Penderfynwyd –
• Peidio â dyrannu’r ddau grant sydd wedi eu hymgorffori yn y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) i gyllidebau’r gwasanaethau perthnasol oherwydd caniatawyd ar gyfer hynny yn y gyllideb ddigyfnewid.
• Cymeradwyo cyllideb ddigyfnewid o £137.402m ar gyfer 2019/20 ac y dylai hyn fod yn sail ar gyfer cyllideb refeniw 2019/20.
• Bod y Pwyllgor Gwaith yn penderfynu ar y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20 a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
• Ar ôl caniatáu ar gyfer y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor, dylai’r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud digon o arbedion yn 2019/20 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb orfod defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac er mwyn sicrhau bod yr arbedion y mae angen eu gwneud yn 2019/20 yn gyraeddadwy.
• Bod y Pwyllgor Gwaith yn ceisio barn y cyhoedd ar yr arbedion arfaethedig.