Penderfynwyd argymell i’r Cyngor -
• Ei fod yn mabwysiadu’r Protocol sydd wedi ei gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.
• Ei fod yn rhoi’r awdurdod i Bennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro) y Cyngor i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer y prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) yn y Cyfansoddiad ac unrhyw newidiadau a wneir o ganlyniad er mwyn adlewyrchu mabwysiadu’r Protocol yn Atodiad 1.