y ddau awdurdod ddwywaith y flwyddyn yn y lle cyntaf, ac i gyflwyno Adroddiad Blynyddol wedi hynny.

·      Codwyd cwestiynau ynglŷn â lefel y ddarpariaeth ledled y gwasanaeth yn y ddau awdurdod. Dywedodd yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol y byddai rhaniad gwasanaeth o 60% i Gyngor Gwynedd a 40% i Gyngor Sir Ynys Môn. Fodd bynnag, dywedodd fod modd i’r gwasanaeth fod yn hyblyg petai’r angen yn codi am fwy o wasanaeth ADY yn Ynys Môn.

·      Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn a beth yw’r heriau ymarferol y daethpwyd ar eu traws wrth sefydlu’r gwasanaeth newydd. Dywedodd yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol fod 115 o staff o Wynedd ac Ynys Môn wedi eu hymgorffori yn y gwasanaeth. Yn dilyn penodi Swyddog Ansawdd ADY yn y ddwy sir dywedodd fod modd i’r ddau swyddog ymweld ag ysgolion a chynnig arweiniad a chefnogaeth i staff ysgolion a’r plentyn mewn perthynas â’r ddarpariaeth ADY. Adroddodd ymhellach fod rhaid i ysgolion fod yn hyderus y gallant ofyn am gefnogaeth pan fod angen. Gofynnwyd am eglurhad pellach ynglŷn â sut mae’r gwasanaeth yn ymdrin â phryderon rhieni ynglŷn â’r ddarpariaeth a gynigir i blant sydd angen cefnogaeth ADY. Dywedodd y Pennaeth Dysgu ei bod yn gallu bod yn anodd i rieni dderbyn fod eu plant angen cefnogaeth drwy’r gwasanaeth ADY. Mae’r gwasanaeth yn darparu Cynllun Datblygu Unigol sy’n ymgorffori asesiad yr ysgol, y rhieni a’r gwasanaeth. Mae ymyrraeth gynnar a graddol yn hanfodol er mwyn lleihau anawsterau’r plentyn yn ddiweddarach yn eu haddysg.

·      Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â lefel yr hyfforddiant a ddarperir i staff addysgu yn yr ysgolion. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu drwy ddweud fod staff ysgolion yn cael cyfle i ddilyn cyrsiau dros gyfnod o amser er mwyn arbenigo mewn anghenion ADY gwahanol plant penodol yn yr ysgol honno h.y plentyn sydd â nam ar y clyw neu’r golwg.

·      Gofynnwyd a oes digon o Seicolegwyr Addysgol ar gael i ddarparu gwasanaethau arbenigol i gwrdd ag anghenion ADY plant a phobl ifanc gan fod rhai rhieni wedi dweud fod y system o dderbyn cefnogaeth yn ymddangos yn araf a bod cyfle i ddarparu ymyrraeth gynnar yn cael ei golli. Dywedwyd hefyd fod rhieni wedi nodi nad yw’r oriau a ddarperir gan y Seicolegwyr yn yr ysgolion yn ddigonol. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu drwy ddweud fod yr Awdurdod hwn wedi bod yn gwario llawer mwy ar y gwasanaeth Seicolegwyr Addysg dros y blynyddoedd. Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â faint o oriau fyddai plentyn yn ei dderbyn gan Seicolegydd Addysg. Ymatebodd yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy ddweud y byddai Seicolegydd Addysgol yn darparu gwasanaethau yn wythnosol am gyfnod o awr neu ddwy, ond pwysleisiodd y byddai gan y plentyn Gymhorthydd Addysgu fyddai wedi derbyn hyfforddiant i gynorthwyo’r plentyn gyda’i anghenion dysgu. Dywedodd ymhellach fod Athrawon yn yr ysgol yn derbyn hyfforddiant arbenigol i ymateb i anghenion plentyn sydd ag ADY.

·      Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â sut mae perfformiad staff yn cael ei fonitro mewn perthynas â’r gwasanaeth ADY. Dywedodd yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol fod y Swyddog Ansawdd yn ymweld ag ysgolion yr ynys ac yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i staff ynglŷn â’r gwasanaethau a ddarperir drwy’r gwasanaeth ADY. Nododd y bydd sesiynau ‘Galw i Mewn’ yn cael eu cynnal yn ystod y tymor ysgol nesaf er mwyn rhoi cyfle i staff a rhieni weld y gwasanaeth ADY a gofyn cwestiynau i staff proffesiynol. Dywedodd y Pennaeth Dysgu y bydd holiadur yn cael ei anfon at ysgolion er mwyn mesur y gwasanaeth ADY ac y bydd y data’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini maes o law. Nododd ei bod yn bwysig fod y dull o gasglu data yn electronig yn cael ei symleiddio er mwyn osgoi dyblygu. Roedd aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y dylid rhoi holiadur i rieni plant sy’n derbyn neu sydd angen cymorth ADY er mwyn casglu gwybodaeth am eu profiadau a’u sylwadau ac y dylid cyflwyno’r data hwnnw i’r Pwyllgor Sgriwtini.

·      Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â chynnydd yn nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg gartref. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu drwy ddweud fod y nifer sy’n dewis addysgu eu plant gartref yn cynyddu yn genedlaethol, gyda 39 yn derbyn addysg gartref yn Ynys Môn ar hyn o bryd. Mae’r gwasanaeth wedi adolygu gweithdrefnau yn dilyn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol newydd ac mae’r Gwasanaeth Lles yn ymweld â’r rheini bob blwyddyn (nododd fod y ddeddfwriaeth newydd yn datgan mai unwaith y flwyddyn yn unig y caniateir i’r gwasanaeth addysg ymweld â’r rhieni).

·      Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai hi oedd Cadeirydd ar y Cyd Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig cyn sefydlu’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad ar y Cyd a nododd fod Ynys Môn yn cynnig gwasanaeth cynhwysol i deuluoedd, ‘Teulu Môn’, sy’n gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Plant, Teuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol er mwyn derbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â Phlant neu deuluoedd plant o 0 – 25 oed. Cyfeiriodd yr arweinydd at y cynllun ‘Llechan Lân’ a nodwyd yn yr adroddiad y bydd yr adnodd newydd yng Nghaergybi’n agor ar ôl y Pasg; gofynnodd a fyddai’r adnodd hwn yn aros ar agor dan ofal y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad ar y Cyd newydd. Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod yr adnodd yn targedu Cyfnod Allweddol 3 a 4 ac y bydd pob disgybl yn cael eu harsylwi mewn ysgolion prif lif cyn symud i’r ddarpariaeth ‘Llechan Lân’ a bydd cynlluniau penodol yn cael eu rhoi mewn lle cyn i’r disgybl ddychwelyd i’r ysgol pan fyddant yn barod i wneud hynny.

·      Gofynnwyd a fydd angen adolygu Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad ar y cyd Gwynedd ac Ynys Môn. Dywedodd y Pennaeth Dysgu y bydd Bwrdd Anghenion Dysgu Ychwanegol Gwynedd ac Ynys Môn yn cyfarfod bob tymor ysgol i adolygu’r gwasanaeth a gynigir i blant a phobl ifanc yn y ddwy sir.

 

Diolchodd yr Aelod Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant i’r Swyddogion a’r Aelodau am eu sylwadau ac am graffu ar yr eitem cyn y cyfarfod. Dywedodd fod Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y cyd Gwynedd ac Ynys Môn angen amser i sefydlu ac y byddai adroddiad manwl, fydd yn cynnwys data ynglŷn â’r gwasanaethau a gynigir gan y Strategaeth, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini ymhen chwe mis.

 

PENDERFYNWYD : -

 

·      Nodi sefydlu’r Gwasanaeth newydd mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd.

·      Nodi bod y Gwasanaeth newydd yn cydymffurfio â’r Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

·      Derbyn yr adroddiad a nodi y bydd adroddiad manwl, fydd yn cynnwys data, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn ymhen chwe mis.

 

GWEITHREDU : Nodi sylwadau’r Pwyllgor fel y nodwyd uchod ac i dderbyn adroddiad diweddaru ymhen chwe mis.

 

Dogfennau ategol: