7.1 FPL/2018/42 – Cais llawn i godi 8 o anheddau marchnad agored a 2 o anheddau fforddiadwy, creu mynedfa newydd a ffordd i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol yn cael ei lofnodi yn cynnwys yr ymrwymiadau fel y cawsant eu rhestru yn yr adroddiad.
7.2 FPL/2019/31 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol yn uned gwyliau ynghyd â gosod tanc septig newydd yn Tŷ Mawr, Pentraeth
Penderfynwyd ail-gadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac i awdurdodi’r Swyddogion i osod amodau ar y caniatâd, fel y bo’n briodol.