Eitem Rhaglen

Cymunedau yn Gyntaf - Adroddiad Blynyddol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Tai mewn perthynas â gweithgareddau a pherfformiad Cymunedau’n Gyntaf yn ystod 2017/18 a chynlluniau amlinellol ar gyfer 2018/19. 

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) bod yr Adroddiad Blynyddol yn amlygu’r cyllid y mae Cymunedau’n Gyntaf yn ei dderbyn gan yr Awdurdod a Llywodraeth Cymru. Un o’r prif raglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r Rhaglen Gwrth Dlodi, Y rhaglen Cymunedau Gwaith a’r Rhaglen LIFT sydd â’r nod o wella rhagolygon pobl sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Nododd, yn hanesyddol fod Cymunedau’n Gyntaf wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Tai er mwyn datblygu eu rhaglenni. Sefydlwyd Cymunedau’n Gyntaf i ddechrau er mwyn darparu cymorth i’r wardiau mwyaf difreintiedig yn Ynys Môn ond yn dilyn cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cabinet Cymunedau a Phlant y byddai’r Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn dod i ben ym Mawrth 2017, mae Cymunedau Ymlaen Môn bellach yn darparu cymorth a chyngor ar draws y rhan fwyaf o wardiau ar draws yr Ynys. Dywedodd Mrs Rita Lyon – Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) fod Cymunedau’n Gyntaf bellach wedi ei ail frandio yn Cymunedau Ymlaen Môn. Nododd fod Cymunedau Ymlaen Môn wedi sicrhau cyllid gan WEFO (Swyddfa Cyllid Ewrop Cymru) er mwyn darparu ‘Rhaglen Gymorth Mewn Gwaith’ sy’n targedu pobl sydd mewn cyflogaeth ond sy’n cael eu tangyflogi h.y. pobl mewn cyflogaeth rhan-amser neu’r rhai hynny sy’n ceisio gwella eu cyflogaeth. Mae Cymunedau Ymlaen Môn yn agor swyddfa newydd ym Mhorthaethwy y mis hwn er mwyn rhoi cymorth a gwasanaethau i ardal Seiriol. Dymunodd y Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) ddiwygio’r adroddiad a oedd gerbron y Pwyllgor a oedd yn darllen ‘Rhaglen Cymunedau ar gyfer Gwaith’ – 72 o bobl wedi ymgysylltu â’r prosiect ac 18 o bobl wedi eu cael i mewn i gyflogaeth.        

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y materion canlynol:-

 

·      Gofynnwyd am eglurhad ar gyflawniad y rhaglen LIFT a gynigwyd gan Cymunedau’n Gyntaf. Ymatebodd y Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) mai prosiect peilot am gyfnod o 3 blynedd gan Lywodraeth Cymru oedd LIFT. Roedd Ynys Môn yn un o naw ardal Clwstwr Cymunedau’n Gyntaf a gafodd ei hadnabod er mwyn targedu pobl sydd allan o waith am gyfnod dros dro; pobl sydd wedi treulio mwy na chwe mis allan o waith neu hyfforddiant; pobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf er mwyn gallu cael eu cyflogi h.y. rhieni sengl ifanc, oedolion ag ond ychydig neu ddim cymwysterau ffurfiol, pobl â record cyflogaeth wael ac unigolion ag anableddau. Mae’r rhaglen LIFT ar Ynys Môn wedi gweithio gyda 402 o unigolion ac wedi cael 144 o bobl yn ôl i waith dros gyfnod y cynllun a ddaeth i ben ym Mawrth 2018. Nododd fod y cynllun bellach wedi’i ddisodli gan y cynllun Cymunedau am Waith + a ariennir drwy WEFO. Gofynnwyd am gadarnhad pellach am faint o bobl sy’n aros mewn cyflogaeth ac a oedd Cymunedau Ymlaen Môn yn gallu monitro a chefnogi’r unigolion hyn. Ymatebodd y Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) bod y gwaith o fonitro pobl sydd wedi dychwelyd i’r gwaith drwy Cymunedau Ymlaen Môn yn cael ei wneud bob chwe mis a bydd unigolion sy’n disgyn allan o’r cynllun yn cael eu dychwelyd ar gyfer cymorth gan Cymunedau Ymlaen Môn. Nododd fod y bobl hyn wedi bod allan o waith am gyfnod hir ac y gall fod yn anodd addasu yn ôl i’r amgylchedd gwaith.      

·      O ganlyniad i Gymunedau Ymlaen Môn yn ehangu i gymunedau eraill yn Ynys Môn, awgrymwyd y dylai’r data ar bobl o fewn wardiau penodol ac ardaloedd sydd wedi manteisio ar y cyfleusterau a gynigir gan Gymunedau Ymlaen Môn gael ei gynnwys yn Adroddiad Blynyddol 2018/19. Holwyd a fyddai modd i Gymunedau Ymlaen Môn gynnig cymorthfeydd symudol mewn ardaloedd gwledig. Ymatebodd y Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) ei fod yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried ond mai dim ond ers mis Ebrill y mae’r sefydliad wedi gallu fforddio adnoddau ar draws y wardiau ar yr Ynys ac y bydd yn cymryd amser i drefnu cyfleuster o’r fath megis cymorthfeydd symudol. 

·      Cyfeiriodd yr Aelodau at Cymunedau Ymlaen Môn yn dychwelyd i Amlwch er mwyn darparu gwasanaethau, hyfforddiant a chefnogaeth er mwyn cael pobl yn ôl i’r amgylchedd gwaith. Gwnaed sylwadau fod cymuned leol Amlwch i weld yn anymwybodol o Gymunedau Ymlaen Môn a’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig. Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) fod Amlwch yn un o lwyddiannau Cymunedau’n Gyntaf Môn sydd â pherthynas waith dda gyda’r Ganolfan Byd Gwaith a Hyfforddiant Parys. Dywedodd y byddai’n rhoi ystadegau i aelodau lleol Amlwch o ran nifer y cyrsiau hyfforddiant a fynychwyd gan y trigolion.   

·      Holwyd a oedd gan Cymunedau Ymlaen Môn gyllid digonol er mwyn eu galluogi nhw i ddarparu gwasanaethau ar draws ar yr Ynys. Ymatebodd y Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) fod rhagolwg y gyllideb ar gyfer 2018/19 yn £1.1m y mae cyllid Llywodraeth Cymru yn ei roi drwy’r Awdurdod Lleol. Dywedodd, fel Prif Swyddog Gweithredol Cymunedau’n Gyntaf Môn ei bod yn hyderus bod y cyllid wedi’i ddiogelu tan 2021 er mwyn galluogi’r sefydliad i wneud ei waith. Cyfeiriodd Aelodau at yr ansicrwydd mewn perthynas â Brexit a’r effeithiau posibl ar nawdd grant i sefydliadau fel Cymunedau Ymlaen Môn. Ymatebodd Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) fod yr ansicrwydd o ran nawdd grant yn dilyn Brexit yn rhywbeth y mae’r holl sefydliadau sy’n ddibynnol ar arian Ewrop yn ei wynebu.  

·      Mynegwyd pryderon am y siopau gwag yn nhrefi’r Ynys a Chaergybi yn benodol. Ymatebodd Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) fod gan Cymunedau’n Gyntaf yn 2012 fenter a oedd, gyda chymorth yr Awdurdod Lleol, yn galluogi pobl i agor busnes bach heb orfod talu rhent am gyfnod yng Nghaergybi. Nododd ar hyn o bryd mai 8% o siopau Caergybi sy’n wag. 

·      Codwyd cwestiynau o ran y risg y mae’r Awdurdod yn ei gymryd er mwyn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Ymlaen Môn er mwyn darparu Cymunedau am Waith  + , Cymunedau dros Waith a’r Cyllid Etifeddiaeth. Nododd fod y sefydliad dros y blynyddoedd wedi gallu perfformio ac wedi gallu rhoi gwasanaethau i bobl ar y cyd ag amcan Cynllun y Cyngor i gefnogi trigolion i gyflawni eu llawn botensial a gwella ansawdd eu bywydau a’u llesiant. 

 

Holodd y Cadeirydd a oedd y Pwyllgor yn dymuno parhau i dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ar ôl i Lywodraeth Cymru ddod â’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf i ben. Roedd y Pwyllgor yn cytuno y dylai Cymunedau Ymlaen Môn gyflwyno eu hadroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bob blwyddyn.  

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cydnabod perfformiad Cymunedau Ymlaen Môn yn ystod 2017/18 yn ystod y flwyddyn derfynol o ddarparu Cymunedau’n Gyntaf;

·      Y bydd Cymunedau Ymlaen Môn yn parhau i adrodd i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bob blwyddyn. 

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

Dogfennau ategol: