Eitem Rhaglen

Panel Sgriwtini - Adolygu Cynnydd Ysgolion

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion a Swyddogion Cefnogol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan Banel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion a Swyddogion Cymorth mewn perthynas â’r uchod. 

 

Adroddodd y Cadeirydd, fel Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion, ers yr adroddiad cynnydd diwethaf a gyflwynwyd i’r cyfarfod hwn ar 6 Chwefror, 2018 bod y Panel wedi cyfarfod 5 gwaith. Mynegwyd fod y Panel yn ystyried hi’n briodol ei fod yn monitro’r Ddarpariaeth o Wasanaethau Dysgu/Cynllun Gwella ac ystyrir y bydd angen cryfhau’r Cylch Gorchwyl.   

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant fod y Panel Sgriwtini wedi canolbwyntio ar y pethau canlynol ers 6 Chwefror, 2018:-

 

·      Mae pedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd wedi bod gerbron y Panel ar wahanol ddyddiadau;

·      Cyn bob cyfarfod, bydd y Panel yn derbyn data perfformiad yr ysgol ac adroddiad ysgrifenedig cryno gan yr Uwch Swyddog Safonau a Chynhwysiant. Bydd y Panel hefyd yn gwneud defnydd da o’r wybodaeth a dderbynnir gan Swyddog GwE sydd ar gael ym mhob cyfarfod i drafod y gefnogaeth a roddir i’r ysgolion er mwyn mynd i’r afael â thanberfformiad. 

·      Ar 9 Chwefror, derbyniodd y Panel ddiweddariadau hanfodol mewn perthynas â pholisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad y Gymraeg drwy’r system Addysg. Derbyniodd y Panel drosolwg o’r heriau sy’n wynebu ysgolion penodol, ynghyd â chrynodeb o’r camau sy’n cael eu cymryd er mwyn bodloni’r Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg 2017 – 2021. 

·      Ar 20 Ebrill, ystyriodd y Panel yr heriau a’r gwersi i’w dysgu wrth agor ysgolion newydd.

·      Ar 8 Mehefin, adolygodd y Panel y gwelliannau mewn ysgol a welwyd gyntaf ym mis Hydref 2017. Cafodd y Panel ei ddarbwyllo bod yr ysgol ar y trywydd cywir ac yn gwneud cynnydd da yn erbyn y chwe argymhelliad a gafodd eu hadnabod gan Estyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) fod gwaith y Panel Sgriwtini: Adolygu Cynnydd Ysgolion: yn hanfodol er mwyn herio a gwella safonau ysgolion yr Ynys. Bydd canlyniadau arholiadau ysgolion uwchradd yr ynys yn rhoi syniad o’r gwelliannau o fewn addysg er mwyn gallu cydymffurfio â meini prawf disgwyliedig Estyn.   

 

Ailadroddodd y Deilydd Portffolio Addysg fod gwaith y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi bod yn hanfodol er mwyn gallu herio a gwella ysgolion. Nododd fod un ysgol wedi bod gerbron y Panel ar ddau achlysur. Mynegodd nad yw ysgolion wedi bod yn cwblhau hunan-werthusiadau gonest a manwl gywir sy’n cyd-fynd â disgwyliadau GwE. Dywedodd y Deilydd Portffolio Addysg fod y Siartr Iaith Gymraeg wedi dod yn bell er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn ddewis iaith pob dydd; mae Polisi Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod yr holl ysgolion yn dilyn y Cwricwlwm Cymraeg iaith Gyntaf ac na fydd y Cymhwyster Cymraeg Ail Iaith ar gael yn y dyfodol.   

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ac fe godwyd y materion canlynol:-

 

·      Mae rôl Llywodraethwyr Ysgolion ynghyd â’r Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion yn hanfodol er mwyn gwella addysg ar yr Ynys. Roedd y Deilydd Portffolio Addysg yn cytuno’n gyfan gwbl bod rôl aelodau etholedig fel Llywodraethwyr Ysgolion yn un hanfodol; 

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran a yw Penaethiaid Ysgolion yn derbyn cymorth ac arweiniad pan fyddant yn dod gerbron y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion. Ymatebodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant fod y Panel Sgriwtini wedi aeddfedu o ran yr elfennau o ddeall cryfderau a gwendidau o fewn meysydd penodol yn yr ysgolion ac o ran sut maent yn gallu herio unigolion pan fyddant yn cael eu galw gerbron y Panel. Nododd mai dyhead yr Awdurdod, GwE ac ysgolion ar yr Ynys yw gallu darparu’r cyfleoedd gorau posibl i ddisgyblion.   

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Nodi’r gwaith y mae’r Panel Sgriwtini: Adolygu Cynnydd Ysgolion yn ei wneud a diolch i Aelodau’r Panel am eu gwaith; 

·      Cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Panel (fel a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad);

·      Cymeradwyo i’r negeseuon allweddol yn yr adroddiad gael eu tynnu at sylw’r Deilydd Portffolio (Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid) a’r Pennaeth Dysgu. 

 

GWEITHRED: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: