Eitem Rhaglen

Craffu ar Bartneriaethau

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini fod gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn rhan bwysig o arferion gwaith yr Awdurdod, sy’n rhoi gwytnwch ychwanegol i gapasiti’r Awdurdod i allu darparu gwasanaethau. Mae nifer o adroddiadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi tynnu sylw at yr angen i wella a chryfhau trefniadau sgriwtini partneriaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus. Dywedodd hefyd bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn tynnu sylw ar yr angen i gryfhau’r gwaith o graffu partneriaethau a’i fod yn rhoi cynaliadwyedd hirdymor wrth wraidd y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a’u darparu ac y rhoddir pwyslais hefyd ar gyrff cyhoeddus yn cydweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau gwell canlyniadau rŵan ac yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini hefyd fod gan y Cyngor Sir brofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Gyda phwysau cynyddol ar gyllid cyhoeddus, mae gan y Cyngor ganllawiau clir yn eu lle er mwyn penderfynu pryd i sefydlu partneriaethau, pa wasanaeth(au) sy’n briodol a’r canlyniadau a ddisgwylir ohonynt ac ar gyfer rheolaeth gadarn o’r berthynas. Nododd fod y Pwyllgor Gwaith, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2016 wedi cymeradwyo Polisi Partneriaethau Corfforaethol fel sylfaen ar gyfer gwaith partneriaeth yr awdurdod a hefyd fel fframwaith ar gyfer arwain trefniadau monitro partneriaeth. Nododd ymhellach fod y Cyngor yn cadw cofrestr o’r holl bartneriaethau allweddol, a adolygir yn rheolaidd.      

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at y Flaen Raglen Waith 2018/19 a nododd fod angen i’r gwaith o graffu partneriaethau gael ei wneud a’i reoli mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar bartneriaethau strategol allweddol sy’n galluogi’r Cyngor i gyflawni ei amcanion a’i flaenoriaethau. Roedd rhestr o’r prif waith partneriaeth wedi’i chynnwys ym mharagraff 5.9 o’r adroddiad. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion canlynol:-

 

·      Holwyd a oes sefydliadau pwysig nad ydynt wedi eu cynnwys yn y ‘Gofrestr Partneriaethau’. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) ei bod hi’n bwysig peidio â dyblygu gwaith o ran y sefydliadau hyn. Nododd fod rhai adrannau eraill yn y Cyngor yn delio gyda ac yn cefnogi rhai sefydliadau e.e. Sefydliadau Addysgol a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd hefyd y dylai’r ‘Gofrestr Partneriaethau’ gynnwys y prif bartneriaethau sy’n derbyn nawdd gan yr Awdurdod. 

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran faint o arian y bydd y sefydliadau hyn ei dderbyn gan yr awdurdod hwn. Ymatebodd y Rheolwr Sgriwtini, unwaith y bydd y Pwyllgor hwn wedi penderfynu ar y prif bartneriaethau i’w cynnwys ar y ‘Gofrestr’ y byddai’r wybodaeth o ran cyllid, a ddylai gynnwys ‘capasiti ac argaeledd staff’, yn cael ei darparu i’r Pwyllgor yn y man;

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran sut y mae’r Awdurdod yn bwriadu monitro’r partneriaethau hyn y mae’n eu cefnogi. Ymatebodd y Rheolwr Sgriwtini fod gan yr Awdurdod hwn fframwaith i fonitro gwaith partneriaeth â sefydliad; bydd contract yn cael ei lofnodi rhwng y sefydliad, sy’n ddibynnol ar natur y bartneriaeth, â’r Awdurdod hwn. Mynegodd nad yw rhai partneriaethau â’r Cyngor yn derbyn cyllid gan y Cyngor ond fod y cysylltiad yn hanfodol os yw’r Cyngor yn mynd i gyflawni ei nodau. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) bod strwythur y gwaith partneriaeth yn hanfodol o fewn y broses fonitro.   

 

PENDERFYNWYD nodi a chefnogi:-

 

·      Craffu’r partneriaethau allweddol yr ymgysylltwyd â nhw yn ystod 2017/18.

·      Nodweddion sgriwtini partneriaeth effeithiol (a drafodwyd ym mharagraff 5.6 o’r adroddiad) fel sylfaen i ddatblygu ein trefniadau sgriwtini lleol ymhellach;

·      Partneriaethau allweddol sydd wedi’u hadnabod (ym mharagraff 5.9 yr adroddiad) i’w blaenoriaethu ym mlaen gynllun y Pwyllgor, dros gyfnod o 2 – 3 blynedd;

·      Camau nesaf arfaethedig fel y nodir ym mharagraff 5.9 yr adroddiad.

·      Bod strwythur y gwaith partneriaeth yn hanfodol o fewn y broses monitro. 

 

GWEITHRED: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: