Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Lleol diwygiedig ar gyfer y Cynllun Taliadau Tai Dewisol (TTD) am 2019/20 a’r blynyddoedd dilynol fel y’i nodir yn Atodiad A, gan nodi y bydd y cynllun a gymeradwyir yn berthnasol am y blynyddoedd dilynol ac y bydd yn dod yn ôl gerbron y Pwyllgor Gwaith dim ond pan fydd angen ei ddiwygio yn y dyfodol.